{"id":19022,"date":"2025-07-30T09:21:55","date_gmt":"2025-07-30T09:21:55","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/?post_type=news&#038;p=19022"},"modified":"2025-07-30T09:23:51","modified_gmt":"2025-07-30T09:23:51","slug":"datganiad-ynglyn-ag-adolygiad-o-dystiolaeth-i-gefnogi-canllawiau-ysgolion-pobl-ifanc-traws","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/datganiad-ynglyn-ag-adolygiad-o-dystiolaeth-i-gefnogi-canllawiau-ysgolion-pobl-ifanc-traws\/","title":{"rendered":"Datganiad yngl\u0177n ag Adolygiad o Dystiolaeth i gefnogi canllawiau ysgolion pobl ifanc traws"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Adolygiad Cyflym o\u2019r Dystiolaeth (RER) i lywio datblygiad canllaw traws Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd yr adolygiad o dystiolaeth gyhoeddedig ei gynnal gan Rapid Research Evaluation and Appraisal Lab (RREAL) UCL. Roedd yr adolygiad yn ymdrech i ddwyn ynghyd dystiolaeth sydd ar gael sy\u2019n ymwneud \u00e2:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Llesiant ac anghenion a deilliannau addysgol plant a phobl ifanc traws mewn lleoliadau addysg; ac<\/li>\n\n\n\n<li>effaith polisi a dulliau ymarfer ar drawsnewid cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ar blant a phobl ifanc traws a\u2019u cymheiriaid o ran eu llesiant a\u2019u deilliannau dysgu.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/adolygiad-o-dystiolaeth-ar-lesiant-a-deilliannau-addysgol-gwahanol-ddulliau-o-gynorthwyo-plant-a-phobl-ifanc-traws\/\">cwestiynau\u2019r ymchwil<\/a> ar gyfer y prosiect hwn yn canolbwyntio\u2019n benodol ar effaith polisi a dulliau ymarfer ar bontio cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ar lesiant a deilliannau addysgol dysgwyr traws. Heblaw am y cwestiynau ymchwil penodol hyn ar effaith polisi ac ymarfer ysgolion, roedd cwestiynau am effaith bosibl trawsnewid cymdeithasol ei hun ar ddeilliannau tymor hir plant a phobl ifanc y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adolygiad wedi\u2019i seilio ar ddull methodolegol trylwyr a thryloyw sefydledig sydd wedi\u2019i ddatblygu i leihau\u2019r posibilrwydd o ragfarn, ac mae canlyniad yr adolygiad wedi bod drwy broses adolygu gan gymheiriaid gan bedwar o arbenigwyr pwnc a methodolegol gyda safbwyntiau a phersbectifau amrywiol ar gwestiynau\u2019r ymchwil.<\/p>\n\n\n\n<p>Y prif ganfyddiadau<\/p>\n\n\n\n<p>Canfu\u2019r adolygiad fod plant a phobl ifanc traws yn dueddol o brofi llesiant a deilliannau gwaeth mewn lleoliadau addysg o\u2019i gymharu \u00e2\u2019u cymheiriaid.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae plant a phobl ifanc traws yn fwy tebygol o brofi erledigaeth gan gymheiriaid, o deimlo\u2019n anniogel yn yr ysgol, o ddefnyddio sylweddau, profi canlyniadau iechyd meddwl gwael, gan gynnwys hunan-niweidio a synio am hunanladdiad. Roedd plant a phobl ifanc traws hefyd yn profi perfformiad academaidd, presenoldeb ac ymgysylltiad gwaeth na\u2019u cymheiriaid ac roeddent yn llai tebygol o gynllunio neu fynd ymlaen i addysg \u00f4l-uwchradd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r dystiolaeth yn dangos bod plant a phobl ifanc traws, fel pob plentyn a pherson ifanc, sy\u2019n teimlo eu bod yn cael cefnogaeth yn yr ysgol ac yn cael eu gwarchod rhag bwlio ac aflonyddu\u2019n dangos gwell deilliannau addysgol a llesiant na rhai nad ydynt yn cael cefnogaeth o\u2019r fath.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, canfu\u2019r adolygiad fod plant a phobl ifanc traws yn llai tebygol na\u2019u cymheiriaid o ddweud eu bod yn teimlo\u2019n ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn yr ysgol, ac, yn ail, y gall agweddau ysgolion tuag at drawsnewid cymdeithasol chwarae rhan yn hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r llenyddiaeth yn cynnwys dangosyddion rhagarweiniol fod dulliau polisi ac ymarfer cadarnhaol \u2013 er enghraifft, rhai sy\u2019n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc traws i ddefnyddio\u2019r enw a rhagenw o\u2019u dewis yn yr ysgol, neu wisgo dillad neu steil gwallt sy\u2019n cyd-fynd \u00e2\u2019r rhywedd maent wedi\u2019u bennu iddynt eu hunain \u2013 yn gallu chwarae rhan i wella llesiant a deilliannau addysgol plant a phobl ifanc traws. Fodd bynnag, er bod yr astudiaethau a adolygwyd wedi\u2019u hasesu fel rhai o ansawdd uchel ar y cyfan, mae\u2019n bwysig nodi eu bod gan amlaf wedi defnyddio dyluniadau croestoriadol. Mae hyn yn golygu er eu bod wedi canfod cysylltiad sy\u2019n arwyddocaol yn ystadegol rhwng ffactorau ysgol a deilliannau myfyrwyr traws, nid oeddent yn gallu dangos y perthnasoedd achosol sylfaenol. Mae hyn yn dangos yr amgen am ragor o ymchwil.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adolygiad yn amlygu bylchau sylweddol mewn tystiolaeth gan gynnwys effeithiau polisi a dulliau ymarfer addysgol gwahanol yn achos trawsnewid cymdeithasol ar gymheiriaid cisryweddol myfyrwyr traws. Mae prinder astudiaethau hefyd sy\u2019n edrych ar brofiadau plant a phobl ifanc traws anabl, a phlant a phobl ifanc traws ag anghenion dysgu ychwanegol.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd canfyddiadau\u2019r adolygiad yn cael eu hystyried ochr yn ochr ag ymgysylltiad \u00e2 rhanddeiliaid a thystiolaeth ehangach i lywio canllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol i helpu plant a phobl ifanc traws mewn lleoliadau addysg.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Adolygiad Cyflym o\u2019r Dystiolaeth (RER) i lywio datblygiad canllaw traws Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion. Cafodd yr adolygiad o dystiolaeth gyhoeddedig ei gynnal gan Rapid Research Evaluation and Appraisal Lab (RREAL) UCL. Roedd yr adolygiad yn ymdrech i ddwyn ynghyd dystiolaeth sydd ar gael sy\u2019n ymwneud \u00e2: Mae [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":19021,"template":"","categories":[],"tags":[],"research-and-impact":[],"class_list":["post-19022","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/19022","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/19022\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19021"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19022"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19022"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19022"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19022"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}