{"id":14920,"date":"2024-10-24T11:44:47","date_gmt":"2024-10-24T11:44:47","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/mae-cefndir-economaidd-gymdeithasol-ac-amddifadedd-yn-ffactorau-allweddol-syn-effeithio-ar-gyfranogiad-mewn-addysg-drydyddol\/"},"modified":"2026-01-13T13:41:43","modified_gmt":"2026-01-13T13:41:43","slug":"mae-cefndir-economaidd-gymdeithasol-ac-amddifadedd-yn-ffactorau-allweddol-syn-effeithio-ar-gyfranogiad-mewn-addysg-drydyddol","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/mae-cefndir-economaidd-gymdeithasol-ac-amddifadedd-yn-ffactorau-allweddol-syn-effeithio-ar-gyfranogiad-mewn-addysg-drydyddol\/","title":{"rendered":"Mae cefndir economaidd-gymdeithasol ac amddifadedd yn ffactorau allweddol sy\u2019n effeithio ar gyfranogiad mewn addysg drydyddol"},"content":{"rendered":"<p>Mae astudiaeth CPCC wedi datgelu mai amddifadedd aelwydydd a chefndir economaidd-gymdeithasol yw\u2019r ffactorau mwyaf arwyddocaol sy\u2019n effeithio ar ba lwybrau \u00f4l-16 sy\u2019n cael eu dilyn gan ddysgwyr yng Nghymru.<\/p>\n<p>Roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu\u2019r adroddiad i gefnogi Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, sy\u2019n gyfrifol am yr holl addysg drydyddol yng Nghymru, gan gynnwys cylch gwaith i gynyddu mynediad cyfartal.<\/p>\n<p>Ar ben yr anghydraddoldebau yn sector addysg drydyddol Cymru, mae llai yn cymryd rhan mewn addysg uwch yng Nghymru nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU, ac mae gennym nifer uwch o bobl ifanc 16\u201318 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Cydymaith Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Dr Jack Price:<\/strong> \u201cMae dadansoddi\u2019r data wedi dangos graddfa a natur aml-ddimensiwn nifer o wahaniaethau amlwg o ran pwy sy\u2019n dilyn addysg drydyddol yng Nghymru \u2013 a pha lwybrau \u00f4l-16 maen nhw\u2019n eu dilyn. Mae nodweddion personol ac aelwydydd, yn enwedig amddifadedd a chefndir economaidd-gymdeithasol, yn dal yn dylanwadu\u2019n drwm ar a yw pobl yn dilyn addysg drydyddol ac, os ydynt, a ydynt yn dilyn llwybrau mwy \u2018academaidd\u2019 neu \u2018alwedigaethol\u2019.<\/p>\n<p>\u201cMae ein hadolygiad o dystiolaeth yn dangos bod rhywfaint o botensial i dderbyniadau cyd-destunol ond mae angen amlwg i Medr ddefnyddio ei gylch gwaith sector cyfan i greu sylfaen dystiolaeth o ansawdd fel rhan o'i strategaeth ehangu cyfranogiad - ac i gydlynu dull newydd o ran sut mae pob sector o addysg drydyddol yn cael ei weld a'i werthfawrogi, yn enwedig wrth i Gymru wynebu heriau marchnad lafur, sero net a phoblogaeth sy'n heneiddio.\"<\/p>\n<p>Mae'r dadansoddiad data, a gynhyrchwyd gan ADR Cymru ar ran Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn datgelu rhwystrau sylweddol sy'n atal mynediad cyfartal at addysg drydyddol yng Nghymru, yn enwedig amddifadedd a chefndir economaidd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r canfyddiadau\u2019n dangos:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae dysgwyr sy\u2019n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn llai na hanner mor debygol o symud ymlaen i addysg uwch (19%) na\u2019r rhai nad ydynt yn gymwys (43%) a thua 50% yn fwy tebygol o beidio \u00e2 bod mewn addysg drydyddol o gwbl.<\/li>\n<li>Mae 50% o\u2019r myfyrwyr y mae eu rhieni\u2019n meddu ar gymhwyster gradd neu gymhwyster cyfatebol yn dewis Chweched Dosbarth o\u2019i gymharu \u00e2 19% o\u2019r rhai nad oes gan eu rhieni gymwysterau.<\/li>\n<li>Mae pobl anabl yn llawer llai tebygol o gymryd rhan mewn addysg drydyddol, gydag un rhan o bump o\u2019r disgyblion mwyaf anabl ddim mewn chweched dosbarth nac addysg bellach.<\/li>\n<li>Mae 18% o\u2019r dysgwyr sy\u2019n cael eu cyfyngu lawer gan anabledd yn symud ymlaen i addysg uwch, o\u2019i gymharu \u00e2 27% sy\u2019n cael eu cyfyngu ychydig a 42% nad oeddent yn cael eu cyfyngu.<\/li>\n<li>Roedd y dadansoddiad o\u2019r data yn dangos bod siaradwyr Cymraeg rhugl yn fwy tebygol o fod ar lwybrau academaidd na\u2019r rhai sydd \u00e2 llai o allu Cymraeg neu ddim.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Roedd <strong>Scott Jenkinson<\/strong> wedi ailddarganfod addysg drydyddol yn ddiweddarach yn ei fywyd. Ers hynny mae wedi sefydlu Youth Shedz, elusen lle mae pobl ifanc yn cefnogi pobl ifanc eraill ar hyd a lled Cymru.<\/p>\n<p>Dywedodd: \u201cRwy\u2019n grediniol bod addysg drydyddol wedi trawsnewid fy mywyd ar \u00f4l cyfnodau o gaethiwed a charchar. Fodd bynnag, oni bai fod yr hanfodion gennych chi, fel cartref cynnes sy'n addas i astudio, bwyd a thrafnidiaeth hanfodol, bydd addysg drydyddol yn parhau i fod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl. Oni bai ein bod yn cefnogi pobl i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol, fyddan nhw ddim hyd yn oed yn gallu dechrau cael mynediad at addysg drydyddol, heb s\u00f4n am ffynnu pan fyddant yn cyrraedd yno.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch Llywodraeth Cymru:<\/strong> \u201cNod Llywodraeth Cymru yw cynyddu cyfranogiad ym mhob math o addysg drydyddol, gan gynnwys i\u2019r rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.<br \/>\n\u201cMae\u2019r gwaith hwn gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gam pwysig i ddarparu gwybodaeth o ansawdd uchel i Medr am gyfranogiad mewn addysg drydyddol yng Nghymru, gan gynnwys y ffactorau sy\u2019n cyfrannu at rwystrau rhag cael mynediad at addysg drydyddol a llwyddo ynddi. Bydd hyn yn helpu Medr i ddatblygu cynllun i gyflawni un o\u2019i ddyletswyddau strategol \u2013 mynd i\u2019r afael ag anghydraddoldebau cyfranogiad mewn addysg drydyddol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae astudiaeth CPCC wedi datgelu mai amddifadedd aelwydydd a chefndir economaidd-gymdeithasol yw\u2019r ffactorau mwyaf arwyddocaol sy\u2019n effeithio ar ba lwybrau \u00f4l-16 sy\u2019n cael eu dilyn gan ddysgwyr yng Nghymru. Roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu\u2019r adroddiad i gefnogi Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, sy\u2019n gyfrifol am yr holl addysg drydyddol yng Nghymru, gan [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10460,"template":"","categories":[18],"tags":[136,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14920","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-addysg","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"ETE-event-line-up-stairs-resize-scaled.jpg","filesize":776253,"sizes":{"medium":{"file":"ETE-event-line-up-stairs-resize-744x506.jpg","width":744,"height":506,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":95140,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ETE-event-line-up-stairs-resize-744x506.jpg"},"large":{"file":"ETE-event-line-up-stairs-resize-1200x817.jpg","width":1200,"height":817,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":210766,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ETE-event-line-up-stairs-resize-1200x817.jpg"},"thumbnail":{"file":"ETE-event-line-up-stairs-resize-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":83420,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ETE-event-line-up-stairs-resize-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"ETE-event-line-up-stairs-resize-768x523.jpg","width":768,"height":523,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":99718,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ETE-event-line-up-stairs-resize-768x523.jpg"},"1536x1536":{"file":"ETE-event-line-up-stairs-resize-1536x1046.jpg","width":1536,"height":1046,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":317529,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ETE-event-line-up-stairs-resize-1536x1046.jpg"},"2048x2048":{"file":"ETE-event-line-up-stairs-resize-2048x1394.jpg","width":2048,"height":1394,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":522499,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ETE-event-line-up-stairs-resize-2048x1394.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"ETE-event-line-up-stairs-resize-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":403240,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ETE-event-line-up-stairs-resize-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"ETE-event-line-up-stairs-resize.jpg","ID":"14919","name":"ETE-event-line-up-stairs-resize-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ETE-event-line-up-stairs-resize-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ETE-event-line-up-stairs-resize-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ETE-event-line-up-stairs-resize-scaled.jpg","title":"ETE-event-line-up-stairs-resize.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ETE-event-line-up-stairs-resize-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/ETE-event-line-up-stairs-resize-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14920","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14920\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20025,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14920\/revisions\/20025"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10460"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14920"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14920"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14920"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14920"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}