{"id":14840,"date":"2023-07-24T23:31:17","date_gmt":"2023-07-24T23:31:17","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/bwyd-am-feddwl\/"},"modified":"2025-04-11T13:21:40","modified_gmt":"2025-04-11T13:21:40","slug":"bwyd-am-feddwl","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/bwyd-am-feddwl\/","title":{"rendered":"Bwyd am feddwl"},"content":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi cyhoeddi ei hymateb i gwestiwn her cyntaf Gr\u0175p Her Sero Net Cymru 2035, \u2018Sut y gallai Cymru fwydo\u2019i hun erbyn 2035?\u2019 gan argymell dadl frys ac agored ynghylch system fwyd Cymru, un o\u2019r sectorau hynny sydd ar hyn o bryd yn gwneud cyfraniad mawr at allyriadau nwyon t\u0177 gwydr Cymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adroddiad hwn gan WCPP yn tynnu sylw at ffyrdd o gefnogi ffermio yng Nghymru tra\u2019n newid arferion penodol i ddatgloi cynnydd cyflymach tuag at uchelgeisiau sero net Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Mae trosolwg o ddata allweddol a thueddiadau\u2019r system fwyd yng Nghymru a phapur trafod yn nodi\u2019r materion allweddol y mae\u2019n rhaid mynd i\u2019r afael \u00e2 nhw yn y frwydr gyfunol yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Drwy wneud addasiadau sylweddol i amaethyddiaeth a defnydd tir Cymru, mae\u2019r papur yn dadlau y gallai Cymru wneud iawn am yr amser a gollwyd yn y ras i gyflawni sero net [dolen i adroddiad CCC]. Er mwyn cyflawni hyn bydd angen i lunwyr polisi, ffermio yng Nghymru a sectorau eraill gydweithio i ddod o hyd i atebion ymarferol.<\/p>\n<p>Mae WCPP, sy\u2019n rhan o Barc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, wedi\u2019i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd perthnasol i lywio gwaith Gr\u0175p Her Sero Net Cymru 2035, sy\u2019n cael ei gadeirio gan gyn Weinidog yr Amgylchedd yn Llywodraeth Cymru, Jane Davidson.<\/p>\n<p><strong>Meddai Jane Davidson,<\/strong> \u201cRydym yn croesawu\u2019r adroddiad hwn gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i\u2019n helpu i ddatblygu ein gwaith. Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi gofyn i\u2019n Gr\u0175p ni ddarparu <em>\u2018cyngor annibynnol i archwilio llwybrau posibl i sero net erbyn 2035 \u2013 y dyddiad targed presennol yw 2050. Bydd hwn yn edrych ar yr effaith ar gymdeithas a sectorau o\u2019n heconomi a sut y gellir lliniaru unrhyw effeithiau andwyol, gan gynnwys sut y rhennir y costau a'r buddion yn deg.\u2019<\/em><\/p>\n<p>\u201cEin her fel Gr\u0175p, sydd \u00e2 lles cenedlaethau\u2019r dyfodol yn ganolog iddo, yw nodi llwybrau i gyflymu\u2019r cynnydd i sero net tra\u2019n sicrhau trawsnewidiad natur-bositif a chyfiawn sy\u2019n diogelu cymunedau.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r ymchwil ar gyfer y maes her hwn yn datgelu rhai tueddiadau sy\u2019n peri pryder ynghylch system fwyd Cymru ac, yn galonogol, mae hefyd yn nodi mesurau i helpu i fynd i\u2019r afael ag allyriadau a llygredd sy\u2019n arwain at well bioamrywiaeth ac iechyd dynol.<\/p>\n<p>\u201cEr y gellir ymchwilio i ymyriadau o amgylch mawndir, coedwigaeth a\u2019n harfordir, rhaid inni beidio ag ymwrthod \u00e2 chwestiwn ffermio yng Nghymru.<\/p>\n<p>\u201cFel llawer o sectorau, mae ffermwyr Cymru mewn sefyllfa economaidd anodd yn dilyn Brexit a\u2019r gwrthdaro yn yr Wcrain. Rhaid inni weithio gyda\u2019n gilydd i fynd i\u2019r afael \u00e2 her newid yn yr hinsawdd, sy\u2019n her hyd yn oed yn fwy.<\/p>\n<p>\u201cMae natur angen ffermwyr - ac yn gynyddol, mae ffermwyr angen byd natur i oroesi a ffynnu. Mae ffermio da byw wedi\u2019i gysylltu\u2019n gynhenid \u00e2\u2019n hunaniaeth genedlaethol, ac er ein bod yn cydnabod y teimladau cryf hynny, mae\u2019n bwysig cael trafodaethau iach ond gonest gyda\u2019r sector ffermio ar yr hyn y mae\u2019r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym wrth i ni weithio gyda\u2019n gilydd i ddod o hyd i\u2019r llwybrau sero net a fydd yn gweithio dros Gymru.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd<strong> Dr Helen Tilley, <\/strong>Uwch Gymrawd Ymchwil WCPP, \u201cMae\u2019n amlwg o\u2019n gwaith ar y pwnc hwn fod yna rwystrau lluosog, sydd wedi gwreiddio\u2019n ddwfn ac yn rhyng-gysylltiedig i gynaliadwyedd systemau defnydd tir, ffermio a bwyd Cymru; ond mae'r dystiolaeth hefyd yn ein helpu i nodi rhai cyfleoedd pwysig ar gyfer newid. Rhaid inni fanteisio ar y cyfleoedd hyn os ydym am fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r hyn a allai fod yr her fwyaf inni eto er mwyn cenedlaethau\u2019r dyfodol.\u201d<strong>\u202f<\/strong><strong>\u202f<\/strong><\/p>\n<p><strong>BETH YW'R FFEITHIAU?\u202f\u00a0<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Yn \u00f4l llwybr cytbwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC), rhagwelir mai amaethyddiaeth fydd y ffynhonnell fwyaf o allyriadau yng Nghymru yn 2035, wrth i sectorau eraill ddatgarboneiddio\u2019n gyflymach<\/li>\n<li>Mae ffermio yng Nghymru yn bennaf yn dda byw (87%), y mwyafrif ohonynt yn ddefaid a gwartheg pori (73%) o\u2019i gymharu \u00e2 dim ond 6% wedi'i neilltuo i gnydau a garddwriaeth (ac eithrio ffermydd bach iawn)<\/li>\n<li>Mae allyriadau methan uniongyrchol o dda byw yn cyfrif am 61% o allyriadau amaethyddol Cymru gyda thrin tail yn cyfrannu 14% ychwanegol o allyriadau<\/li>\n<li>Mae amaethyddiaeth yn ffynhonnell sylweddol o lygredd aer, pridd, d\u0175r ac amonia (dyma\u2019r ail gyfrannwr mwyaf yng Nghymru at achosion o lygru afonydd yr adroddir amdanynt)<\/li>\n<li>Oherwydd diffyg plannu coed, mae maint y sinc carbon a gynhyrchir gan goetiroedd a mawndiroedd wedi crebachu yn y degawd diwethaf ac yn 2019 dim ond 1% o gyfanswm allyriadau Cymru sydd wedi\u2019i wrthbwyso<\/li>\n<li>Ar hyn o bryd mae Cymru'n cynhyrchu tua \u00bc dogn o ffrwythau a llysiau y dydd y person<\/li>\n<li>Mae 95% o gynhyrchion cig eidion a chig oen Cymru yn cael eu prynu a'u bwyta mewn gwledydd eraill<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>BETH MAE'R DYSTIOLAETH YN EI DDWEUD WRTHYM?<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Mae ein hymchwil yn dweud wrthym, er mwyn cyrraedd sero net, y bydd angen defnyddio tir amaethyddol mewn ffyrdd sy'n ychwanegu at ein dalfeydd carbon, megis cynyddu ein coetiroedd, coedwigoedd a mawnogydd<\/li>\n<li>Mae tystiolaeth yn awgrymu defnyddio cymysgedd o ddulliau rhannu tir a chynilo tir i leihau allyriadau a chefnogi ffermwyr Cymru<\/li>\n<li>Er mwyn lleihau allyriadau amaethyddol bydd angen lleihau nifer y da byw \u2013 yr hyn yr ydym yn ei ffermio ac nid sut yr ydym yn ffermio fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf<\/li>\n<li>Mae asesiad o ffyrdd o leihau allyriadau da byw heb leihau maint cynhyrchu da byw yn dangos na fydd y mesurau hyn yn unig yn mynd yn ddigon pell<\/li>\n<li>Mae gan y gostyngiad byd-eang yn y galw am gig a chynnyrch llaeth oblygiadau mawr i ffermio yng Nghymru o ystyried bod da byw yn cyfrif am 86% o gynnyrch amaethyddol Cymru<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>BETH YW'R HERIAU A RHAI ATEBION POSIBL? \u202f\u202f\u00a0\u00a0<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Mae opsiynau ffermwyr Cymru ar gyfer arallgyfeirio yn gyfyngedig oherwydd amodau daearyddol a hinsawdd ond mae o leiaf dwy ran o dair o\u2019n tir sydd fwyaf addas ar gyfer cnydau yn cael ei ddefnyddio ar gyfer da byw<\/li>\n<li>Mae amodau economaidd eisoes yn heriol i'r sector. Rhaid i unrhyw newidiadau i gymorth amaethyddol sicrhau cefnogaeth i ffermwyr da byw yr effeithir arnynt<\/li>\n<li>Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar hyfywedd tir ar gyfer cynhyrchu bwyd ond gellir gwneud gwelliannau i dir a phridd<\/li>\n<li>Bydd y Bil Amaethyddiaeth newydd yn fecanwaith allweddol i Lywodraeth Cymru lunio arferion rheoli tir ond rydym yn argymell mwy o ffocws ar leihau allyriadau cyffredinol<\/li>\n<li>Mae angen dod o hyd i ffyrdd amgen o gynnal bywoliaethau gwledig ar wah\u00e2n i bori da byw ar gyfer peth o\u2019r 79% o dir Cymru sy\u2019n llai addas ar gyfer cnydau<\/li>\n<li>Mae yna ddatgysylltiad rhwng cynhyrchu a bwyta bwyd domestig yng Nghymru gyda\u2019r rhan fwyaf o\u2019r bwyd rydyn ni\u2019n ei fwyta yn cael ei fewnforio a\u2019r rhan fwyaf o\u2019r bwyd rydyn ni\u2019n ei gynhyrchu yn cael ei allforio<\/li>\n<li>Mae'r adroddiad yn argymell lleihau allyriadau cynhyrchu a defnydd. Byddai cynyddu mynediad at fwyd iach, fforddiadwy ac o ffynonellau lleol yn dod \u00e2 manteision lluosog i bawb<\/li>\n<li>Mae lleihau gwastraff bwyd a mater pecynnu bwyd yn her sylweddol arall. Mae gwastraff bwyd ffermydd y DU yn cyfateb i tua 7% o fwyd y bwriedir ei fwyta<\/li>\n<li>Mae angen tystiolaeth bellach ynghylch y posibiliadau o storio carbon morol o amgylch Cymru\n<p><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/sut-y-gallai-cymru-fwydoi-hun-erbyn-2035\/\">CLICIWCH YMA AM YR ADRODDIAD LLAWN<\/a><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/newid-ein-deiet-ffordd-ymlaen-ar-gyfer-yr-argyfwng-hinsawdd-ac-iechyd-dynol-ac-ariannol\/\">CLICIWCH YMA AM BLOG AM MANTEISION NEWID DEIET CYMRAEG<\/a><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi cyhoeddi ei hymateb i gwestiwn her cyntaf Gr\u0175p Her Sero Net Cymru 2035, \u2018Sut y gallai Cymru fwydo\u2019i hun erbyn 2035?\u2019 gan argymell dadl frys ac agored ynghylch system fwyd Cymru, un o\u2019r sectorau hynny sydd ar hyn o bryd yn gwneud cyfraniad mawr at allyriadau nwyon t\u0177 [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10288,"template":"","categories":[12],"tags":[135,144],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14840","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-sero-net"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1081373568-1.jpg","filesize":644737,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1081373568-1-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":72801,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1081373568-1-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1081373568-1-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":158744,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1081373568-1-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1081373568-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":62763,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1081373568-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1081373568-1-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":76831,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1081373568-1-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1081373568-1-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":236182,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1081373568-1-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1081373568-1-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":372698,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1081373568-1-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1081373568-1-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":288524,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1081373568-1-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14838","name":"iStock-1081373568-1.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1081373568-1.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1081373568-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1081373568-1.jpg","title":"iStock-1081373568-1.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1081373568-1-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1081373568-1-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14840","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14840\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14840"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14840"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14840"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14840"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}