{"id":19213,"date":"2025-07-30T09:30:39","date_gmt":"2025-07-30T09:30:39","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/?post_type=news&#038;p=19213"},"modified":"2025-10-02T11:45:31","modified_gmt":"2025-10-02T11:45:31","slug":"llywio-dyfodol-cynaliadwy-i-lywodraeth-leol-yng-nghymru","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/llywio-dyfodol-cynaliadwy-i-lywodraeth-leol-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Llywio dyfodol cynaliadwy i lywodraeth leol yng Nghymru"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC), ar y cyd \u00e2 Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), wedi sefydlu gweithgor sy\u2019n cynnwys arweinwyr etholedig a phrif weithredwyr awdurdodau lleol Cymru, ynghyd ag arbenigwyr annibynnol, i ddatblygu gweledigaeth glir a chyfres o gynigion a all gefnogi dyfodol cynaliadwy i lywodraeth leol yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae tystiolaeth a gasglwyd gan CPCC &nbsp;yn cefnogi\u2019r farn gyffredinol bod y model presennol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn anghynaladwy a bod gweledigaeth newydd, tymor hirach yn hanfodol os bydd awdurdodau lleol yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn y broses o ddeall ac ymateb i anghenion eu cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y Gr\u0175p yn cael ei gadeirio gan yr Athro Steve Martin, cyn-Gyfarwyddwr y Ganolfan, ac mae\u2019r aelodau allanol ac annibynnol yn cynnwys Max Caller CBE, Prif Gomisiynydd Cyngor Dinas Birmingham fel aelod annibynnol. Mae Mr Caller yn brif weithredwr profiadol yn yr awdurdod lleol ac mae wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi llwyddiant sawl cyngor. Bydd y Ganolfan, fel rhan o\u2019i arweinyddiaeth o\u2019r gr\u0175p, yn darparu\u2019r dystiolaeth ddiweddaraf a pherthnasol i lywio gwaith y gr\u0175p a sbarduno trafodaeth strategol rhwng actorion llywodraeth leol ac arbenigwyr annibynnol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er gwaethaf y cynnydd diweddar yn y cyllid a ddyrannwyd i lywodraeth leol, mae pwysau cyllidebol yn dilyn yr argyfwng costau byw, Covid, a\u2019r galw cynyddol am wasanaethau fel gofal cymdeithasol yn golygu bod llawer o gynghorau\u2019n gorfod cwtogi neu atal llawer o wasanaethau nad ydynt yn hanfodol \u2013 ac mae\u2019r amgylchedd ariannol a gwleidyddol presennol yn golygu bod cynnydd sylweddol pellach mewn cyllid yn annhebygol. Bydd y Gr\u0175p yn edrych yn gyfannol ar y prif faterion sy\u2019n wynebu llywodraethau lleol, gan gynnwys ei swyddogaethau, ei strwythurau, ei hatebolrwydd, ei llywodraethu, ei chyllid a\u2019i diwylliant, a bydd y weledigaeth a\u2019r cynigion y mae\u2019n eu datblygu yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r rhain.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Dan Bristow, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru:<\/strong>&nbsp;\u201cMae\u2019r Ganolfan yn cefnogi llunwyr polis\u00efau ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol i\u2019w helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 heriau mawr ym maes polisi drwy roi tystiolaeth ac arbenigedd annibynnol iddynt a thrwy gynnull sgyrsiau strategol a all helpu i ganfod datrysiadau ac ymatebion effeithiol ym maes polisi. Byddwn yn dod \u00e2\u2019r profiad a\u2019r persbectif strategol hwn i\u2019r gr\u0175p, ac rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at gydweithio i ddod o hyd i weledigaeth ar y cyd ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n gwerthfawrogi\u2019r cymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ond allwn ni ddim anwybyddu realiti\u2019r pwysau sy\u2019n ein hwynebu. Mae blynyddoedd o doriadau a thanfuddsoddi wedi gadael y sector mewn sefyllfa heriol. Os ydyn ni am barhau i gyflawni dros ein cymunedau, mae\u2019n hanfodol ein bod ni\u2019n wynebu\u2019r heriau hyn yn uniongyrchol ac yn gweithio tuag at ddatrysiadau cynaliadwy hirdymor. Mae\u2019r gr\u0175p hwn yn rhoi cyfle i ni gymryd rheolaeth dros ein dyfodol a sicrhau sector gwasanaethau cyhoeddus cryf a chadarn yng Nghymru.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae\u2019r Athro Steve Martin yn edrych ymlaen at gadeirio\u2019r Gweithgor. Ychwanegodd:&nbsp;<\/strong>\u201cLlywodraeth leol ydy curiad calon cymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae pwysau cynyddol yn ariannol, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol wedi ei gwneud yn anoddach i gynghorau ddarparu gwasanaethau \u2013 ond mae hefyd wedi gwneud y gwasanaethau hynny\u2019n fwy hanfodol i lawer o\u2019r dinasyddion a\u2019r grwpiau cymunedol hynny sy\u2019n dibynnu arnynt.<br>\u201cFel cadeirydd y Gr\u0175p, rydw i\u2019n falch iawn o gefnogi pobl allweddol o lywodraeth leol yng Nghymru i ddod at ei gilydd gyda chydweithwyr yn y Ganolfan i geisio datblygu gweledigaeth gyffredin a chynigion ymarferol a fydd, gyda gobaith, yn helpu cynghorau i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r heriau enfawr sy\u2019n eu hwynebu.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y gr\u0175p yn cwrdd yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn gyda\u2019r nod o gwblhau cyfres o gynigion i\u2019w hystyried cyn etholiadau\u2019r Senedd ym mis Mai 2026. Bydd holl allbwn y Gr\u0175p yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Ganolfan.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Aelodau\u2019r Gweithgor*<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yr Athro Steve Martin, Prifysgol Caerdydd (Cadeirydd)<\/li>\n\n\n\n<li>Y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd, Cyngor Sir Fynwy<\/li>\n\n\n\n<li>Y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd, Cyngor Sir Caerfyrddin<\/li>\n\n\n\n<li>Y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam<\/li>\n\n\n\n<li>Rob Thomas, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Bro Morgannwg<\/li>\n\n\n\n<li>Eifion Evans, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Sir Ceredigion<\/li>\n\n\n\n<li>Emma Palmer, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Sir Powys<\/li>\n\n\n\n<li>Martin Nicholls, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Abertawe<\/li>\n\n\n\n<li>Max Caller CBE, Prif Gomisiynydd, Cyngor Dinas Birmingham<\/li>\n\n\n\n<li>Simon Brindle, Cyfarwyddwr Gwelliant Parhaus, Llywodraeth Cymru (Arsylwr)<\/li>\n\n\n\n<li>Paula Walters, Pennaeth Dros Dro Polisi a Gwasanaethau Corfforaethol, CLlLC (Arsylwr)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Ysgrifenyddiaeth a swyddogaeth gefnogi<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yr Athro Dan Bristow, Cyfarwyddwr, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru<\/li>\n\n\n\n<li>Dr Helen Tilley, Uwch Gymrawd Ymchwil, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru<\/li>\n\n\n\n<li>Dr Jack Price, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru<\/li>\n\n\n\n<li>Ioana Filipas, Prentis Ymchwilydd, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>*Enw llawn y gweithgor yw\u2019r Gweithgor Annibynnol ar Lywodraeth Leol Gynaliadwy ar gyfer y Dyfodol<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC), ar y cyd \u00e2 Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), wedi sefydlu gweithgor sy\u2019n cynnwys arweinwyr etholedig a phrif weithredwyr awdurdodau lleol Cymru, ynghyd ag arbenigwyr annibynnol, i ddatblygu gweledigaeth glir a chyfres o gynigion a all gefnogi dyfodol cynaliadwy i lywodraeth leol yng Nghymru. Mae tystiolaeth a gasglwyd gan [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":19027,"template":"","categories":[],"tags":[141,152],"research-and-impact":[],"class_list":["post-19213","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","tag-llywodraeth-leol","tag-llywodraethiad"],"meta_box":{"project":"","lead_author":12458,"authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Wales-strategy-illustration-1024x576-1.jpg","filesize":77958,"sizes":{"medium":{"file":"Wales-strategy-illustration-1024x576-1-744x419.jpg","width":744,"height":419,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":40868,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wales-strategy-illustration-1024x576-1-744x419.jpg"},"thumbnail":{"file":"Wales-strategy-illustration-1024x576-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":40852,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wales-strategy-illustration-1024x576-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Wales-strategy-illustration-1024x576-1-768x432.jpg","width":768,"height":432,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":42897,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wales-strategy-illustration-1024x576-1-768x432.jpg"},"post-thumbnail":{"file":"Wales-strategy-illustration-1024x576-1-395x222.jpg","width":395,"height":222,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":16096,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wales-strategy-illustration-1024x576-1-395x222.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"19024","name":"Wales-strategy-illustration-1024x576-1.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wales-strategy-illustration-1024x576-1.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wales-strategy-illustration-1024x576-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wales-strategy-illustration-1024x576-1.jpg","title":"Wales-strategy-illustration-1024x576","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wales-strategy-illustration-1024x576-1-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wales-strategy-illustration-1024x576-1-768x432.jpg 768w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wales-strategy-illustration-1024x576-1-395x222.jpg 395w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wales-strategy-illustration-1024x576-1.jpg 1024w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/19213","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/19213\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19027"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19213"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19213"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19213"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19213"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}