{"id":14737,"date":"2017-11-01T16:00:00","date_gmt":"2017-11-01T16:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/news\/dyfodol-gwaith-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-02-20T16:00:17","modified_gmt":"2025-02-20T16:00:17","slug":"dyfodol-gwaith-yng-nghymru","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/dyfodol-gwaith-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Dyfodol Gwaith yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Bydd mwy o ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial a roboteg yn newid y mathau o swyddi sydd ar gael yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf yn aruthrol.<\/p>\n<p>Mae adroddiad Dyfodol Gwaith yng Nghymru yn awgrymu y gall technoleg newydd wella cynhyrchiant a rhyddhau gweithwyr o dasgau ailadroddus a pheryglus, ond y gallai hefyd olygu y bydd nifer fawr o'r swyddi presennol yn diflannu ac y bydd arferion cyflogaeth yn newid mewn ffyrdd sy'n rhoi gweithwyr heb sgiliau dan anfantais. Mae'r adroddiad yn dadlau y dylid cynnig cymorth i weithwyr yng Nghymru i'w helpu i ddatblygu sgiliau sy'n anodd eu hawtomeiddio, megis creadigrwydd a meddwl yn feirniadol, sgiliau y bydd galw amdanynt yn yr economi ddigidol yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Meddai'r Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: \"Canfyddiad ein hadroddiad yw y gallai deallusrwydd artiffisial drawsnewid y byd gwaith yng Nghymru.<\/p>\n<p>\"Bu tipyn o s\u00f4n am dueddiadau'n fyd-eang, ond mae angen i ni ddatblygu dealltwriaeth well o'r ffordd y bydd datblygiadau ym maes technoleg yn effeithio ar economi Cymru er mwyn i ni allu paratoi ar gyfer dyfodol lle y gall rhai swyddi fod yn wahanol iawn i rai heddiw.<\/p>\n<p>\"Mae angen i weithwyr yma ddatblygu'r sgiliau i addasu i'r newidiadau hyn, ac mae i hyn oblygiadau pwysig o ran yr hyn sy'n cael ei addysgu gan ysgolion, cyngor ar yrfaoedd, dysgu gydol oes, hyfforddiant mewn gwaith ac ailhyfforddi.\"<\/p>\n<p>Lansiwyd yr adroddiad ar 1 Tachwedd yn ystod digwyddiad a noddwyd gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC. Ymhlith y siaradwyr arbenigol roedd: Matthew Taylor, Prif Weithredwr Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac awdur 'Good Work: The Taylor Review of Modern Working Practices' a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog, a siaradodd am raglen y Gymdeithas ar Ddyfodol Gwaith; a Stijn Broecke, Uwch Economegydd mewn Cyflogaeth, Llafur a Materion Cymdeithasol yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a siaradodd am raglen ymchwil y Sefydliad i ddyfodol gwaith.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd mwy o ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial a roboteg yn newid y mathau o swyddi sydd ar gael yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf yn aruthrol. Mae adroddiad Dyfodol Gwaith yng Nghymru yn awgrymu y gall technoleg newydd wella cynhyrchiant a rhyddhau gweithwyr o dasgau ailadroddus a pheryglus, ond y gallai hefyd olygu y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":17425,"template":"","categories":[3],"tags":[140],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14737","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-economi"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"AI.jpg","filesize":134312,"sizes":{"medium":{"file":"AI-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57442,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/AI-744x496.jpg"},"thumbnail":{"file":"AI-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":50719,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/AI-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"AI-768x511.jpg","width":768,"height":511,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":61144,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/AI-768x511.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"12750","name":"AI.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/AI.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/AI-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/AI.jpg","title":"AI.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14737","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/14737\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/17425"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14737"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14737"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14737"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14737"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}