{"id":19116,"date":"2025-07-31T22:01:32","date_gmt":"2025-07-31T22:01:32","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/website-launched-to-help-make-a-change-for-rct-residents\/"},"modified":"2025-10-21T12:31:33","modified_gmt":"2025-10-21T12:31:33","slug":"website-launched-to-help-make-a-change-for-rct-residents","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/website-launched-to-help-make-a-change-for-rct-residents\/","title":{"rendered":"Gwefan newydd i wneud newid ar gyfer trigolion RhCT"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) Rhondda Cynon Taf, a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), yn gwahodd pawb sy\u2019n byw, yn astudio, yn gweithio neu\u2019n chwarae yn y Fwrdeistref Sirol i fod yn rhan o wneud newid i wella canlyniadau iechyd yn RhCT.<\/p>\n\n\n\n<p>Profiad bywyd yn rhan bwysig o\u2019r CYBI ac yn rhan o\u2019r cam yma o\u2019r prosiect, mae\u2019r tim wedi lansio gwefan at ddibenion hysbysu, ymgysylltu a helpu pawb i gymryd rhan.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r wefan&nbsp;yn gyfle i ddysgu rhagor, mynychu cyrsiau a gweithdai, ymateb i arolygon a chwis, yn ogystal \u00e2 chymryd rhan yn uniongyrchol er mwyn helpu i \u2018Wneud Newid\u2019 i\u2019ch bywyd chi a chenedlaethau\u2019r dyfodol yn RhCT.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Enw\u2019r wefan yw:&nbsp;<\/strong><a href=\"https:\/\/gwnewchnewidyn.rctcbc.gov.uk\/\"><strong>https:\/\/gwnewchnewidyn.rctcbc.gov.uk\/<\/strong><\/a><strong>.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ymunwch a\u2019r t\u00eem yn achlysur CEGAID O FWYD CYMRU ddydd Sadwrn 2 Awst a dydd Sul 3 Awst 2025, o 11am i 5pm, i gael dysgu rhagor.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ystyr \u2018Penderfynyddion Iechyd\u2019 yw ffactorau anfeddygol sy\u2019n dylanwadu ar ein hiechyd. Mae modd i\u2019r rhain fod yn gorfforol, yn feddyliol, yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Maen nhw\u2019n cynnwys pa mor llygredig yw\u2019r aer yn eich stryd, ansawdd eich tai, trafnidiaeth, pa mor dda yw\u2019r ysgolion lleol a ph\u2019un a oes gyda chi swydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd, sy\u2019n cael ei gyd-arwain gan y Cyngor a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn dwyn ynghyd bartneriaid o Brifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Interlink RCT ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried sut mae modd i brofiad bywyd trigolion, ochr yn ochr ag ymchwil a thystiolaeth, helpu i sicrhau dyfodol iachach i bawb a gwella gwasanaethau lleol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Meddai Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yr Athro Dan Bristow:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae hwn yn gam cyffrous o\u2019r daith i greu diwylliant ymchwil bywiog sy\u2019n annog penderfyniadau sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cBydd y CYBI\u2019n helpu\u2019r Cyngor i gasglu ymchwil, tystiolaeth a safbwyntiau trigolion, ac yn eu defnyddio i lywio penderfyniadau a chyfleu\u2019r canfyddiadau i eraill. Mae gan awdurdodau lleol r\u00f4l allweddol i\u2019w chwarae wrth lunio\u2019r amodau y mae pobl yn byw, yn astudio, yn gweithio ac yn chwarae ynddyn nhw, a nod y cydweithrediad yw helpu i wella effaith y gwasanaethau a ddarperir ac, yn y pen draw, iechyd a lles trigolion RhCT.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Meddai Zoe Lancelott \u2013 Pennaeth Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydyn ni\u2019r Cyngor yn chwarae rhan sylfaenol wrth lunio\u2019r amodau y mae pobl yn cael eu geni a\u2019u magu ynddyn nhw, yn ogystal \u00e2\u2019r rhai y maen nhw\u2019n byw, yn astudio, yn gweithio ac yn chwarae ynddyn nhw. Mae penderfynyddion iechyd yn cael effaith fawr ar iechyd pobl.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cYm mis Rhagfyr 2023, llwyddon ni i ffurfio\u2019r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd cyntaf yng Nghymru a dyfarnwyd \u00a35 miliwn i\u2019r cydweithrediad gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal. Nod hyn oedd ymgorffori gweithgarwch ymchwil yn y Cyngor i leihau anghydraddoldebau iechyd a helpu i newid bywydau pobl sy\u2019n byw, yn astudio, yn gweithio ac yn chwarae yn y Fwrdeistref Sirol.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydyn ni wedi bod yn gweithio\u2019n galed y tu \u00f4l i\u2019r llenni i ffurfio carfan gref i gefnogi\u2019r Cyngor yn y gwaith yma, a bellach mae modd i ni ddechrau siarad \u00e2\u2019r cyhoedd am yr hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw. Byddwn ni\u2019n cyfuno\u2019r profiad bywyd yma gydag ymchwil a thystiolaeth o ffynonellau eraill er mwyn helpu\u2019r Cyngor i wneud penderfyniadau am y gwasanaethau y mae\u2019n eu darparu i wella cyfleoedd bywyd y rhai sy\u2019n byw, yn astudio, yn gweithio ac yn chwarae yn y Fwrdeistref Sirol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Harris, Aelod o\u2019r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDylai pawb gael y cyfle i fyw bywyd iach, ni waeth pwy ydyn nhw na ble maen nhw\u2019n byw.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDrwy ganolbwyntio ar faterion ehangach sy\u2019n effeithio ar iechyd megis cyflogaeth, tai, addysg a\u2019r amgylchedd ffisegol, mae gyda\u2019r cymunedau lleol rydyn ni\u2019n eu cynorthwyo gyfle anhygoel i gael effaith fawr ar leihau anghydraddoldebau iechyd ac amddifadedd ehangach.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae cymunedau Rhondda Cynon Taf yn wynebu rhai o\u2019r lefelau uchaf o ran amddifadedd, sydd yn ei dro\u2019n cynyddu anghydraddoldebau iechyd ac yn lleihau disgwyliad oes. Rydyn ni\u2019n gobeithio bydd y bartneriaeth yma\u2019n ein helpu ni i wella dyfodol y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau\u2019r dyfodol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Am ragor o wybodaeth, galwch heibio i gwrdd \u00e2\u2019r t\u00eem yn achlysur CEGAID O FWYD CYMRU, a fydd yn dychwelyd i Barc Coffa Ynysangharad, Pontypridd<strong>&nbsp;ddydd Sadwrn 2 Awst a dydd Sul 3 Awst 2025, o 11am i 5pm<\/strong>, neu ewch i&nbsp;<a href=\"https:\/\/gwnewchnewidyn.rctcbc.gov.uk\/\"><strong>https:\/\/gwnewchnewidyn.rctcbc.gov.uk\/<\/strong><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) Rhondda Cynon Taf, a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), yn gwahodd pawb sy\u2019n byw, yn astudio, yn gweithio neu\u2019n chwarae yn y Fwrdeistref Sirol i fod yn rhan o wneud newid i wella canlyniadau iechyd yn RhCT. Profiad bywyd yn rhan [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":19115,"template":"","categories":[150],"tags":[137,145],"research-and-impact":[],"class_list":["post-19116","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-cydweithio-ar-gymuned","tag-tai-chartrefi"],"meta_box":{"project":"","lead_author":12458,"authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"NIHR-RCT-HDRC-.jpg","filesize":433529,"sizes":{"medium":{"file":"NIHR-RCT-HDRC--744x303.jpg","width":744,"height":303,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":40780,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NIHR-RCT-HDRC--744x303.jpg"},"large":{"file":"NIHR-RCT-HDRC--1200x489.jpg","width":1200,"height":489,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":98046,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NIHR-RCT-HDRC--1200x489.jpg"},"thumbnail":{"file":"NIHR-RCT-HDRC--744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":50804,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NIHR-RCT-HDRC--744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"NIHR-RCT-HDRC--768x313.jpg","width":768,"height":313,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":43752,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NIHR-RCT-HDRC--768x313.jpg"},"1536x1536":{"file":"NIHR-RCT-HDRC--1536x626.jpg","width":1536,"height":626,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":154684,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NIHR-RCT-HDRC--1536x626.jpg"},"post-thumbnail":{"file":"NIHR-RCT-HDRC--395x161.jpg","width":395,"height":161,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":13878,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NIHR-RCT-HDRC--395x161.jpg"},"banner":{"file":"NIHR-RCT-HDRC--1920x640.jpg","width":1920,"height":640,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":229377,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NIHR-RCT-HDRC--1920x640.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"19114","name":"NIHR-RCT-HDRC-.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NIHR-RCT-HDRC-.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NIHR-RCT-HDRC--744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/NIHR-RCT-HDRC-.jpg","title":"NIHR RCT HDRC","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/19116","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/19116\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":19375,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/19116\/revisions\/19375"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19115"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19116"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19116"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19116"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19116"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}