{"id":14847,"date":"2023-10-18T14:20:21","date_gmt":"2023-10-18T14:20:21","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/adeiladu-sylfeini-democratiaeth-iachach-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:21:41","modified_gmt":"2025-04-11T13:21:41","slug":"adeiladu-sylfeini-democratiaeth-iachach-yng-nghymru","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/adeiladu-sylfeini-democratiaeth-iachach-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Adeiladu sylfeini democratiaeth iachach yng Nghymru\u00a0\u00a0"},"content":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/7600\/\">wedi cyhoeddi adroddiad<\/a> sy\u2019n argymell cyfres gadarn o ffyrdd i wella\u2019r gwaith o fesur iechyd democrataidd yng Nghymru.<\/p>\n<p>Cafodd yr ymchwil ei gomisiynu gan y Cwnsler Cyffredinol ac mae\u2019n mynd y tu hwnt i archwilio lefelau cofrestru etholiadol a\u2019r ganran a bleidleisiodd; ac yn ceisio ateb tri chwestiwn i gefnogi ymdrechion i ehangu cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd, yn enwedig ymysg grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol:<\/p>\n<ul>\n<li>Sut beth fyddai democratiaeth iach yng Nghymru?<\/li>\n<li>Beth yw\u2019r ffordd orau o gasglu data ac adrodd arno i fesur iechyd democrataidd Cymru?<\/li>\n<li>Beth yw\u2019r ffordd orau o fonitro iechyd democrataidd Cymru?<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r adolygiad yn diffinio chwe maen prawf y dylid eu gwreiddio mewn systemau gwleidyddol cenedlaethol a lleol i sicrhau democratiaeth iach:<u>\u00a0 <\/u><\/p>\n<ul>\n<li>Ymgysylltiad a chyfranogiad eang gan ddinasyddion<\/li>\n<li>Etholiadau teg, a hawliau sifil cryf<\/li>\n<li>Dadlau gwleidyddol rhesymegol ac adeiladol<\/li>\n<li>Cydraddoldeb gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd<\/li>\n<li>Llywodraethu ymatebol<\/li>\n<li>Mynediad agored at wybodaeth gywir<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cafodd y gwaith ei gynhyrchu mewn partneriaeth ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Southampton a'i adolygu gan fwrdd crwn o arbenigwyr. Mae\u2019n cael ei gyhoeddi ar adeg o ddirywiad cyffredinol yn yr ymddiriedaeth mewn llywodraeth yn llawer o ddemocratiaethau hynaf y byd a chynnydd mewn poblyddiaeth. I lawer, mae\u2019r amheuaeth iach sy\u2019n cadw golwg ar y llywodraeth wedi troi\u2019n ddadrithiad gyda\u2019r broses ddemocrataidd ei hun.<\/p>\n<p>Mae'n dadansoddi mesuriadau rhyngwladol o iechyd democrataidd, yn cyfeirio at lwyddiannau a methiannau llywodraethau datganoledig ac yn awgrymu ffyrdd y gallai Cymru wella ei phrosesau mesur o ystyried nad yw'n ymddangos ar hyn o bryd mewn unrhyw un o'r prosiectau rhyngwladol sy'n darparu dangosyddion ar iechyd democrataidd. Mae un argymhelliad yn cynnwys y potensial i greu Arsyllfa Ddemocrataidd bwrpasol i Gymru a fyddai\u2019n rhoi dinasyddion Cymru wrth galon y broses asesu.<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro James Downe, Cyfarwyddwr Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, \"Mae hi\u2019n braf gweld diddordeb Llywodraeth Cymru mewn deall sut beth fyddai democratiaeth iach yng Nghymru a sut mae mesur a monitro iechyd democrataidd, yn enwedig yng nghyd-destun 'gwrthgilio democrataidd' ar draws y byd.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r adroddiad hwn yn fan cychwyn gwerthfawr i Lywodraeth Cymru ystyried y camau nesaf i greu mesurau mwy cadarn i wella ac i asesu iechyd democrataidd yng Nghymru. Byddai unrhyw un o\u2019r dulliau a awgrymir yn rhoi meincnod i ddeall democratiaeth iach ac yn helpu Cymru i weithio tuag at gryfhau ei phrosesau democrataidd a lleihau\u2019r \u2018diffyg democrataidd\u2019.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n croesawu\u2019r adroddiad hwn, a fydd yn ein helpu i fesur cynnydd y gwaith rydyn ni\u2019n ei wneud i wella iechyd democrataidd yng Nghymru.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni eisoes wedi cyflawni llawer gan gynnwys ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 oed a dinasyddion tramor cymwys yng Nghymru, cyhoeddi fframwaith clir ar gyfer diwygio etholiadol a chyflwyno bil i foderneiddio etholiadau. Mae\u2019r adroddiad hwn yn gam arall tuag at feithrin ymgysylltiad yn ein democratiaeth.\u201d<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy\u2019n argymell cyfres gadarn o ffyrdd i wella\u2019r gwaith o fesur iechyd democrataidd yng Nghymru. Cafodd yr ymchwil ei gomisiynu gan y Cwnsler Cyffredinol ac mae\u2019n mynd y tu hwnt i archwilio lefelau cofrestru etholiadol a\u2019r ganran a bleidleisiodd; ac yn ceisio ateb tri chwestiwn i gefnogi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"template":"","categories":[150],"tags":[141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14847","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1170375532-2.jpg","filesize":419723,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1170375532-2-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":49802,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1170375532-2-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1170375532-2-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":99872,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1170375532-2-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1170375532-2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":44929,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1170375532-2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1170375532-2-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":51959,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1170375532-2-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1170375532-2-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":147393,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1170375532-2-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1170375532-2-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":238322,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1170375532-2-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1170375532-2-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":189342,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1170375532-2-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14848","name":"iStock-1170375532-2.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1170375532-2.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1170375532-2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1170375532-2.jpg","title":"iStock-1170375532-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1170375532-2-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1170375532-2-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14847","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14847\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14847"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14847"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14847"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14847"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}