{"id":14893,"date":"2024-04-17T05:57:58","date_gmt":"2024-04-17T05:57:58","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/rwystrau-a-chyfleoedd-i-gyrraedd-sero-net\/"},"modified":"2025-04-11T13:21:46","modified_gmt":"2025-04-11T13:21:46","slug":"rwystrau-a-chyfleoedd-i-gyrraedd-sero-net","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/rwystrau-a-chyfleoedd-i-gyrraedd-sero-net\/","title":{"rendered":"Rwystrau a chyfleoedd i gyrraedd sero net"},"content":{"rendered":"<p>Mae papurau tystiolaeth terfynol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar gyfer Gr\u0175p Herio Cymru Sero Net 2035 yn dangos bod Cymru y tu \u00f4l i\u2019w huchelgeisiau sero net presennol ar gyfer 2050 ym maes trafnidiaeth a chartrefi (yn ogystal ag yn y sectorau bwyd ac ynni fel yr adroddwyd yn flaenorol), ac y byddai symud y targed ymlaen i 2035 yn gofyn am bolis\u00efau arloesol ar \u2018raddfa uchelgeisiol, os nad digynsail\u2019, ynghyd \u00e2 newid ymddygiad sylweddol.Fodd bynnag, mae'r adroddiadau hefyd yn tynnu sylw at yr ochrau cadarnhaol i ddatgarboneiddio fel lleihau tlodi tanwydd, gwella iechyd cyhoeddus a\u2019r system trafnidiaeth Cymru. A mae\u2019r adroddiad cysylltiedig ar addysg, swyddi a gwaith yn obeithiol am rai o'r ymdrechion sydd ar y gweill i baratoi'r gweithlu yng Nghymru wrth bontio tuag at sero net.<\/p>\n<p>Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer CPCC Dan Bristow, \u201cMae\u2019n amlwg o\u2019n cyfres ddiweddaraf o adroddiadau ar gyfer y Gr\u0175p Herio Cymru Sero Net, yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol, bod angen llawer iawn o waith yn y sectorau trafnidiaeth ac adeiladau preswyl er mwyn i Gymru gyrraedd ei tharged sero net cyfredol ar gyfer 2050. Er mwyn symud y targedau hynny ymlaen i 2035, byddai angen ymrwymiad, buddsoddiad a seilwaith digynsail gan wneuthurwyr polisi lleol a chenedlaethol a\u2019r cyhoedd.<\/p>\n<p>Serch hynny, mae ein hymchwil hefyd yn nodi rhai camau cyflym sy\u2019n gymharol hawdd - meysydd a allai gyflymu ymdrechion Cymru i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r argyfwng hinsawdd yn sylweddol.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd cadeirydd Gr\u0175p Herio Cymru Sero Net, Jane Davidson, \u201cFel y gwelwyd yn yr adroddiadau hyn ac\u00a0adroddiadau blaenorol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru,\u00a0mae angen newid sylweddol i leihau cyfraniad Cymru i'r her fyd-eang hon, tra hefyd yn diogelu lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cEin huchelgais yw cefnogi ein comisiynwyr, Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru drwy\u2019r Cytundeb Cydweithio, i lywio\u2019r ffordd heriol sydd o\u2019n blaenau, gan sicrhau y daw\u2019r broses pontio tuag at sero net \u00e2 manteision diriaethol i bobl Cymru, tra bod y cyfle dal gennym.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn ddiolch i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am eu cefnogaeth wrth ddarparu papurau tystiolaeth o ansawdd uchel i Gr\u0175p Herio Cymru Sero Net.<\/p>\n<p><strong>CANFYDDIADAU ALLWEDDOL<\/strong><\/p>\n<p><strong>CANFYDDIADAU ALLWEDDOL<\/strong><\/p>\n<p><u><strong>Trafnidiaeth\u00a0<\/strong><\/u><\/p>\n<ul>\n<li><strong>Sector allweddol.<\/strong>\u00a0Trafnidiaeth yw trydydd sector uchaf Cymru o ran allyriadau nwyon t\u0177 gwydr (y tu \u00f4l i ddiwydiant ac ynni) felly byddai datgarboneiddio trafnidiaeth yn cyflymu cynnydd sero net Cymru yn sylweddol.\u00a0Ceir a lor\u00efau ysgafn sy\u2019n cyfrannu 72% o allyriadau trafnidiaeth Cymru.<\/li>\n<li><strong>Mwy o ymdrechion i osgoi teithio.<\/strong>\u00a0Mae\u2019r rhan fwyaf o ymdrechion i ddatgarboneiddio trafnidiaeth wedi canolbwyntio ar symud tuag at ddulliau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth ar y ffyrdd ac i wella eu heffeithlonrwydd, ond ni fydd hynny\u2019n ddigon ar ei ben ei hun.<\/li>\n<li><strong>Cysylltu pobl a lleoedd yn allweddol.<\/strong>\u00a0Mae angen\u00a0cynllunio hirdymor ar draws y sectorau trafnidiaeth a thu hwnt, amrywiaeth o fentrau trafnidiaeth cysylltiedig trefol a gwledig, ac ymdrechion i newid ymddygiad er mwyn annog pobl i symud oddi wrth eu dibyniaeth ar geir.<\/li>\n<li><strong>Enghreifftiau rhyngwladol.<\/strong>\u00a0O adolygiad cysylltiedig ar fentrau mewn 18 o wledydd, gall Cymru ddysgu gwersi o ran cyflymu\u2019r broses o bontio trafnidiaeth tuag at sero net.<\/li>\n<\/ul>\n<p><u><strong>Cartrefi<\/strong><\/u><\/p>\n<ul>\n<li><strong>Llawer mwy i'w wneud.\u00a0<\/strong>Nid yw allyriadau o chartrefi yng Nghymru yn disgyn yn ddigon cyflym i fodloni targedau sero net, gan adlewyrchu\u2019r defnydd araf o bympiau gwres a mesurau \u00f4l-osod.<\/li>\n<li><strong>Angen cymryd camau uchelgeisiol.<\/strong>\u00a0Bydd cyrraedd y targed sero net cyfredol ar gyfer 2050 yn gofyn am newidiadau cyflym a chyfanwerthol i\u2019r ffordd rydyn ni\u2019n adeiladu ac yn gwresogi ein\u00a0<u>cartrefi\u00a0<\/u>\u2013 a byddai cyflawni sero net yn 2035 yn gofyn am bolis\u00efau arloesol ar raddfa uchelgeisiol, os nad digynsail.<\/li>\n<li><strong>Rhwystrau sy'n benodol i Gymru.<\/strong>\u00a0Mae\u2019r dasg yn gymhleth oherwydd bod y stoc adeiladu yng Nghymru yn h\u0177n na chyfartaledd y DU, a\u2019r nifer fawr o adeiladau yng Nghymru sy\u2019n cael eu hystyried yn \u2018anodd i\u2019w datgarboneiddio\u2019.<\/li>\n<li><strong>Manteision.<\/strong>\u00a0Mae datgarboneiddio adeiladau yn cynnig cyfleoedd i gyflawni nifer o nodau polisi, fel lleihau tlodi tanwydd, gwella iechyd y cyhoedd, cefnogi cadwyni cyflenwi lleol a chyfleoedd am waith.<\/li>\n<li><strong>Astudiaethau achos.\u00a0<\/strong>Mae astudiaeth atodol o wyth o brosiectau \u00f4l-osod o bob cwr o\u2019r byd yn cyfeirio at rai gwersi y gall Cymru ddysgu oddi wrthynt.<\/li>\n<\/ul>\n<p><u><strong>Swyddi sero net ac addysg<\/strong><\/u><\/p>\n<ul>\n<li><strong>Swyddi.<\/strong>\u00a0Bydd y broses bontio tuag at sero net yn creu cyfleoedd am fwy o swyddi a chynnydd yn y galw am sgiliau technegol.<\/li>\n<li><strong>Sgiliau ac addysg.<\/strong>\u00a0Mae gan Gymru nifer uchel o weithwyr sgiliau isel a chyfradd addysg bellach sy\u2019n gostwng.<\/li>\n<li><strong>Pontio teg<\/strong>. O\u2019i gyfuno \u00e2 hanes diwydiannol economi Cymru, mae hyn yn golygu bod angen ystyriaeth ofalus i gyrraedd targedau datgarboneiddio tra\u2019n sicrhau bod gweithwyr yn cael eu hamddiffyn a phroses bontio deg.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cyfeiriodd Dan Bristow at y cyfleoedd hyn tra\u2019n cydnabod yr heriau i Gymru,<\/p>\n<p>\u201cEr bod pryder yngl\u0177n \u00e2\u2019r posibilrwydd o golli swyddi, wrth i sectorau gael eu datgarboneiddio, ceir cyfle unigryw i annog gweithwyr i uwchsgilio ac (ail)hyfforddi.<br \/>\n\u201cMae gwaith ar droed ar draws y system addysg a sgiliau gyda diwygiadau sy\u2019n ceisio dod \u00e2\u2019r ddarpariaeth \u00f4l-16 at ei gilydd, yn ogystal \u00e2 symudiad tuag at gwricwlwm llai rhagnodol, sy\u2019n cael ei lywio\u2019n fwy pwrpasol yn ystod addysg orfodol. Yn gysylltiedig \u00e2 hynny mae cyfleoedd i integreiddio darpariaeth sgiliau gwyrdd a llythrennedd hinsawdd ar draws addysg a hyfforddiant gorfodol ac ar \u00f4l oed gorfodol.\"<\/p>\n<p>CLICIWCH YMA am yr adroddiadau llawn:<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/sut-y-gallai-cymru-gynhesu-ac-adeiladu-cartrefi-carbon-isel-erbyn-2035\/\">Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi carbon isel erbyn 2035?<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/datgarboneiddior-system-drafnidiaeth-cymru-dra-cysylltu-pobl-a-lleoedd\/\">Datgarboneiddio'r system drafnidiaeth Cymru dra cysylltu pobl a lleoedd.<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/beth-fydd-sectoraur-addysg-swyddi-a-gwaith-yng-nghymru-erbyn-2035\/\">Beth fydd sectorau'r addysg, swyddi a gwaith yng Nhymru erbyn 2035?<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae papurau tystiolaeth terfynol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar gyfer Gr\u0175p Herio Cymru Sero Net 2035 yn dangos bod Cymru y tu \u00f4l i\u2019w huchelgeisiau sero net presennol ar gyfer 2050 ym maes trafnidiaeth a chartrefi (yn ogystal ag yn y sectorau bwyd ac ynni fel yr adroddwyd yn flaenorol), ac y byddai symud y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":19309,"template":"","categories":[12],"tags":[144,145,147],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14893","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-sero-net","tag-tai-chartrefi","tag-trafnidiaeth"],"meta_box":{"project":13057,"lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1143276747.jpg","filesize":919768,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1143276747-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":87340,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1143276747-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1143276747-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":204345,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1143276747-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1143276747-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":79944,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1143276747-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1143276747-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":92116,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1143276747-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1143276747-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":316156,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1143276747-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1143276747-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":518438,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1143276747-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1143276747-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":422116,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1143276747-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14891","name":"iStock-1143276747.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1143276747.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1143276747-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1143276747.jpg","title":"iStock-1143276747.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1143276747-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1143276747-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14893","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14893\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19309"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14893"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14893"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14893"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14893"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}