{"id":14835,"date":"2023-06-28T10:22:34","date_gmt":"2023-06-28T10:22:34","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/meysydd-allweddol-sero-net\/"},"modified":"2025-04-11T13:21:38","modified_gmt":"2025-04-11T13:21:38","slug":"meysydd-allweddol-sero-net","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/meysydd-allweddol-sero-net\/","title":{"rendered":"Meysydd allweddol sero net"},"content":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi tynnu sylw at feysydd allweddol a allai helpu Cymru i wrthdroi <a href=\"https:\/\/www.theccc.org.uk\/publication\/2023-progress-report-reducing-emissions-in-wales\/\">diffyg yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.<\/a><\/p>\n<p>Gofynnwyd i\u2019r WCPP ddarparu tystiolaeth i Gr\u0175p Her Sero-Net 2035 (NZ2035) i helpu i oleuo eu gwaith.<\/p>\n<p>Mae adroddiad cyntaf yr WCPP i\u2019r Gr\u0175p \u2013 Trosolwg ar Dueddiadau Allyriadau a Llwybrau \u2013 yn adolygu\u2019r cynnydd a wnaed hyd yma gyda Llwybr Cytbwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd gan daflu goleuni ar y ffactorau a effeithiodd ar y cynnydd hwnnw fel y pandemig, y rhyfel yn Ewrop a\u2019r argyfwng costau byw.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adroddiad yn tynnu sylw at feysydd lle y gallai newid sylweddol wneud y gwahaniaeth mwyaf i helpu Cymru i gyrraedd sero net yn gynt.<\/p>\n<p>Mewn papurau ategol, mae <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/darparu-tystiolaeth-ar-gyfer-effaith-barhaol\/\">Josh Coles-Riley<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Fframio-gwaith-Gr%C5%B5p-Her-Sero-Net-2035-Cymru-Dan-Bristow.pdf\">Dan Bristow<\/a> o\u2019r WCPP yn rhoi trosolwg ar r\u00f4l yr WCPP gyda darparu tystiolaeth i Gr\u0175p NZ2035 - ac yn rhoi\u2019r heriau sydd o\u2019n blaenau mewn cyd-destun, ar gyfer y Gr\u0175p ac ar gyfer uchelgais sero net Cymru.<\/p>\n<p>Meddai Dan Bristow, \u201cMae Llywodraeth Cymru wedi nodi\u2019n glir bod mynd i\u2019r afael \u00e2 newid hinsawdd yn flaenoriaeth bwysig, ac y dylai ymdrechion i wneud hyn gefnogi proses bontio deg i weithlu a chymunedau Cymru\u2019n unol \u00e2 Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cYn amlwg mae penderfyniadau anodd i\u2019w gwneud os yw Cymru nid yn unig i gyrraedd sero-net erbyn 2050 ond gyda dod \u00e2\u2019r targed ymlaen i 2035. Er enghraifft, bydd angen cael trafodaeth ddi-flewyn-ar-dafod am bethau fel defnydd tir, ffermio da byw a diogelu cymunedau gwledig; ac ar baratoi\u2019r sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu ar gyfer modelau allyriadau carbon isel.<\/p>\n<p>\u201cEdrychwn ymlaen at ddarparu tystiolaeth bellach i gefnogi gwaith parhaus Gr\u0175p Herio Cymru Sero Net 2035.\u201d<\/p>\n<p><strong>MEYSYDD ALLWEDDOL\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l dadansoddi\u2019r dystiolaeth sy\u2019n dangos sefyllfa unigryw Cymru o\u2019i gymharu \u00e2 gweddill y DU, mae adroddiad yr WCPP yn egluro y gallai rhai sectorau, fel amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, adeiladu, trafnidiaeth a chyflenwi ynni gael mwy o effaith, yn gyfrannol, ar drywydd allyriadau Cymru.<\/p>\n<p>Fel y noda grynodeb gweithredol yr adroddiad:<\/p>\n<p><em><strong>\u201cOs yw Cymru i gwrdd \u00e2\u2019i thargedau, bydd angen toriadau dyfnach a chynt mewn sectorau a brofodd yn anodd eu datgarboneiddio hyd yma - ond bydd gweithredu di-oed a phendant yn y meysydd hyn yn cael mwy o effaith, yn gyfrannol, ar siwrne sero net Cymru.\u201d<\/strong><\/em><\/p>\n<p>Noda y bydd newid ymddygiad unigolion a chymdeithas hefyd yn chwarae r\u00f4l allweddol yn siwrne Cymru i wneud cynnydd cynt.<\/p>\n<p><strong>SECTORAU HOLLBWYSIG. SUT Y GALLAI CYMRU ENNILL TIR?<\/strong><\/p>\n<p style=\"padding-left: 30px;\">\u2022 Gweithgynhyrchu. Mae llond llaw o safleoedd diwydiannol yn gyfrifol am y rhan fwyaf o allyriadau Cymru o weithgynhyrchu ac adeiladu. Bydd cynnydd gyda datgarboneiddio\u2019r safleoedd mawr hyn yn gwneud cyfraniad mawr i leihau allyriadau\u2019r sectorau hyn.<br \/>\n\u2022 Adeiladau preswyl. Daw tua 10% o allyriadau nwyon t\u0177 gwydr yng Nghymru o adeiladau preswyl, yn bennaf o ddefnyddio nwy i wresogi, coginio ac ar gyfer d\u0175r poeth. A fyddai\u2019n bosib cyflymu datgarboneiddio rhannau allweddol o\u2019r sector hwn, er enghraifft dileu gwerthu bwyleri nwy\u2019n raddol ac ar gyfer yr 20% o gartrefi yng Nghymru sydd oddi ar y grid nwy?<br \/>\n\u2022 Amaethyddiaeth. Mae newid defnydd tir a dibynnu llai ar gig a chynnyrch llaeth yn ffactorau pwysig i\u2019w hystyried, ond gan ystyried yr effaith ar gymunedau ffermio Cymru (mae 81% o allbwn amaethyddol Cymru\u2019n dda byw, mae 25% o ffermydd Cymru\u2019n dibynnu ar wartheg \/ defaid a dim ond 2% yn ffermydd cnydau a garddwriaeth).<br \/>\n\u2022 Trafnidiaeth. Dim ond y pandemig sydd wedi cael effaith sylweddol ar leihau allyriadau yn y maes hwn, oedd tan hynny heb newid bron ers 1990. Mae llwybr cytbwys y CCC yn rhagweld gostyngiad o 75% mewn allyriadau o drafnidiaeth erbyn 2035, gyda lleihad pellach o 25% erbyn 2050, ar y sail y gwerthir 100% o gerbydau trydan erbyn 2030. Roedd cerbydau trydan yn cyfrif am 7% yn 2021.<br \/>\n\u2022 Cyflenwi ynni. Mae angen buddsoddiad ac ymdrechion i gael mwy o bobl i fanteisio ar atebion carbon isel a dileu opsiynau carbon uchel yn raddol.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/net-sero-2035-adroddiad-tueddiadau-a-llwybrau\/\">CLICIWCH YMA i ddarllen yr adroddiad a\u2019r papurau.<\/a><\/p>\n<p>Mae Gr\u0175p Herio Cymru Sero Net 2035 bellach yn edrych ar y sector amaeth ar hyn o bryd \u2013 yn benodol \u2018Sut gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035?' cyn lawnsio her nesaf ynglyn a'r sector ynni, yn benodol, 'Sut y gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 a chael gwared ar danwydd ffosil yn raddol?'<\/p>\n<p>Ewch i wefan\u00a0<a href=\"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/\">Gr\u0175p Herio Cymru Sero Net 2035<\/a>\u00a0am fwy o fanylion.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi tynnu sylw at feysydd allweddol a allai helpu Cymru i wrthdroi diffyg yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Gofynnwyd i\u2019r WCPP ddarparu tystiolaeth i Gr\u0175p Her Sero-Net 2035 (NZ2035) i helpu i oleuo eu gwaith. Mae adroddiad cyntaf yr WCPP i\u2019r Gr\u0175p \u2013 Trosolwg ar Dueddiadau Allyriadau a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10229,"template":"","categories":[12],"tags":[144],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14835","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-sero-net"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-476835790-5.jpg","filesize":563211,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-476835790-5-744x385.jpg","width":744,"height":385,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":55150,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-476835790-5-744x385.jpg"},"large":{"file":"iStock-476835790-5-1200x621.jpg","width":1200,"height":621,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":117325,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-476835790-5-1200x621.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-476835790-5-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57938,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-476835790-5-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-476835790-5-768x397.jpg","width":768,"height":397,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57379,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-476835790-5-768x397.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-476835790-5-1536x795.jpg","width":1536,"height":795,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":173029,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-476835790-5-1536x795.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-476835790-5-2048x1060.jpg","width":2048,"height":1060,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":270560,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-476835790-5-2048x1060.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-476835790-5-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":253529,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-476835790-5-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14833","name":"iStock-476835790-5.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-476835790-5.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-476835790-5-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-476835790-5.jpg","title":"iStock-476835790-5.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-476835790-5-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-476835790-5-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14835","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14835\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10229"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14835"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14835"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14835"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14835"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}