{"id":14916,"date":"2024-10-09T09:14:26","date_gmt":"2024-10-09T09:14:26","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/steve-martin-i-ymddeol-fel-cyfarwyddwr-canolfan-polisi-cyhoeddus-cymru-maer-ganolfan-mewn-dwylo-da\/"},"modified":"2026-01-13T13:42:05","modified_gmt":"2026-01-13T13:42:05","slug":"steve-martin-i-ymddeol-fel-cyfarwyddwr-canolfan-polisi-cyhoeddus-cymru-maer-ganolfan-mewn-dwylo-da","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/steve-martin-i-ymddeol-fel-cyfarwyddwr-canolfan-polisi-cyhoeddus-cymru-maer-ganolfan-mewn-dwylo-da\/","title":{"rendered":"Steve Martin i ymddeol fel Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru \u201cMae\u2019r Ganolfan mewn dwylo da\u201d"},"content":{"rendered":"<p>Bydd yr Athro Steve Martin yn rhoi'r gorau i fod yn Gyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ddiwedd mis Tachwedd ar \u00f4l dros ddegawd wrth y llyw, gyda'r Cyfarwyddwr Dros Dro presennol, yr Athro James Downe, yn parhau yn y r\u00f4l honno nes y penodir olynydd i Steve. Bydd Steve yn parhau i gefnogi\u2019r Ganolfan mewn r\u00f4l ymgynghorol ac yn cyfrannu at ei hymchwil ar ddefnyddio tystiolaeth.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Athro Downe wedi bod yn Gyfarwyddwr Dros Dro WCPP ers diwedd 2023 tra bu Steve ar absenoldeb ymchwil yn astudio dulliau effeithiol o gefnogi llunio polis\u00efau yn seiliedig ar dystiolaeth. Bydd James yn cael ei gefnogi gan yr Athro Dan Bristow a fydd yn parhau i arwain gwaith WCPP gyda Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ac Uwch-gymrodyr Ymchwil Amanda Hill-Dixon, Dr Hannah Durrant a Dr Helen Tilley sy'n arwain gwaith y Ganolfan ar Fynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau, Lles Cymunedol, a'r Amgylchedd a Sero Net.<\/p>\n<p>Dywedodd Steve \u201cRwy\u2019n hynod ddiolchgar fy mod i wedi cael y fraint o sefydlu ac yna arwain y Ganolfan. Mae'n fenter wirioneddol arloesol, ac rydw i eisiau diolch i'n cyllidwyr, ein cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus a'r byd academaidd, ein gr\u0175p cynghori a'r t\u00eem gwych yn y Ganolfan am ei gwneud yn llwyddiant ysgubol.<\/p>\n<p>\"Rwy'n falch iawn o fod yn gadael y Ganolfan mewn sefyllfa mor dda ac mewn dwylo mor ddiogel, ac edrychaf ymlaen at gael amser i archwilio heriau a chyfleoedd newydd yn ogystal \u00e2 pharhau i rannu'r hyn rydym wedi'i ddysgu dros y degawd diwethaf\".<\/p>\n<p>Ychwanegodd James Downe \u201cMae Steve wedi darparu arweinyddiaeth ragorol i\u2019r Ganolfan dros flynyddoedd lawer. Mae\u2019r hyn a ddechreuodd fel t\u00eem bach o dri wedi tyfu\u2019n gr\u0175p deinamig o dros ugain o gydweithwyr, pob un yn ymroddedig i ddiwallu anghenion tystiolaeth Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar y sylfaen gref hon yn y blynyddoedd i ddod\u201d.<\/p>\n<p>Sefydlwyd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2013 ar gais y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ac fe\u2019i hariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Mae\u2019n cefnogi gweinidogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gael gafael ar dystiolaeth ac arbenigedd annibynnol awdurdodol sy\u2019n helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 heriau polisi mawr.<\/p>\n<p>Yn ei degawd cyntaf, ymgymerodd WCPP \u00e2 thros 200 o brosiectau, gan lywio nifer o bolis\u00efau cenedlaethol a lleol yng Nghymru mewn amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys tai, addysg a hyfforddiant, amaethyddiaeth a physgota, twf economaidd lleol, iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal \u00e2 chynhyrchu ymchwil arloesol ar ddefnyddio tystiolaeth ac effaith ymchwil. Mae'r dull arloesol o ymgysylltu ag ymchwil-polisi sy'n cael ei arwain gan y galw, y mae\u2019r ganolfan wedi'i harloesi, wedi denu diddordeb gan lywodraethau ac ymchwilwyr ledled byd ac mae hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y rhwydwaith What Works. Mae wedi bod yn allweddol mewn amrywiaeth o fentrau eraill gan gynnwys yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO) a chreu Cydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd newydd gwerth \u00a35 miliwn yn Rhondda Cynon Taf.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd yr Athro Steve Martin yn rhoi'r gorau i fod yn Gyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ddiwedd mis Tachwedd ar \u00f4l dros ddegawd wrth y llyw, gyda'r Cyfarwyddwr Dros Dro presennol, yr Athro James Downe, yn parhau yn y r\u00f4l honno nes y penodir olynydd i Steve. Bydd Steve yn parhau i gefnogi\u2019r Ganolfan [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"template":"","categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[133,130],"class_list":["post-14916","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-rol-kbos"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Steve-edited-scaled.jpg","filesize":302362,"sizes":{"medium":{"file":"Steve-edited-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":38596,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Steve-edited-744x496.jpg"},"large":{"file":"Steve-edited-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":84408,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Steve-edited-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"Steve-edited-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":35185,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Steve-edited-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Steve-edited-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":40150,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Steve-edited-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"Steve-edited-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":126918,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Steve-edited-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"Steve-edited-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":207233,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Steve-edited-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Steve-edited-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":169005,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Steve-edited-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Steve-edited.jpg","ID":"14911","name":"Steve-edited-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Steve-edited-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Steve-edited-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Steve-edited-scaled.jpg","title":"Steve-edited.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Steve-edited-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Steve-edited-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14916","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14916\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20026,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14916\/revisions\/20026"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14916"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14916"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14916"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14916"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}