{"id":14788,"date":"2019-07-16T15:06:47","date_gmt":"2019-07-16T15:06:47","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/canolfan-polisi-cyhoeddus-cymru-yn-derbyn-canmoliaeth-am-effaith-ragorol-ar-bolisi-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:21:33","modified_gmt":"2025-04-11T13:21:33","slug":"canolfan-polisi-cyhoeddus-cymru-yn-derbyn-canmoliaeth-am-effaith-ragorol-ar-bolisi-yng-nghymru","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/canolfan-polisi-cyhoeddus-cymru-yn-derbyn-canmoliaeth-am-effaith-ragorol-ar-bolisi-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn derbyn canmoliaeth am effaith ragorol ar bolisi yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn canmoliaeth gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) trwy ei <a href=\"https:\/\/esrc.ukri.org\/news-events-and-publications\/impact-case-studies\/shaping-welsh-government-policy-with-research-evidence\/\">chynllun gwobrwyo blynyddol, Dathlu Effaith<\/a>.<\/p>\n<p>Roedd y Ganolfan yn un o ddau a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghategori Effaith Polisi Cyhoeddus Ragorol mewn seremoni yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain ar 9 Gorffennaf 2019. Mae\u2019r Wobr yn cydnabod y ffordd y mae gwaith y Ganolfan yn galluogi Gweinidogion i gyrchu a defnyddio tystiolaeth annibynnol er mwyn llywio penderfyniadau polisi. Y Ganolfan oedd yr unig sefydliad o Gymru a gyrhaeddodd y rownd derfynol, ac fe\u2019i dewiswyd o blith nifer fawr o geisiadau cystadleuol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r wobr o fri, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, yn dathlu timau a ariennir gan ESRC sydd wedi cyflawni effaith economaidd neu gymdeithasol ragorol. Cafodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eu dewis yn \u00f4l proses drylwyr a gynhelir gan academyddion uwch, arbenigwyr ar ymgysylltu a chyfnewid gwybodaeth a defnyddwyr ymchwil. Arweiniwyd y digwyddiad gan Yr Athro Jennifer Rubin, Cadeirydd Gweithredol ESRC, a thraddodwyd y brif araith gan Syr Mark Walport, Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).<\/p>\n<p>Am y Ganolfan, dywedodd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford: \u201cMae gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cryfhau yn sylweddol y modd y lluniwn bolisi yng Nghymru. Mae\u2019n rhoi inni dystiolaeth annibynnol o safon uchel sy\u2019n herio ein rhagdybiau cyfredol a gwella ein penderfyniadau.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Steve Martin: \u201cRydym wrth ein boddau, yn wir, fod ESRC wedi dathlu\u2019r effaith yr ydym wedi llwyddo i\u2019w chael. Roeddem yn falch iawn i allu arddangos y gwaith sy\u2019n cael ei gyflawni yng Nghymru, ac mae\u2019r wobr dystiolaeth o ba mor uchel yw ansawdd y gwaith y mae ein t\u00eem yn ei gynhyrchu a\u2019r ffordd y mae Gweinidogion Cymru wedi agor y broses lunio polis\u00efau i\u2019r dystiolaeth orau sydd ar gael.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Jennifer Rubin: \u201cMae pob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi dangos effaith eu gwaith a\u2019i berthnasedd a\u2019i bwysigrwydd i\u2019r gymdeithas. Maent eisoes yn cyfrannu at ddadleuon polisi yn eu meysydd arbenigol, a gobeithio y bydd eu dylanwad yn parhau am flynyddoedd i ddod.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor (Y Celfyddydau, y Dyniaethau a\u2019r Gwyddorau Cymdeithasol) ym Mhrifysgol Caerdydd: \u201cMae\u2019r gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon o arwyddoc\u00e2d y gwaith y mae\u2019r Ganolfan yn ei gyflawni i sicrhau bod penderfyniadau polisi cenedlaethol sy\u2019n effeithio arnom wedi eu gwreiddio mewn tystiolaeth a gaffaeliwyd a\u2019i dehongli gan arbenigwyr yn atgoff\u00e2d o\u2019r r\u00f4l allweddol y mae\u2019r t\u00eem ymchwil hwn, a Phrifysgol Caerdydd, yn ei chwarae ym mywyd cymdeithasol a gwleidyddol Cymru. Llongyfarchiadau gwresog i\u2019r Ganolfan.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd: \u201cRydym yn falch iawn o waith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a\u2019r effaith mae\u2019n ei chael. Mae\u2019r Ganolfan yn llunio polisi cyhoeddus ac yn llywio penderfyniadau er mwyn cyflawni gwell canlyniadau at gyfer pobl Cymru. Ar ran Prifysgol Caerdydd, hoffwn longyfarch Steve a\u2019r t\u00eem yn ddiffuant ar y cyflawniad anhygoel hwn. Edrychaf ymlaen at weld y Ganolfan yn mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd i ddod.\u201d<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-3261\" src=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/48249195987_30dd41d70d_o-1024x683.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"683\" \/><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-3249\" src=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/48249115141_c102f3420a_o-1024x683.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"683\" \/><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-3265\" src=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/48249203887_1f6798e043_o-1024x683.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"683\" \/><\/p>\n<p>(Hawlfraint lluniau ESRC)<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn canmoliaeth gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) trwy ei chynllun gwobrwyo blynyddol, Dathlu Effaith. Roedd y Ganolfan yn un o ddau a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghategori Effaith Polisi Cyhoeddus Ragorol mewn seremoni yn y Gymdeithas Frenhinol yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14789,"template":"","categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[132,130],"class_list":["post-14788","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-effaith","research-and-impact-rol-kbos"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"48249110456_00f8690442_o-scaled.jpg","filesize":372714,"sizes":{"medium":{"file":"48249110456_00f8690442_o-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":44520,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/48249110456_00f8690442_o-744x496.jpg"},"large":{"file":"48249110456_00f8690442_o-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":95267,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/48249110456_00f8690442_o-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"48249110456_00f8690442_o-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":40033,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/48249110456_00f8690442_o-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"48249110456_00f8690442_o-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":46868,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/48249110456_00f8690442_o-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"48249110456_00f8690442_o-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":144650,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/48249110456_00f8690442_o-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"48249110456_00f8690442_o-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":242215,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/48249110456_00f8690442_o-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"48249110456_00f8690442_o-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":185944,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/48249110456_00f8690442_o-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"48249110456_00f8690442_o.jpg","ID":"14787","name":"48249110456_00f8690442_o-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/48249110456_00f8690442_o-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/48249110456_00f8690442_o-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/48249110456_00f8690442_o-scaled.jpg","title":"48249110456_00f8690442_o.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/48249110456_00f8690442_o-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/48249110456_00f8690442_o-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14788","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14788\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14789"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14788"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14788"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14788"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14788"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}