{"id":14898,"date":"2024-05-17T10:24:45","date_gmt":"2024-05-17T10:24:45","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/partneriaeth-newydd-i-fynd-ir-afael-a-stigma-tlodi-yn-abertawe\/"},"modified":"2025-04-11T13:21:46","modified_gmt":"2025-04-11T13:21:46","slug":"partneriaeth-newydd-i-fynd-ir-afael-a-stigma-tlodi-yn-abertawe","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/partneriaeth-newydd-i-fynd-ir-afael-a-stigma-tlodi-yn-abertawe\/","title":{"rendered":"Partneriaeth newydd i fynd i'r afael \u00e2 stigma tlodi yn Abertawe"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019n bleser cyhoeddi partneriaeth gyda Chyngor Abertawe ac aelodau Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe (SPTC), sy\u2019n cael ei gynnal gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS), i wella dealltwriaeth o stigma tlodi a chefnogi ymdrechion gwasanaethau cyhoeddus i fynd i\u2019r afael ag ef.<\/p>\n<p>Mae\u2019r bartneriaeth yn dilyn cydweithio agos rhwng CPCC a Chomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe (SPTC) wrth ddatblygu a darparu ein <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Crynodebau-Gweithdai-Stigma-Tlodi.pdf\"><strong>gweithdai diweddar<\/strong><\/a> i ddeall yn well pa mor gyffredin yw stigma tlodi yng Nghymru a\u2019i effeithiau, a bydd yn dwyn ynghyd y rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau, academyddion, ymarferwyr, grwpiau cymunedol a phobl sydd \u00e2 phrofiad uniongyrchol o dlodi. Bydd hefyd yn helpu i lywio Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe<\/p>\n<p>Nod <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/stigma-tlodi\/\"><strong>ein<\/strong> <\/a><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/stigma-tlodi\/\"><strong>gwaith ar stigma tlodi<\/strong><\/a>\u00a0hyd yma yw canfod sut y gallwn ni, ac eraill, gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yn y ffordd orau i fynd i'r afael \u00e2 stigma tlodi yn fwy effeithiol.\u00a0Rhan allweddol o\u2019r bartneriaeth hon sy\u2019n seiliedig ar le fydd cydweithio ag SPTC a Chyngor Abertawe i gyd-ddylunio ffyrdd o gydweithio a fydd yn sicrhau bod y prosiect o fudd i bob parti yn y maes pwysig hwn.<\/p>\n<p>Dywedodd Uwch-gymrawd Ymchwil CPCC, Amanda Hill-Dixon, \"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau \u00e2'n gwaith ar stigma tlodi gyda Chyngor Abertawe ac arbenigwyr lleol drwy brofiad ar y mater hwn.<\/p>\n<p>\u201cGan adeiladu ar syniadau a ddaeth i\u2019r amlwg yn ein gweithdai diweddar, ein nod yw cyd-ddylunio a chyd-gyflwyno prosiect i ddatblygu atebion sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth i stigma tlodi yn Abertawe.<\/p>\n<p>\"Byddwn yn dysgu o brofiadau byw o stigma tlodi yn lleol, yn cael cipolwg ar r\u00f4l gwasanaethau cyhoeddus lleol o ran cynhyrchu ac atal stigma tlodi, yn ogystal \u00e2 chasglu ac adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio'n dda i fynd i'r afael \u00e2 stigma tlodi yn yr ardal. \"O\u2019n rhan ni, gallwn helpu partneriaid lleol i ddeall yr hyn y mae tystiolaeth ymchwil yn ei ddweud am fynd i'r afael \u00e2 stigma tlodi, dysgu o arferion addawol mewn mannau eraill a chyd-greu gweledigaeth a chynllun gweithredu lleol yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer mynd i'r afael \u00e2 stigma tlodi.\"<\/p>\n<p>Dywedodd Alyson Anthony, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Lesiant: \u201cRydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac aelodau Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe. Drwy waith y Comisiwn a phrofiad uniongyrchol y comisiynwyr, mae gennym ddealltwriaeth gliriach bod y stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 thlodi yn broblem wirioneddol i\u2019r rheini sy\u2019n profi tlodi. Mae hwn yn gyfle i ni archwilio hyn ymhellach a gwreiddio arferion da yn ein gwaith i liniaru tlodi.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Kay Lemon, cydlynydd Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe, \u201cNododd Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe, y cyntaf yng Nghymru, fod stigma\u2019n fater sylfaenol y mae angen mynd i\u2019r afael ag ef.\u00a0 Mae\u2019n creu cywilydd, yn ynysu ac yn effeithio ar iechyd meddwl, llesiant a mynediad at wasanaethau.\u00a0 Mae gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, r\u00f4l bwysig i\u2019w chwarae o ran lliniaru\u2019r naratifau hollbresennol sy\u2019n peri rhwyg ac yn creu stigma.\u00a0 Rydym wrth ein bodd y bydd rhai o\u2019n comisiynwyr cymunedol lleol yn dod \u00e2\u2019u harbenigedd i\u2019r prosiect hwn.\u201d<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/stigma-tlodi-beth-ydyw-o-ble-y-daw-a-pham-rydyn-nin-gweithio-arno\/\">Darllenwch fwy<\/a> am ein gwaith ar stigma tlodi a chlywed yn uniongyrchol gan ddau o Gomisiynwyr Gwirionedd Tlodi Abertawe, <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/angen-clywed-lleisiau-pawb-syn-brwydro-yn-erbyn-tlodi\/\">Melvyn Williams a Karen Berrell.<\/a><\/p>\n<p>Rydyn ni hefyd yn lawnsio Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi. Dewch i'r <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/digwyddiad\/sesiwn-ddylunio-rhwydwaith-deall-stigma-tlod\/\">sesiwn ddylunio.\u00a0<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n bleser cyhoeddi partneriaeth gyda Chyngor Abertawe ac aelodau Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe (SPTC), sy\u2019n cael ei gynnal gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS), i wella dealltwriaeth o stigma tlodi a chefnogi ymdrechion gwasanaethau cyhoeddus i fynd i\u2019r afael ag ef. Mae\u2019r bartneriaeth yn dilyn cydweithio agos rhwng CPCC a Chomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe (SPTC) [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14900,"template":"","categories":[18],"tags":[137,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14898","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-cydweithio-ar-gymuned","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"JOsh-Karen-website.jpg","filesize":128113,"sizes":{"medium":{"file":"JOsh-Karen-website-744x248.jpg","width":744,"height":248,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":27785,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/JOsh-Karen-website-744x248.jpg"},"large":{"file":"JOsh-Karen-website-1200x400.jpg","width":1200,"height":400,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":54860,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/JOsh-Karen-website-1200x400.jpg"},"thumbnail":{"file":"JOsh-Karen-website-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":43151,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/JOsh-Karen-website-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"JOsh-Karen-website-768x256.jpg","width":768,"height":256,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":29008,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/JOsh-Karen-website-768x256.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14896","name":"JOsh-Karen-website.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/JOsh-Karen-website.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/JOsh-Karen-website-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/JOsh-Karen-website.jpg","title":"JOsh-Karen-website.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14898","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14898\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14900"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14898"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14898"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14898"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14898"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}