{"id":14763,"date":"2021-12-16T16:00:00","date_gmt":"2021-12-16T16:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/dysgu-gydol-oes-ywr-allwedd-i-ryddhau-potensial-llawn-cymru\/"},"modified":"2025-02-20T16:00:21","modified_gmt":"2025-02-20T16:00:21","slug":"dysgu-gydol-oes-ywr-allwedd-i-ryddhau-potensial-llawn-cymru","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/dysgu-gydol-oes-ywr-allwedd-i-ryddhau-potensial-llawn-cymru\/","title":{"rendered":"Dysgu gydol oes yw'r allwedd i ryddhau potensial llawn Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Dylai Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru (CTER) ganolbwyntio\u2019n benodol ar ddysgu gydol oes, yn \u00f4l adroddiad gan Brifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae'r astudiaeth, gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), yn galw am wella hawliau ym maes cyrchu addysg, hyfforddiant a dysgu cymunedol. Dylai\u2019r hawliau gael eu cefnogi gan gyngor gyrfaol ar adegau allweddol wrth i fywydau pobl newid a dylai cyllid mwy pwrpasol gan y llywodraeth fod ar gael at y dibenion hyn.<\/p>\n<p>Dywed yr ymchwilwyr y bydd y mesurau hyn yn helpu i fynd i'r afael \u00e2 heriau economaidd gan gynnwys perfformiad cynhyrchiant isel Cymru, cyfraddau uchel o anweithgarwch economaidd ac yn cyfrannu at ragor o iechyd a lles.<\/p>\n<p>Nod yr adroddiad yw cyfrannu at benderfyniadau polisi a chefnogi'r gwaith o weithredu'r CTER, a fydd yn cael ei sefydlu\u2019n rhan o Fil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2021.<\/p>\n<p>Dyma a ddywedodd Helen Tilley, Uwch-gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: \"Mae'r Bil Addysg Drydyddol yn dwyn ynghyd byd addysg uwch, addysg bellach a dysgu i oedolion o dan un corff rheoleiddio am y tro cyntaf yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi\u2019r cyfle i ymgorffori ffyrdd newydd o gydweithio ar draws\u00a0 sefydliadau a rhyngddyn nhw yn ogystal \u00e2\u2019r Comisiwn a Llywodraeth Cymru er mwyn diwallu orau y gellir anghenion unigolion, cymdeithas a'r economi.<\/p>\n<p>\"Mae ein hadroddiad yn dangos sut mae canolbwyntio ar ddysgu gydol oes yn hynod bwysig i ddiwallu anghenion o'r fath sy'n newid yn gyson oherwydd digwyddiadau megis Brexit, pandemig y coronafeirws a'r argyfwng yn yr hinsawdd. Mae datblygiadau technolegol ym maes deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio yn ogystal \u00e2 bywydau gwaith hirach ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol yn golygu bod mwy o angen i bobl hyfforddi o\u2019r newydd wrth i sgiliau pobl fynd yn hen ffasiwn.\"<\/p>\n<p>Dadansoddodd yr ymchwilwyr y data presennol ynghylch canlyniadau dysgu gydol oes, gan ymgynghori ag arbenigwyr yn y sector, cynnull panel o lunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill, a chynnal bord gron \u00e2 Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Canfuon nhw fod sgiliau sylfaenol oedolion yng Nghymru yn cymharu'n wael \u00e2 gweddill y DU, a bod y data'n dangos bod bron i chwarter yr oedolion heb gymhwyster lefel 2 - sy'n cyfateb i TGAU \u00e2 graddau A*-C - ac nad oes gan mwy na hanner y sgiliau digidol hanfodol sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer gwaith.<\/p>\n<p>Mae nifer y bobl sy\u2019n cymryd rhan mewn addysg i oedolion hefyd yn dirywio, tuedd a allai ychwanegu at heriau hirsefydlog o ran diffygion llythrennedd a sgiliau oedolion, rhybuddia\u2019r ymchwilwyr.<\/p>\n<p>Dyma a ddywedodd arweinydd yr astudiaeth, Dr Susan Pember CBE, Cyfarwyddwr Polis\u00efau HOLEX: \"Ar adeg heriau economaidd a chymdeithasol sylweddol gan gynnwys newid yn yr hinsawdd ac adfer yn sg\u00eel pandemig y coronafeirws, mae dysgu gydol oes yn bwysicach i Gymru nag erioed.<\/p>\n<p>\"Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at sut y gall Cymru greu system dysgu gydol oes sy'n addas ar gyfer y dyfodol tra'n mynd i'r afael \u00e2 materion sy'n bodoli eisoes megis bylchau o ran sgiliau a etifeddir. Bydd hyn yn gofyn am ddull gweithredu ar y cyd sy'n mynd y tu hwnt i'r sector addysg ac a gaiff ei gyflwyno ar y cyd \u00e2 rhwydwaith o bartneriaethau lleol gan gynnwys sefydliadau cymunedol a'r sector gwirfoddol, darparwyr preifat a byd llywodraeth leol.\"<\/p>\n<p>Er mwyn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar ddysgu gydol oes, mae ymchwilwyr yn dweud y dylai cyllid y llywodraeth fod ar gael i grwpiau sydd \u00e2'r angen mwyaf am gymorth ariannol, megis y rheiny sydd \u00e2 sgiliau hanfodol gwael; pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed; pobl ddi-waith a'r rheiny sydd mewn perygl o gael eu diswyddo.<\/p>\n<p>Dyma a ddywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: \"Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn, ac rwy'n ddiolchgar am y gwaith o ran ei ddatblygu. Rydyn ni wedi ymrwymo i ehangu dysgu gydol oes yng Nghymru, a bydd ei hyrwyddo yn un o ddyletswyddau strategol y Comisiwn newydd.<\/p>\n<p>\"Byddwn ni\u2019n ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad ac yn edrych ar sut y gallant lywio ein gwaith i gynyddu nifer yr oedolion sy'n dysgu yng Nghymru, ynghyd \u00e2 rhoi ein Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil ar waith a sefydlu'r Comisiwn.\"<\/p>\n<p>Darllenwch yr adroddiad:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/cefnogi-system-dysgu-gydol-oes-cymru\/\">Cefnogi System Dysgu Gydol Oes Cymru\u00a0<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dylai Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru (CTER) ganolbwyntio\u2019n benodol ar ddysgu gydol oes, yn \u00f4l adroddiad gan Brifysgol Caerdydd. Mae'r astudiaeth, gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), yn galw am wella hawliau ym maes cyrchu addysg, hyfforddiant a dysgu cymunedol. Dylai\u2019r hawliau gael eu cefnogi gan gyngor gyrfaol ar adegau allweddol wrth i fywydau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10012,"template":"","categories":[18],"tags":[136],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14763","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-addysg"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"life-long-learning.jpg","filesize":202797,"sizes":{"medium":{"file":"life-long-learning-744x372.jpg","width":744,"height":372,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":34803,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-744x372.jpg"},"large":{"file":"life-long-learning-1200x600.jpg","width":1200,"height":600,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":65342,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-1200x600.jpg"},"thumbnail":{"file":"life-long-learning-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":36849,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"life-long-learning-768x384.jpg","width":768,"height":384,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":36335,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-768x384.jpg"},"1536x1536":{"file":"life-long-learning-1536x768.jpg","width":1536,"height":768,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":91320,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-1536x768.jpg"},"2048x2048":{"file":"life-long-learning-2048x1024.jpg","width":2048,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":132952,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-2048x1024.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"life-long-learning-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":127133,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"10012","name":"life-long-learning.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning.jpg","title":"life-long-learning.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14763","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14763\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10012"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14763"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14763"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14763"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14763"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}