{"id":14845,"date":"2023-08-10T07:30:56","date_gmt":"2023-08-10T07:30:56","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/angen-agwedd-newydd-i-ddelio-gyda-anghydraddoldebau-unigrwydd\/"},"modified":"2025-04-11T13:21:40","modified_gmt":"2025-04-11T13:21:40","slug":"angen-agwedd-newydd-i-ddelio-gyda-anghydraddoldebau-unigrwydd","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/angen-agwedd-newydd-i-ddelio-gyda-anghydraddoldebau-unigrwydd\/","title":{"rendered":"Angen agwedd newydd i ddelio gyda anghydraddoldebau unigrwydd"},"content":{"rendered":"<p>Mae adolygiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i anghydraddoldebau unigrwydd, a gynhaliwyd gan rai o ysgolheigion blaenllaw'r DU yn y maes, yn amlygu ffactorau cymdeithasol allweddol sy\u2019n arwain at anghydraddoldebau unigrwydd.<\/p>\n<p>Yn arwyddocaol, mae\u2019r gwyriad hwn oddi wrth ystyried unigrwydd fel problem unigol i\u2019w thrin gan ymyriadau fel gwasanaethau cyfeillio neu therapi ymddygiadol yn awgrymu y gallai newidiadau polisi sy\u2019n lleihau anghydraddoldebau wella unigrwydd.<\/p>\n<p>Mae llunwyr polisi a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a\u2019r DU wedi rhoi pwyslais sylweddol ar fynd i\u2019r afael ag unigrwydd.\u00a0 Fodd bynnag, i wneud hyn yn effeithiol, mae\u2019n hollbwysig deall anghydraddoldebau yn y profiad o unigrwydd.<\/p>\n<p>Er bod unigrwydd yn rhywbeth y gall unrhyw un ei brofi, mae\u2019n amlwg yn awr nad yw\u2019n effeithio\u2019n gyfartal ar bob aelod o gymdeithas.\u00a0 Yn yr un modd, mae tystiolaeth ymchwil llethol yn dangos bod rhai grwpiau yn fwy tebygol o brofi unigrwydd nag eraill.<\/p>\n<p><u>Yr adolygiad<\/u><\/p>\n<p>Mae\u2019r adolygiad ar Anghydraddoldebau Unigrwydd, a ysgrifennwyd gan yr Athro Manuela Barreto, yr Athro Pam Qualter a Dr David Doyle, yn crynhoi tystiolaeth o Gymru, y DU ac o weddill y byd ar ba grwpiau mewn cymdeithas sy\u2019n profi unigrwydd anghymesur.\u00a0 Mae\u2019r rhain yn cynnwys grwpiau wedi\u2019u hymyleiddio ar sail hil a grwpiau LHDT+, mudwyr, pobl anabl, pobl \u00e2 chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol gwael, gofalwyr, pobl ddi-waith a phobl sy\u2019n byw mewn tlodi.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adolygiad yn crynhoi tystiolaeth ryngwladol newydd ar y ffactorau cymdeithasol a strwythurol ehangach a allai gyfrannu at anghydraddoldebau unigrwydd \u2013 sy\u2019n helpu i egluro pam yr effeithir yn anghymesur ar grwpiau ymylol.<\/p>\n<p><u>Canfyddiadau allweddol<\/u><\/p>\n<ul>\n<li>Mae unigrwydd yn effeithio mwy ar rai grwpiau mewn cymdeithas nag eraill, yn arbennig y rhai sy\u2019n wynebu mathau lluosog o amddifadedd<\/li>\n<li>Gall gwahaniaethau \u00e2 chymdeithas ddominyddol arwain at fwy o unigrwydd<\/li>\n<li>Mae unigrwydd yn aml yn ffaith bywyd i bobl anabl<\/li>\n<li>Mae grwpiau ymylol yn fwy tebygol o brofi allgau cymdeithasol, bwlio a gwahaniaethu, sy\u2019n arwain at lesiant seicolegol gwael a mwy o unigrwydd<\/li>\n<li>Chwe chyflwr cymdeithasol a nodwyd sy\u2019n cynyddu gwahaniaethau unigrwydd: agweddau cymuned, polis\u00efau cyhoeddus, amrywiaeth demograffeg, yr amgylchedd ffisegol a chymdeithasol ac amddifadedd ardal<\/li>\n<li>Mae\u2019n rhaid sicrhau bod lleihau allgau cymdeithasol a gwerthfawrogi gwahaniaeth yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i\u2019r afael ag anghydraddoldebau unigrwydd - yn hytrach na chanolbwyntio ar wendidau unigol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dywedodd Dr Hannah Durrant, Uwch Gymrawd Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, \u201cMae\u2019r adolygiad arloesol hwn yn dwyn ynghyd \u2013 am y tro cyntaf \u2013 gorff trawiadol o dystiolaeth ymchwil ryngwladol ar anghydraddoldebau unigrwydd, a\u2019r ffactorau rhyngbersonol a strwythurol sy\u2019n llywio\u2019r rhain. Mae\u2019n ategu ymchwil flaenorol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a ganfu fod y rhai sydd eisoes yn wynebu sawl math o anfantais yn fwyaf tebygol o fod yn unig.<\/p>\n<p>\u201cMae deall y risg o unigrwydd yn y ffordd hon yn golygu os ydym am fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn, mae angen i ni allu mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r rhagfarnau a\u2019r ffactorau strwythurol sy\u2019n creu anghydraddoldebau, a chanolbwyntio ar y r\u00f4l y mae pobl, polis\u00efau a gwasanaethau cyhoeddus yn ei chwarae i wneud ein cymdeithasau a chymunedau yn fwy cyfartal.\u00a0 Y newyddion da yw bod llunwyr polisi a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a thu hwnt wedi rhoi pwyslais sylweddol ar fynd i\u2019r afael ag unigrwydd.\u00a0 Mae\u2019r adroddiad hwn yn darparu mewnwelediad o\u2019r hyn y mae angen i ni ei wneud i gyflawni\u2019r nod hwnnw.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd awdur arweiniol yr adroddiad, yr Athro Manuela Barreto o Brifysgol Exeter:<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r adroddiad hwn yn pwysleisio nad yw unigrwydd wedi\u2019i ddosbarthu\u2019n gyfartal ymhlith y boblogaeth, a\u2019i fod yn aml yn fwy amlwg ymhlith y rhai wedi\u2019u hymyleiddio.\u00a0 Mae\u2019r patrwm cymdeithasol hwn o unigrwydd yn ei gwneud yn glir bod angen inni fynd y tu hwnt i ganolbwyntio ar ddiffygion unigol er mwyn deall sut mae unigrwydd yn dod i\u2019r amlwg. Yn gysylltiedig, mae angen inni ategu atebion sy\u2019n canolbwyntio ar fynd i\u2019r afael \u00e2 diffygion unigol, fel therapi seicolegol a gwasanaethau cyfeillio, ag ymyriadau sy\u2019n mynd i\u2019r afael \u00e2 diffygion mewn cymunedau, yn enwedig pan ddaw\u2019n fater o sicrhau bod cymunedau\u2019n wirioneddol gynhwysol.\u201d<\/p>\n<p>CLICIWCH\u00a0<a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/adolygiad-o-dystiolaeth-anghydraddoldebau-unigrwydd\/\">YMA AM YR ADRODDIAD LLAWN<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae adolygiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i anghydraddoldebau unigrwydd, a gynhaliwyd gan rai o ysgolheigion blaenllaw'r DU yn y maes, yn amlygu ffactorau cymdeithasol allweddol sy\u2019n arwain at anghydraddoldebau unigrwydd. Yn arwyddocaol, mae\u2019r gwyriad hwn oddi wrth ystyried unigrwydd fel problem unigol i\u2019w thrin gan ymyriadau fel gwasanaethau cyfeillio neu therapi ymddygiadol yn awgrymu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14844,"template":"","categories":[150],"tags":[148],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14845","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-unigrwydd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1331379443-1.jpg","filesize":803417,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1331379443-1-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":73482,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1331379443-1-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1331379443-1-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":174856,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1331379443-1-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1331379443-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":65702,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1331379443-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1331379443-1-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":77521,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1331379443-1-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1331379443-1-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":270882,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1331379443-1-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1331379443-1-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":447543,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1331379443-1-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1331379443-1-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":352915,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1331379443-1-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14843","name":"iStock-1331379443-1.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1331379443-1.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1331379443-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1331379443-1.jpg","title":"iStock-1331379443-1.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1331379443-1-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1331379443-1-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14845","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14845\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14844"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14845"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14845"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14845"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14845"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}