{"id":14880,"date":"2023-12-18T16:55:25","date_gmt":"2023-12-18T16:55:25","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/angen-polisiau-newydd-i-atal-yr-effaith-gostyngiad-y-boblogaeth-ar-economi-cymru\/"},"modified":"2025-09-03T20:08:42","modified_gmt":"2025-09-03T20:08:42","slug":"angen-polisiau-newydd-i-atal-yr-effaith-gostyngiad-y-boblogaeth-ar-economi-cymru","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/angen-polisiau-newydd-i-atal-yr-effaith-gostyngiad-y-boblogaeth-ar-economi-cymru\/","title":{"rendered":"Angen polis\u00efau newydd i atal yr effaith gostyngiad y boblogaeth ar economi Cymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Angen gwahanol bolis\u00efau i gynyddu ffrwythlondeb, cadw a denu pobl o oedran gweithio i atal yr effaith sylweddol y mae poblogaeth sy\u2019n heneiddio a\u2019r gostyngiad posibl yn y boblogaeth yn ei chael ar economi Cymru\u00a0 <\/strong><\/p>\n<p>Gyda phoblogaeth Cymru'n heneiddio, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi adolygu dulliau rhyngwladol o ymdrin \u00e2'r duedd hon ac wedi canfod y gallai gwahanol bolis\u00efau i gynyddu ffrwythlondeb, cadw a denu pobl, helpu i leihau her economaidd fawr.<\/p>\n<p>Mae tueddiadau mewn ffrwythlondeb a marwolaethau yng Nghymru wedi arwain at gynnydd yn nifer y marwolaethau \u00a0o gymharu \u00e2\u2019r nifer o enedigaethau ers 2015\/16 yng Nghymru. Syrthiodd Cyfanswm y Gyfradd Ffrwythlondeb yng Nghymru yn is na\u2019r gyfradd amnewid (o 2.1) yn 1974 ac mae wedi aros yno ers hynny, gyda dim ond 1.5 genedigaeth i bob menyw yn 2021.<\/p>\n<p>Rhagwelir y bydd gan boblogaeth Cymru gyfran gynyddol o bobl oedrannus, a chyfran sy\u2019n gostwng yn araf o bobl o oedran gweithio, a chyfran sy\u2019n gostwng o bobl ifanc. Mae perygl gwirioneddol o ostyngiad yn y boblogaeth, yn enwedig ymhlith y poblogaethau iau a\u2019r rhai sydd o oedran gweithio yn enwedig os yw niferoedd mewnfudo yn gostwng.<\/p>\n<p>Mae'r cyfuniad hwn o ffactorau'n peri risgiau sylweddol i les economaidd a chyllidol Cymru. Gallai\u2019r effeithiau hyn gynnwys newidiadau yn y galw am nwyddau a gwasanaethau, fel gwasanaethau cyhoeddus, gweithlu sy'n crebachu, sylfaen drethu is, a llai o grant bloc gan Drysorlys y DU.<\/p>\n<p>Nid yw'r duedd o boblogaeth sy\u2019n heneiddio a'r risg o ostyngiad yn y boblogaeth yn unigryw i Gymru. Mae llawer o wledydd, fel yr Eidal a gwledydd Ewropeaidd eraill a Japan, wedi dechrau arbrofi gydag amrywiaeth o bolis\u00efau i ymateb i'r tueddiadau hyn.<\/p>\n<p>Comisiynodd Llywodraeth Cymru Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal adolygiad a synthesis o'r dystiolaeth orau sydd ar gael ar sut mae gwledydd eraill yn ymateb i heriau cyllidol yn sgil heneiddio a gostyngiad yn y boblogaeth, yn enwedig o ran polis\u00efau i gynnal a chynyddu maint y poblogaethau ifanc ac oedran gweithio. Roedd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar dri ymateb allweddol i\u2019r posibilrwydd o boblogaeth sy\u2019n heneiddio a gostyngiad yn y boblogaeth:<\/p>\n<ul>\n<li>Galluogi ac annog ffrwythlondeb<\/li>\n<li>Dal gafael ar bobl, yn enwedig gweithwyr ifanc a medrus<\/li>\n<li>Denu mewnfudwyr, yn enwedig gweithwyr ifanc a medrus<\/li>\n<\/ul>\n<p>Un o brif ganfyddiadau\u2019r adroddiad yw mai polis\u00efau sy\u2019n ffafrio teuluoedd, sy'n annog pobl i wneud y dewis i gael plant, fel absenoldeb ar gyfer rhieni a gofal plant, sydd \u00e2'r sylfaen dystiolaeth gryfaf mewn perthynas \u00e2 hybu ffrwythlondeb. Fodd bynnag, dim ond dros y tymor hir y bydd polis\u00efau o'r fath yn cael yr effaith a ddymunir, a dim ond os bydd y plant hynny'n penderfynu aros yng Nghymru i weithio. Gan hynny, bydd cadw pobl a mewnfudo hefyd yn allweddol.<\/p>\n<p>Meddai Amanda Hill-Dixon, Uwch Gymrawd Ymchwil Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: \"Mae ein hadolygiad o\u2019r dystiolaeth wedi dangos bod camau pendant y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru\u2019r duedd o heneiddio a\u2019r gostyngiad yn y boblogaeth yng Nghymru.<\/p>\n<p>\"Mae poblogaeth Cymru yn newid gyda nifer genedigaethau'n gostwng a phoblogaeth sy'n heneiddio. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yn ystyried yr effaith y gallai'r tueddiadau hyn ei chael ar yr economi, yn ogystal ag ar wasanaethau cyhoeddus a chymunedau.<\/p>\n<p>\u201cEr bod y newidiadau hyn yn cynnig cyfleoedd posibl, megis llai o bwysau amgylcheddol, mae risgiau sylweddol i'w hystyried hefyd megis sylfaen drethu is a mwy o alw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Buom yn edrych ar y sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig \u00e2 dulliau rhyngwladol o hybu maint y boblogaeth, y sylfaen dreth yn y dyfodol a'r gweithlu.<\/p>\n<p>\"Mae dulliau gwledydd eraill o hybu ffrwythlondeb, yn fras, yn dilyn dau lwybr: mesurau economaidd-gymdeithasol, sy'n annog\u00a0 rhieni i <em>wneud y dewis i gael plant, <\/em>fel taliadau babanod, absenoldeb ar gyfer rhieni, a darpariaeth gofal plant; ac ymyriadau meddygol sydd wedi'u cynllunio i sicrhau bod rhieni'n <em>gallu<\/em> cael plant <em>yn gorfforol<\/em> unwaith y byddant wedi gwneud y dewis, fel Therapi Atgenhedlu \u00e2 Chymorth. Yn y naill achos neu'r llall, dylai polisi ganolbwyntio ar alluogi pobl i gael y nifer o blant y maent yn eu dymuno.<\/p>\n<p>\"Yn gyffredinol, mae\u2019r gwaith a wnaed i werthuso polis\u00efau ar gyfer teuluoedd ledled y byd yn awgrymu mai ychydig o effaith hirdymor a gaiff cymhellion cyn-geni untro fel taliadau babanod ar gyfraddau ffrwythlondeb ond y gall 'gwahanol bolis\u00efau' o ymyriadau ategol sy'n ystyriol o deuluoedd, fel cymorth gofal plant, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, trefniadau gweithio hyblyg, gael effaith sylweddol.<\/p>\n<p>\"Fodd bynnag, bydd unrhyw gynnydd i'r gyfradd ffrwythlondeb yng Nghymru yn cymryd nifer o flynyddoedd i gael yr effaith a ddymunir ar y sylfaen dreth a dim ond os bydd y plant hynny'n penderfynu aros yng Nghymru i weithio. Felly, mae cadw poblogaeth a denu mewnfudwyr yn allweddol.<\/p>\n<p>\"O ran cadw poblogaethau ifanc ac oedran gweithio yng Nghymru, gallai cynlluniau cadw graddedigion ganolbwyntio ar leoliadau gwaith ac ar symleiddio prosesau denu a chadw. Mae gan Awdurdodau Lleol r\u00f4l i'w chwarae hefyd wrth ddenu pobl i'w hardaloedd drwy grantiau adleoli a chymhellion eraill, a thrwy helpu i ddatblygu\u2019r canlynol, fel swyddi, tai, gwasanaethau cyhoeddus a hamdden.<\/p>\n<p>\"Byddai'n ddoeth hefyd cynnwys llawer o randdeiliaid wrth baratoi cynlluniau ailboblogi er mwyn gweld yn well ble a pha grwpiau sydd eu hangen ar yr economi leol.<\/p>\n<p>\"Mae ein hadolygiad o\u2019r dystiolaeth wedi dangos bod camau pendant y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella i ba raddau y mae cymunedau Cymru yn llefydd y mae pobl eisiau ac yn gallu cael plant, ond hefyd lle mae pobl eisiau aros drwy gydol eu bywydau gwaith.\"<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Angen gwahanol bolis\u00efau i gynyddu ffrwythlondeb, cadw a denu pobl o oedran gweithio i atal yr effaith sylweddol y mae poblogaeth sy\u2019n heneiddio a\u2019r gostyngiad posibl yn y boblogaeth yn ei chael ar economi Cymru\u00a0 Gyda phoblogaeth Cymru'n heneiddio, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi adolygu dulliau rhyngwladol o ymdrin \u00e2'r duedd hon ac wedi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10348,"template":"","categories":[18],"tags":[140],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14880","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-economi"],"meta_box":{"project":13083,"lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1175523587-2.jpg","filesize":650413,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1175523587-2-744x497.jpg","width":744,"height":497,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":67863,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1175523587-2-744x497.jpg"},"large":{"file":"iStock-1175523587-2-1200x801.jpg","width":1200,"height":801,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":154131,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1175523587-2-1200x801.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1175523587-2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":60530,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1175523587-2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1175523587-2-768x513.jpg","width":768,"height":513,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":71608,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1175523587-2-768x513.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1175523587-2-1536x1026.jpg","width":1536,"height":1026,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":232756,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1175523587-2-1536x1026.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1175523587-2-2048x1368.jpg","width":2048,"height":1368,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":372562,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1175523587-2-2048x1368.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1175523587-2-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":296973,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1175523587-2-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14875","name":"iStock-1175523587-2.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1175523587-2.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1175523587-2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1175523587-2.jpg","title":"iStock-1175523587-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1175523587-2-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1175523587-2-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[{"file":["10355"],"title_for_display":"BRIFF POLISI: Dulliau rhyngwladol o drin  heneiddio a gostyngiadau  yn y boblogaeth"},{"file":["10356"],"title_for_display":"Adroddiad CPCC: Dulliau rhyngwladol o drin  heneiddio a gostyngiadau yn y boblogaeth"},{"file":["10357"],"title_for_display":"Ieuenctid Cefn Gwlad yn Allfudo a Newid i'r Boblogaeth Michael Woods"},{"file":["10358"],"title_for_display":"Dibloblogi gwledig Rebecca Kay"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14880","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14880\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10348"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14880"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14880"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14880"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14880"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}