{"id":19857,"date":"2025-07-30T10:21:25","date_gmt":"2025-07-30T10:21:25","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/?post_type=news&p=19857"},"modified":"2025-12-11T21:52:09","modified_gmt":"2025-12-11T21:52:09","slug":"penderfyniadau-hollbwysig-yn-hanfodol-er-mwyn-sicrhau-cynaliadwyedd-llywodraeth-leol","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/penderfyniadau-hollbwysig-yn-hanfodol-er-mwyn-sicrhau-cynaliadwyedd-llywodraeth-leol\/","title":{"rendered":"Penderfyniadau hollbwysig yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd llywodraeth leol"},"content":{"rendered":"\n
Mae\u2019r cynigion cynnar y Gweithgor yn canolbwyntio ar sut gall cynghorau ddiogelu eu hunain at y dyfodol yn wyneb pwysau a galw cynyddol yn dod ag arweinwyr cynghorau, prif weithredwyr ac arbenigwyr annibynnol at ei gilydd.<\/p>\n\n\n\n
Mae\u2019r gr\u0175p wedi cyhoeddi papur sefyllfa cychwynnol sy\u2019n edrych ar ddiben craidd a swyddogaethau allweddol llywodraeth leol yng Nghymru, gan dynnu sylw at rai dewisiadau a chyfaddawdau hollbwysig y bydd angen eu gwneud i sicrhau y gall cynaliadwyedd cynghorau yn y dyfodol barhau i gyflawni ar gyfer eu cymunedau.<\/p>\n\n\n\n
Dyma rai o ddatganiadau sefyllfa allweddol y gweithgor:<\/p>\n\n\n\n
Democratiaeth leol yw pwrpas craidd a gwerth llywodraeth leol yng Nghymru.<\/strong>
Drwy fod yn \u2018agos\u2019 at eu poblogaethau, gall cynghorau gynllunio a darparu gwasanaethau sy\u2019n ymateb i gyd-destunau lleol. Fodd bynnag, oherwydd pwysau cynyddol ar gyllidebau ac adnoddau, mae llywodraeth leol yn ei chael hi\u2019n anodd ymateb i flaenoriaethau lleol. Mae hyn yn cyfyngu ar allu cynghorau i sicrhau newid ystyrlon i\u2019w cymunedau.<\/p>\n\n\n\n
Heb fuddsoddiad pellach sylweddol, mae llywodraeth leol yn anghynaliadwy yng Nghymru.
<\/strong>Mae llywodraeth leol yn wynebu cyfres o bwysau difrifol. Gwasanaethau cymdeithasol, addysg a thai sydd amlycaf yng ngwariant awdurdodau lleol ac mae pwysau cost wedi codi\u2019n sylweddol gyda chwyddiant a chodiadau cyflog. Y canlyniad yw bod swyddogaethau \u2018creu lleoedd\u2019 sy\u2019n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lesiant cymunedau yn cael eu gwasgu allan.
Mae angen i ofal cymdeithasol gael ei ariannu a\u2019i ddarparu\u2019n wahanol, ac integreiddio\u2019n well ag iechyd, ond fe ddylai aros o fewn cyfrifoldeb awdurdodau lleol.<\/strong>
Heb fuddsoddiad sylweddol gan y llywodraeth ganolog, ni fydd unrhyw newidiadau i gyllid lleol a\u2019r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn arwain at newid llawer ar y canlyniadau i breswylwyr.<\/p>\n\n\n\n
Mae angen integreiddio cyfrifoldebau iechyd cyhoeddus, sy\u2019n cael eu dal gan y byrddau iechyd ar hyn o bryd, \u00e2 phenderfyniadau awdurdodau lleol<\/strong>.
Byddai rhoi\u2019r cyfrifoldeb dros redeg gwasanaethau iechyd cyhoeddus i gynghorau yn debygol o greu problemau o ran graddfa i rai cynghorau llai am nad oes ganddynt ddigon o adnoddau.<\/p>\n\n\n\n
Mae cynghorau mewn sefyllfa unigryw i ddarparu polis\u00efau iechyd ataliol.<\/strong>
Nid oes digon o adnoddau ar gyfer ymyrryd yn gynnar ac atal gan fod cyfran gynyddol o\u2019r adnoddau sydd ar gael yn canolbwyntio ar fynd i\u2019r afael ag anghenion ac\u00edwt.<\/p>\n\n\n\n
Gan nad oes awydd i lwyr newid swyddogaethau neu strwythur sylfaenol llywodraeth leol yng Nghymru, mae\u2019n rhaid i fodelau cyflawni newid.
<\/em>Mae angen cyflawni rhai swyddogaethau\u2019n wahanol gan ddefnyddio technoleg newydd a\/neu drwy gydweithio sy\u2019n seiliedig ar flaenoriaethau cyffredin.<\/p>\n\n\n\n
Dywedodd yr Athro Steve Martin, cadeirydd annibynnol y Gweithgor,<\/strong> \u201cMae\u2019n amlwg o\u2019r gwaith cychwynnol mae\u2019r Gr\u0175p wedi\u2019i wneud bod angen mwy o gyllid ar frys ar awdurdodau lleol ond bod hefyd angen datblygu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol os ydyn nhw am fod yn gynaliadwy yn y blynyddoedd i ddod. Rydyn ni\u2019n gofyn am adborth ar gasgliadau cychwynnol y Gr\u0175p i brofi a ydynt yn cael eu rhannu gan deulu llywodraeth leol ledled Cymru ac er mwyn i ni allu dechrau datblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r heriau sy\u2019n wynebu pob cyngor\u201d.<\/p>\n\n\n\n
Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Llefarydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Fynwy:<\/strong><\/p>\n\n\n\n
\u201cRydyn ni\u2019n ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ond y gwir amdani yw bod cynghorau dan bwysau aruthrol. Ar \u00f4l blynyddoedd o danfuddsoddi, mae\u2019r sector cyfan mewn sefyllfa anodd.<\/p>\n\n\n\n
\u201cDaw\u2019r gweithgor hwn \u00e2 phrofiad, arloesedd ac uchelgais ynghyd o bob rhan o\u2019r sector i archwilio ffyrdd newydd o weithio a all gryfhau gwasanaethau cyhoeddus a\u2019n helpu i gyflawni ar gyfer ein cymunedau nawr ac yn y blynyddoedd i ddod. Dyma gyfle i weithio gyda\u2019n gilydd, i feddwl yn wahanol, ac i siapio dyfodol cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol.\u201d<\/p>\n\n\n\n
CLICIWCH YMA i ddarllen y papur sefyllfa ac YMA i gwblhau\u2019r arolwg. Mae\u2019r Gweithgor Annibynnol ar Lywodraeth Leol Gynaliadwy ar gyfer y Dyfodol \u2013 sy dan arweiniad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru mewn cydweithrediad \u00e2 Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru \u2013 wedi cyhoeddi cyfres o ganfyddiadau interim ynghylch dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru ac mae\u2019n gwahodd adborth o bob rhan o\u2019r sector. […]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":19049,"template":"","categories":[],"tags":[141,152],"research-and-impact":[],"class_list":["post-19857","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","tag-llywodraeth-leol","tag-llywodraethiad"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/19857","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/19857\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":19858,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/19857\/revisions\/19858"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19049"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19857"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19857"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19857"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19857"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}