{"id":14767,"date":"2024-08-14T16:00:00","date_gmt":"2024-08-14T16:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/arolwg-cpcc-yn-codir-caead-ar-stigma-tlodi-yng-nghymru\/"},"modified":"2026-01-14T14:20:48","modified_gmt":"2026-01-14T14:20:48","slug":"arolwg-cpcc-yn-codir-caead-ar-stigma-tlodi-yng-nghymru","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/arolwg-cpcc-yn-codir-caead-ar-stigma-tlodi-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Arolwg CPCC yn codi'r caead ar stigma tlodi yng Nghymru\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae'r arolwg mawr cyntaf o hyd a lled stigma tlodi yng Nghymru wedi canfod bod 25% o boblogaeth Cymru wedi profi stigma tlodi 'bob amser', 'yn aml' neu 'weithiau' yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Comisiynwyd Sefydliad Bevan gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal yr arolwg fel rhan o waith y Ganolfan i gefnogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn deall a mynd i'r afael \u00e2'r mater yn well - i 'leihau, yn hytrach nag achosi stigma tlodi' wrth greu a darparu polis\u00efau a gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae'r arolwg, a gynhaliwyd gan YouGov ac a gefnogir gan bartner y Ganolfan, yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO), yn datgelu i ba raddau y mae'r dimensiwn cudd, ond niweidiol, hwn o dlodi yn effeithio ar grwpiau mawr o boblogaeth Cymru, gyda phobl ifanc yn llawer mwy tebygol o gael eu heffeithio na chenedlaethau h\u0177n.<\/p>\n\n\n\n<p>Dangosodd adroddiad blaenorol y Ganolfan, Adolygiad o Dlodi ac Allg\u00e1u Cymdeithasol yng Nghymru, fod stigma tlodi yn fath o ddioddefaint a all effeithio ar allu neu barodrwydd pobl i geisio cymorth neu gymryd rhan lawn yn eu cymunedau. I bob pwrpas, mae\u2019n rhwystr rhag dianc o dlodi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r arolwg yn edrych ar lefelau stigma tlodi yng Nghymru - stigma personol* a stigma strwythurol canfyddedig - a pha grwpiau o gymdeithas yng Nghymru sy\u2019n fwyaf tebygol o\u2019u profi.<\/p>\n\n\n\n<p>Prif ganfyddiadau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae 1 o bob 4 oedolyn yng Nghymru wedi profi stigma tlodi \u2018weithiau\u2019, \u2018yn aml\u2019 neu \u2018bob amser\u2019 yn ystod y 12 mis diwethaf \u2013 1 o bob 3 lle mae incwm blynyddol aelwydydd yn llai nag \u00a320k.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl iau yn profi lefelau uwch o stigma tlodi strwythurol personol a chanfyddedig na phobl h\u0177n (dywedodd pobl 16-24 oed iddynt brofi 3 x yn fwy o stigma personol na phobl 65 oed a h\u0177n).<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl sy\u2019n profi ansicrwydd bwyd yn profi 3 x yn fwy o stigma personol na\u2019r rheini nad ydynt yn wynebu ansicrwydd bwyd<\/li>\n\n\n\n<li>Y math mwyaf cyffredin o stigma tlodi personol yw lle \u2018mae pobl yn gwneud tybiaethau negyddol amdanaf oherwydd nad oes gen i lawer o arian\u2019<\/li>\n\n\n\n<li>Nid oedd stigma strwythurol canfyddedig yn amrywio yn \u00f4l incwm aelwydydd \u2013 mae 9 o bob 10 oedolyn yn credu bod y rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau, gwasanaethau cyhoeddus a\u2019r cyfryngau yn cyfrannu at stigma tlodi.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl ag anableddau, y rhai sy'n byw mewn eiddo rhent a'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau hefyd yn grwpiau sy'n fwy tebygol o brofi stigma yn gysylltiedig \u00e2 thlodiac yn fwy tebygol o gredu mewn stigma strwythurol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Dadansoddwyd yr arolwg gan Dr Greig Inglis o Brifysgol Gorllewin yr Alban ac Amanda Hill-Dixon a Josh Coles-Riley o'r Ganolfan. Mewn blog cysylltiedig, mae Dr Steffan Evans, Pennaeth Polisi (Tlodi) Sefydliad Bevan, wedi canmol y Ganolfan am godi proffil stigma tlodi ac wedi tynnu sylw at bolis\u00efau a all helpu i\u2019w leihau \u2013 gan bwysleisio mai tlodi ei hun yw prif sbardun y broblem.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Uwch-gymrawd Ymchwil y Ganolfan, Amanda Hill-Dixon: \u201cYn ogystal \u00e2 gorfod ymdopi ag incwm annigonol a chostau uchel, mae gormod o bobl hefyd yn gorfod delio \u00e2 rhwystr ychwanegol ar ffurf stigma tlodi a\u2019r baich iechyd meddwl ac allg\u00e1u cymdeithasol y gall hyn ei achosi. <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cYn rhyfedd ddigon, mae bron pawb yng Nghymru yn credu mewn stigma tlodi strwythurol, sy\u2019n awgrymu\u2019n gryf bod stigma tlodi yn fater systemig y mae angen i ni roi sylw iddo. Ac er bod llawer o\u2019r prif ffactorau sy\u2019n sbarduno tlodi y tu allan i reolaeth llywodraeth leol a chenedlaethol Cymru, drwy fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 thlodi, gall dylunwyr a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac elusennol gyfyngu ar effeithiau tlodi.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019n galonogol bod cymaint o frwdfrydedd ymysg gwasanaethau cyhoeddus i weithio gyda ni ac eraill i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r mater hwn er mwyn gwella bywydau\u2019r rheini sy\u2019n profi caledi sylweddol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ychwanegodd Steffan Evans, Pennaeth Polisi (Tlodi) Sefydliad Bevan: \u201cMae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn taflu goleuni ar yr agwedd hon ar dlodi - agwedd na cheir llawer o drafod arni\u2019n aml - ac mae\u2019n ein helpu i ddeall pa gamau y dylid eu blaenoriaethu i fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn. <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cAchos sylfaenol stigma tlodi yw tlodi ei hun, ond gall stigma waethygu effaith tlodi. Er enghraifft, os bydd y dirywiad yn iechyd meddwl person yn arwain at leihau ei oriau gwaith, bydd ei risg o fyw mewn mwy o dlodi yn cynyddu. Os bydd rhywun yn dewis peidio \u00e2 hawlio\u2019r holl gymorth y mae ganddo hawl iddo, bydd yn wynebu hyd yn oed mwy o galedi ariannol. Bydd plant sy\u2019n absennol o\u2019r ysgol oherwydd stigma yn ymwneud \u00e2 gwisg ysgol, bwyd neu adnoddau yn ei chael hi\u2019n anoddach cael y graddau gorau, gan gynyddu eu risg o fyw mewn tlodi pan fyddan nhw\u2019n oedolion.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDylai\u2019r camau a gymerir i fynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi canolbwyntio ar feysydd fel y rhain sydd, ochr yn ochr ag ymyriadau eraill fel buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o dai cymdeithasol a gwella mynediad at ofal plant, yn gallu helpu i newid y sefyllfa tlodi yn sylweddol a lleihau ei stigma.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r arolwg yn rhan o raglen waith ehangach y mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn ymgymryd \u00e2 hi, i helpu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ddeall a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn well \u2013 i leihau, yn hytrach nag achosi stigma wrth greu polis\u00efau a gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys partneriaeth \u00e2 Chyngor Abertawe ac aelodau Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe i nodi beth sy'n gweithio i fynd i'r afael \u00e2 stigma tlodi ar lefel leol a sicrhau bod profiad bywyd yn rhan allweddol o'r dysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Ganolfan hefyd wedi sefydlu Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi sy'n cynnwys ystod eang o gyfranogwyr gan gynnwys llunwyr polis\u00efau, ymarferwyr, arbenigwyr-drwy-brofiad ac academyddion, ac mae ar fin comisiynu Adolygiad Tystiolaeth Cyflym o'r mater.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Karen Berrell, Comisiynydd Gwirionedd Tlodi Abertawe, <\/strong><strong>\u201cMae stigma tlodi yn cael effaith negyddol ar y potensial sy\u2019n bodoli ar draws ein cymunedau. Fel rhywun sydd \u00e2 phrofiad byw fy hun, rwy\u2019n credu ei bod yn eithriadol o bwysig bod ein gwneuthurwyr polisi a\u2019n cyrff cyhoeddus yn deall effaith stigma tlodi er mwyn iddyn nhw allu mynd i\u2019r afael ag ef.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae angen i ni newid yr agweddau niweidiol sy\u2019n gwneud i bobl deimlo eu bod yn methu. Nid canlyniad dewisiadau gwael mewn bywyd yw tlodi a stigma tlodi, ond dewisiadau a wneir ar lefelau uchaf ein systemau gwleidyddol sy\u2019n golygu nad oes gan bobl ddigon o arian i fyw arno a\u2019u bod yn cael eu hallg\u00e1u\u2019n gymdeithasol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Alyson Anthony, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Lesiant:<\/strong> <strong>\u201cRydyn ni\u2019n awyddus i ddeall yn well beth yw r\u00f4l stigma fel rhwystr rhag i\u2019n trigolion gael mynediad at wasanaethau a buddion a chyfranogi cymunedol, a bydd ein partneriaeth \u00e2\u2019r Ganolfan a Chomisiynwyr Gwirionedd Tlodi Abertawe yn helpu i lywio Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe.\u201d<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>*Mae stigma personol yn cyfeirio at brofiadau unigolion o gael eu barnu\u2019n negyddol, eu hallg\u00e1u, neu eu trin yn annheg gan eraill am eu bod yn byw ar incwm isel.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae stigma canfyddedig yn cyfeirio at gred unigolion bod pobl sy\u2019n byw ar incwm isel yn cael eu trin yn annheg gan wasanaethau cyhoeddus, y sawl sy\u2019n gwneud penderfyniadau, a sefydliadau fel y cyfryngau.<\/p>\n\n\n\n<p>DARLLENWCH <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/?post_type=publication&amp;p=8376&amp;preview=true\">YR ADRODDIAD LLAWN<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>DARLLENWCH <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/mynd-ir-afael-a-stigma-ynghylch-tlodi-briff-polisi\/\">BRIFF POLISI<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>DARLLENWCH&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.bevanfoundation.org\/focus\/poverty\/\">flog Sefydliad Bevan<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>DARLLENWCH ein gwaith arall <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/stigma-tlodi\/\">hyd yma ar stigma tlodi<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae'r arolwg mawr cyntaf o hyd a lled stigma tlodi yng Nghymru wedi canfod bod 25% o boblogaeth Cymru wedi profi stigma tlodi 'bob amser', 'yn aml' neu 'weithiau' yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Comisiynwyd Sefydliad Bevan gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal yr arolwg fel rhan o waith y Ganolfan i gefnogi'r sector [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10410,"template":"","categories":[18],"tags":[146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14767","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-scaled.jpg","filesize":284907,"sizes":{"medium":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x526.jpg","width":744,"height":526,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":59352,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x526.jpg"},"large":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1200x848.jpg","width":1200,"height":848,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":111467,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1200x848.jpg"},"thumbnail":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":56960,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-768x543.jpg","width":768,"height":543,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":61639,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-768x543.jpg"},"1536x1536":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1536x1086.jpg","width":1536,"height":1086,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":151539,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1536x1086.jpg"},"2048x2048":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-2048x1448.jpg","width":2048,"height":1448,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":215929,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-2048x1448.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":186959,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3.jpg","ID":"10440","name":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-scaled.jpg","title":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14767","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14767\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20061,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14767\/revisions\/20061"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10410"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14767"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14767"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14767"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14767"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}