{"id":14871,"date":"2023-12-11T18:54:25","date_gmt":"2023-12-11T18:54:25","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/cpcc-yn-cadarnhau-ymrwymiad-i-fynd-ir-afael-a-heriau-polisi-allweddol-syn-wynebu-cymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:21:44","modified_gmt":"2025-04-11T13:21:44","slug":"cpcc-yn-cadarnhau-ymrwymiad-i-fynd-ir-afael-a-heriau-polisi-allweddol-syn-wynebu-cymru","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/cpcc-yn-cadarnhau-ymrwymiad-i-fynd-ir-afael-a-heriau-polisi-allweddol-syn-wynebu-cymru\/","title":{"rendered":"CPCC yn cadarnhau ymrwymiad i fynd i'r afael \u00e2 heriau polisi allweddol sy'n wynebu Cymru\u00a0"},"content":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau ei hymrwymiad i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru i fynd i\u2019r afael \u00e2 thair her polisi allweddol:<\/p>\n<ul>\n<li>Mynd i\u2019r Afael ag Anghydraddoldebau<\/li>\n<li>Yr amgylchedd a sero net<\/li>\n<li>Lles Cymunedol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn y Senedd, wrth ddathlu deng mlynedd ers ei sefydlu, cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru <em><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/12\/CPCC-yn-10.pdf\">\u2018CPCC yn 10\u2019<\/a> <\/em>sy\u2019n nodi cynlluniau i weithio\u2019n agos gydag awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill i ddarparu tystiolaeth annibynnol awdurdodol iddynt ar ffyrdd effeithiol o fynd i\u2019r afael ag anghydraddoldebau o bob math; ymateb i\u2019r argyfwng hinsawdd a chyflawni sero net; a hyrwyddo llesiant cymunedol. Mae\u2019r blaenoriaethau rhyng-gysylltiedig a thrawsbynciol hyn yn hanfodol i gyflawni\u2019r nodau hirdymor a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol, ac i helpu pobl i ymdopi \u00e2\u2019r argyfwng costau byw presennol.<\/p>\n<p>I danlinellu hyn, mae\u2019r Ganolfan wedi cyhoeddi\u2019r dystiolaeth ddiweddaraf yn ei gwaith i gefnogi Gr\u0175p Her Sero Net Cymru 2035, dan gadeiryddiaeth Jane Davidson, cyn Weinidog yr Amgylchedd, a hynny mewn ymateb i<em> \u2018<a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/erthygl-newyddion\/mae-angen-gweithredun-gyflym-ac-yn-barhaus-i-gynyddu-capasiti-cynhyrchu-trydan-cymru\/\">Sut allai Cymru ddiwallu ei hanghenion ynni erbyn 2035 a hefyd roi\u2019r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil yn raddol?\u2019<\/a><\/em><em>\u00a0<\/em><\/p>\n<p>Dros y deng mlynedd diwethaf, mae WCPP wedi llwyddo i gefnogi Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill drwy roi tystiolaeth i lunwyr polis\u00efau ar bynciau sy'n amrywio o gydraddoldeb hiliol i ddigartrefedd, Brexit, adfer ar \u00f4l y pandemig, cau'r bwlch cyrhaeddiad a mynd i'r afael ag unigrwydd ac allg\u00e1u cymdeithasol. Mae wedi cysylltu llunwyr polis\u00efau yng Nghymru ag ymchwilwyr blaenllaw o bob cwr o'r byd i helpu i ddatblygu ystod o atebion polisi sy'n aml yn unigryw i Gymru.<\/p>\n<p>Bydd partneriaeth WCPP \u00e2 llywodraeth leol yn cael ei chryfhau ymhellach drwy ddau gyhoeddiad pwysig:<\/p>\n<p>Yn gyntaf, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru\u00a0<a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/erthygl-newyddion\/partneriaeth-newydd-i-gefnogi-llywodraeth-leol-i-gyrraedd-sero-net\/\">wedi cyhoeddi partneriaeth<\/a> newydd fawr i gefnogi cynnydd sector cyhoeddus Cymru tuag at sero net erbyn 2030.<\/p>\n<p>Yn ail, <a href=\"https:\/\/www.rctcbc.gov.uk\/CY\/Newsroom\/PressReleases\/2023\/December\/5MillionAwardedtoReduceHealthInequality.aspx?utm_campaign=Orlo&amp;utm_medium=social&amp;utm_source=Twitter\">mae\u2019r Ganolfan wedi ffurfio partneriaeth \u00e2 Chyngor Rhondda Cynon Taf<\/a> yn ei chais llwyddiannus am \u00a35m o gyllid NIHR i ymchwilio i benderfynyddion iechyd yn y rhanbarth er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau trigolion Rhondda Cynon Taf.<\/p>\n<p>Dywedodd Steve Martin, Cyfarwyddwr WCPP, \u201cRydym yn falch o\u2019r r\u00f4l unigryw rydym wedi\u2019i chwarae dros y deng mlynedd diwethaf o ran helpu llunwyr polis\u00efau yma yng Nghymru i fynd i\u2019r afael \u00e2 rhai o\u2019r heriau mwyaf brys sy\u2019n wynebu llywodraethau lleol a chenedlaethol ledled y byd.<\/p>\n<p>\u201cDrwy ddechrau gyda\u2019r cwestiynau y mae arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ac uwch lunwyr polisi yn eu gofyn, rydym wedi gallu rhoi tystiolaeth ac arbenigedd awdurdodol ac annibynnol iddynt sy\u2019n helpu i ganfod ymatebion polisi effeithiol ac atebion ymarferol.<\/p>\n<p>\u201cMae gweithio gyda rhwydwaith byd-eang o arbenigwyr ymchwil a pholisi blaenllaw yn golygu y gallwn ddarganfod beth sydd wedi cael ei roi ar waith mewn mannau eraill, ac oherwydd ein bod yn deall y cyd-destun Cymreig, gallwn helpu llunwyr polis\u00efau i benderfynu beth fydd yn gweithio orau iddyn nhw a\u2019u cymunedau.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru,\" Mae gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru le canolog yn cefnogi'r ffordd y gellir llunio, cyflwyno a gweithredu polis\u00efau Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Fel Gweinidog, mae angen ichi gasglu cymaint o dystiolaeth a ffynonellau cyngor amgen ag sy\u2019n bosibl, ac mae gan y Ganolfan yr awdurdod i allu cynnig yr ymdeimlad hwnnw o her pan fo angen.<\/p>\n<p>Mae'r WCPP yn dod \u00e2 chyngor sydd wedi'i wreiddio'n wirioneddol mewn tystiolaeth, dealltwriaeth o ehangder y dystiolaeth ac, yn bwysicaf oll, mae\u2019n dod \u00e2'r gallu i ddadansoddi a chyflwyno'r dystiolaeth.<\/p>\n<p>Mae'r Ganolfan yn deall y byd gwleidyddol y mae llywodraeth yn rhan ohono. Ni fydd y cyngor gorau yn y byd yn mynd i unman os nad yw\u2019n deall y ffordd y mae\u2019n rhaid i lywodraeth weithio i gyflawni polisi effeithiol ar gyfer pobl Cymru.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC a Rhondda Cynon Taf: \u201cMae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cyfrannu mewn modd amhrisiadwy at gefnogi gwaith mudiadau fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a llunwyr polisi llywodraeth leol ledled Cymru. Mae ymrwymiad y WCPP i ddarparu tystiolaeth arbenigol wedi bod yn allweddol wrth lunio polis\u00efau effeithiol sydd o fudd uniongyrchol i\u2019n cymunedau.<\/p>\n<p>\"Mewn cyfnod lle mae gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth yn hollbwysig, rydym yn cydnabod pwysigrwydd dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae ymroddiad WCPP i ymchwil drylwyr a dadansoddiadau craff wedi gwella ein gallu i lunio polis\u00efau sy'n mynd i'r afael \u00e2'r anghenion a'r heriau unigryw a wynebir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.\"<\/p>\n<p>Dywedodd Wendy Larner, Is-Ganghellor a Llywydd Prifysgol Caerdydd, \"Roedd yn bleser gan Brifysgol Caerdydd gael ei dewis gan Lywodraeth Cymru i sefydlu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Rydym yn falch iawn o'r hyn mae\u2019r ganolfan wedi llwyddo i gyflawni dros y deng mlynedd diwethaf.<\/p>\n<p>\"Mae'r Ganolfan yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel un sydd ar flaen y gad yn y mudiad 'Beth sy'n Gweithio' ac mae ei gwaith <strong>\u00a0<\/strong>yn cyfrannu'n uniongyrchol at genhadaeth ddinesig y Brifysgol drwy'r cyfraniad cadarnhaol y mae'n ei wneud i les economaidd a chymdeithasol - yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.<\/p>\n<p>\"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol dros y pum mlynedd nesaf i adeiladu ar y r\u00f4l hanfodol sydd gan y Ganolfan wrth gefnogi'r gwaith o lunio a chyflawni polis\u00efau yng Nghymru.\"<\/p>\n<p>Dywedodd Dr James Canton, Cyfarwyddwr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y Cyngor ar gyfer Polisi ac Ymgysylltu Cyhoeddus:<\/p>\n<p>\u201cMae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil polisi cyhoeddus dros y degawd diwethaf. Gan ddathlu ei heffaith yng Nghymru a thu hwnt, mae ESRC, mewn cydweithrediad \u00e2 Llywodraeth Cymru, yn falch o fod wedi ymestyn ei gyllid am bum mlynedd arall yn gynharach eleni.<\/p>\n<p>\"Mae'r Ganolfan nid yn unig yn arwain dadleuon polisi yng Nghymru, ond mae hefyd yn cyfoethogi portffolio ehangach ESRC drwy hyrwyddo a rhannu'r hyn a ddysgwyd ynghylch paratoi tystiolaeth a gwella polisi. Mae\u2019r Ganolfan yn chwarae rhan hollbwysig yn Rhwydwaith What Works y DU, gan roi llais cryf i Gymru a chefnogi Canolfannau eraill i weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig. Mae ESRC yn edrych ymlaen at gyfraniadau parhaus y Ganolfan i'r dirwedd ymchwil ac arloesi.\"<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau ei hymrwymiad i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru i fynd i\u2019r afael \u00e2 thair her polisi allweddol: Mynd i\u2019r Afael ag Anghydraddoldebau Yr amgylchedd a sero net Lles Cymunedol Yn y Senedd, wrth ddathlu deng mlynedd ers ei sefydlu, cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru \u2018CPCC yn 10\u2019 sy\u2019n nodi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14873,"template":"","categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[133,132],"class_list":["post-14871","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-effaith"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Banner-no-words-2.jpg","filesize":205980,"sizes":{"medium":{"file":"Banner-no-words-2-744x419.jpg","width":744,"height":419,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57658,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Banner-no-words-2-744x419.jpg"},"large":{"file":"Banner-no-words-2-1200x675.jpg","width":1200,"height":675,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":119136,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Banner-no-words-2-1200x675.jpg"},"thumbnail":{"file":"Banner-no-words-2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57402,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Banner-no-words-2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Banner-no-words-2-768x432.jpg","width":768,"height":432,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":61302,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Banner-no-words-2-768x432.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14868","name":"Banner-no-words-2.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Banner-no-words-2.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Banner-no-words-2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Banner-no-words-2.jpg","title":"Banner-no-words-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Banner-no-words-2-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Banner-no-words-2-1200x675.jpg 1200w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Banner-no-words-2-768x432.jpg 768w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Banner-no-words-2.jpg 1280w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14871","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14871\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14873"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14871"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14871"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14871"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14871"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}