{"id":14859,"date":"2023-12-05T14:23:34","date_gmt":"2023-12-05T14:23:34","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/mae-angen-gweithredun-gyflym-ac-yn-barhaus-i-gynyddu-capasiti-cynhyrchu-trydan-cymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:21:43","modified_gmt":"2025-04-11T13:21:43","slug":"mae-angen-gweithredun-gyflym-ac-yn-barhaus-i-gynyddu-capasiti-cynhyrchu-trydan-cymru","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/mae-angen-gweithredun-gyflym-ac-yn-barhaus-i-gynyddu-capasiti-cynhyrchu-trydan-cymru\/","title":{"rendered":"Mae angen gweithredu\u2019n gyflym ac yn barhaus i gynyddu capasiti cynhyrchu trydan Cymru\u00a0  \u00a0"},"content":{"rendered":"<blockquote><p><strong>'Bydd cyrraedd targedau 2035 o ran cynhyrchu ynni yn gofyn am fwy na dyblu\u2019r gyfradd adeiladu seilwaith ynni orau a gyflawnwyd yn ystod y 60 mlynedd diwethaf, a chynnal hynny dros 12 mlynedd.'<\/strong><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno ei dystiolaeth i ail her Gr\u0175p Her Sero Net Cymru 2035, \u201cSut gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 wrth roi\u2019r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil yn raddol?\u201d<\/p>\n<p><u>Cefndir<\/u><\/p>\n<p>Disgwylir i\u2019r galw am drydan gynyddu\u2019n sylweddol gyda\u2019r newid i sero net \u2013 hyd at 50% yn uwch na\u2019r lefelau cyn Covid erbyn 2035, a 100% yn uwch erbyn 2050 (CCC, 2023).<\/p>\n<p><u>Canfyddiadau<\/u><\/p>\n<p>Mae ein <strong>briff polisi\u00a0<\/strong>gan Jack Price yn dangos, er bod cyrraedd targed sero net o 2035 yn dal yn gyraeddadwy yn y maes hwn, y bydd angen \u2018gweithredu cyflym, ar raddfa fawr ac yn barhaus\u2019 i gynyddu ei gapasiti i ddiwallu\u2019r galw am drydan, sef ffocws yr adolygiad hwn. Mewn gwirionedd bydd yn golygu mwy na dyblu\u2019r gyfradd adeiladu seilwaith ynni orau a gyflawnwyd yn ystod y 60 mlynedd diwethaf, a chynnal hynny dros 12 mlynedd.<\/p>\n<p>Bydd angen i gapasiti cynhyrchu ychwanegol adlewyrchu\u2019r cynnydd a ragwelir yn y galw am drydan mewn meysydd fel gwres, trafnidiaeth a thrydaneiddio diwydiannol, digideiddio\u2019r economi a newidiadau demograffig.<\/p>\n<p>Mae\u2019r <strong>adolygiad o dystiolaeth<\/strong> yn canfod enghreifftiau lle mae gwledydd eraill fel yr Iseldiroedd, y Ffindir a\u2019r Unol Daleithiau wedi cyflymu prosesau cynllunio er mwyn cyflymu\u2019r gwaith o adeiladu seilwaith ynni adnewyddadwy. Rydym yn argymell:<\/p>\n<ul>\n<li>Gellid symleiddio agweddau ar system gynllunio Cymru dros dro, yn unol ag uchelgeisiau\u2019r Bil Seilwaith, wrth i\u2019r Bil hwnnw fynd drwy\u2019r Senedd.<\/li>\n<li>Gellid datblygu ymhellach ardaloedd sydd wedi\u2019u hasesu ymlaen llaw ar gyfer ynni gwynt yng Nghymru.<\/li>\n<li>Dylai ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd fod yn ystyrlon, yn gyfranogol ac yn cael ei arwain gan ddinasyddion lle bo hynny\u2019n bosibl, a dylai ddechrau\u2019n gynnar yn y broses gynllunio.<\/li>\n<li>Gallai Cymru ddefnyddio offer digidol tebyg i FAST-41 yn yr Unol Daleithiau i gynyddu tryloywder prosiectau ac ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd.<\/li>\n<li>Ni ddylai gweithdrefnau a fwriedir i annog defnydd cyflym greu rhwystrau gweinyddol newydd yn anfwriadol ar lefelau eraill o\u2019r system gynllunio.<\/li>\n<\/ul>\n<p><u>Cyfleoedd i Gymru<\/u><\/p>\n<p>Mae\u2019r dystiolaeth hefyd yn dangos bod cyfleoedd i Gymru, gan gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Potensial ynni morol helaeth Cymru, ardal a allai alluogi Cymru i fod ar flaen y gad mewn datblygiadau newydd gan gynnwys gwynt arnofiol y m\u00f4r a m\u00f4r-lynnoedd llanw, gyda chymorth y llywodraeth.<\/li>\n<li>Gallai Trawsfynydd, pe byddai\u2019n cael ei ddewis ar gyfer defnyddio adweithyddion modiwlaidd bach, gynhyrchu sgiliau ac arbenigedd newydd a allai roi proffil sgiliau byd-eang i Gymru<\/li>\n<li>Gallai cysylltiad trosglwyddo ynni rhwng y gogledd a\u2019r de ddarparu datblygiad economaidd a gallai gweithlu tanwydd ffosil medrus Cymru chwarae rhan allweddol yn y newid hwn.<\/li>\n<li>Gallai seilwaith a swyddi adnewyddadwy gael eu dosbarthu\u2019n fwy cyfartal ledled Cymru, gan helpu i gadw\u2019r boblogaeth oedran gweithio iau.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gan gydnabod pwysigrwydd canolog ynni i'n heconomi a'n cymdeithas, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn galw am feddwl cydgysylltiedig a hirdymor ynghylch sut i reoli'r trawsnewidiad ynni - gan gydnabod yr angen am ymgysylltu \u00e2'r cyhoedd a newid ymddygiad.<\/p>\n<p>Dywedodd awdur y briff polisi, Dr Jack Price o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, \u201cBydd datgarboneiddio\u2019r system drydan erbyn 2035 yn gofyn am lefel anferthol o ddatblygu seilwaith, llawer mwy nag unrhyw beth rydym wedi llwyddo i\u2019w gyflawni yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.<\/p>\n<p>\u201cFelly, bydd cyflymu\u2019r broses o wneud penderfyniadau mewn achosion cynllunio a chefnogi\u2019r gwaith o gyflwyno capasiti ychwanegol mewn meysydd datganoledig yn hanfodol. Nid yw trydan wedi\u2019i ddatganoli\u2019n llawn a bydd angen i Gymru weithio\u2019n agos gyda llywodraeth y DU, Ofgem a\u2019r Gweithredwr System Trydan i gyflawni ei nodau.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd Cadeirydd Gr\u0175p Her 2035 Sero Net Cymru, Jane Davidson, \u201cBydd datgarboneiddio system drydan Cymru drwy symud at gynhyrchu trydan carbon isel a di-garbon a thrydaneiddio prosesau gwres, trafnidiaeth a diwydiannol yn rhan hanfodol o gyflymu\u2019r camau gweithredu yma sy\u2019n gymesur \u00e2 gwyddor yr hinsawdd.<\/p>\n<p>\"Mae ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am wledydd eraill yn dangos y gall newidiadau i broses gynllunio a chaniat\u00e1u Cymru gyflymu cynnydd yn y maes hwn yn sylweddol. Byddwn yn edrych ar y dystiolaeth bwysig hon o ddifrif wrth i ni barhau \u00e2\u2019n hadolygiad. \u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>'Bydd cyrraedd targedau 2035 o ran cynhyrchu ynni yn gofyn am fwy na dyblu\u2019r gyfradd adeiladu seilwaith ynni orau a gyflawnwyd yn ystod y 60 mlynedd diwethaf, a chynnal hynny dros 12 mlynedd.' Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno ei dystiolaeth i ail her Gr\u0175p Her Sero Net Cymru 2035, \u201cSut gallai Cymru ddiwallu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10331,"template":"","categories":[12],"tags":[144,149],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14859","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-sero-net","tag-ynni"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"New-marine-windfarm-pic-1-scaled.jpg","filesize":316116,"sizes":{"medium":{"file":"New-marine-windfarm-pic-1-744x528.jpg","width":744,"height":528,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":34826,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1-744x528.jpg"},"large":{"file":"New-marine-windfarm-pic-1-1200x852.jpg","width":1200,"height":852,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":78462,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1-1200x852.jpg"},"thumbnail":{"file":"New-marine-windfarm-pic-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":29918,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"New-marine-windfarm-pic-1-768x546.jpg","width":768,"height":546,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":36998,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1-768x546.jpg"},"1536x1536":{"file":"New-marine-windfarm-pic-1-1536x1091.jpg","width":1536,"height":1091,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":122781,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1-1536x1091.jpg"},"2048x2048":{"file":"New-marine-windfarm-pic-1-2048x1455.jpg","width":2048,"height":1455,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":209699,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1-2048x1455.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"New-marine-windfarm-pic-1-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":150442,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"New-marine-windfarm-pic-1.jpg","ID":"14857","name":"New-marine-windfarm-pic-1-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1-scaled.jpg","title":"New-marine-windfarm-pic-1.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/New-marine-windfarm-pic-1-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[{"file":[10338],"title_for_display":"Briff polisi - heriau a chyfleoedd datgarboneiddio system ynni Cymru erbyn 2035"},{"file":[10339],"title_for_display":"Adolygiad o'r dystiolaeth - Cyflymu'r defnydd o seilwaith ynni"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14859","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14859\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10331"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14859"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14859"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14859"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14859"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}