{"id":21040,"date":"2026-04-16T11:00:39","date_gmt":"2026-04-16T11:00:39","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?post_type=job&p=21040"},"modified":"2026-04-23T11:17:30","modified_gmt":"2026-04-23T11:17:30","slug":"cynorthwydd-ymchwil-i-mawrth-2028","status":"publish","type":"job","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/job\/cynorthwydd-ymchwil-i-mawrth-2028\/","title":{"rendered":"Cynorthwyydd ymchwil (tan Mawrth 2028)"},"content":{"rendered":"\n
Rydyn ni'n chwilio am ymgeisydd graddedig rhagorol sy'n gallu pontio meysydd ymchwil a pholisi, a sy\u2019n ymroi i gynhyrchu gwaith ymchwil a dadansoddi o safon uchel sy'n berthnasol i bolis\u00efau. Mae hwn yn gyfle unigryw i weithio wrth wraidd y dadleuon polisi cyfredol, ac yn enwedig yn ein tri maes blaenoriaeth.<\/p>\n\n\n\n
Byddwch yn gweithio gydag ymchwilwyr profiadol a chyfryngwyr gwybodaeth i gwmpasu, dylunio a chyflawni prosiectau paratoi gwybodaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a chael eich mentora gan uwch staff y Ganolfan.<\/p>\n\n\n\n
Rydyn ni wedi datblygu tri maes blaenoriaeth yn seiliedig ar ddadansoddi\u2019r heriau polisi mwyaf sy'n wynebu llunwyr polis\u00efau lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Ein tri maes blaenoriaeth yw: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, lles cymunedol a\u2019r amgylchedd a sero net. Ochr yn ochr \u00e2'r rhain, rydyn ni\u2019n arwain cydweithrediad ymchwil penderfynyddion iechyd \u00e2 Chyngor Rhondda Cynon Taf sy\u2019n canolbwyntio ar fynd i\u2019r afael ag anghydraddoldebau iechyd.<\/p>\n\n\n\n
Mae gennyn ni 12 mlynedd o brofiad o lunio polis\u00efau yng Nghymru, gan gefnogi\u2019r rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau gyda thystiolaeth ac arbenigedd annibynnol a llunio polis\u00efau a dulliau o\u2019u gweithredu mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys yr amgylchedd, cyfiawnder cymdeithasol, llywodraethu, iechyd ac addysg. Rydyn ni hefyd yn cadw\u2019r hyblygrwydd a\u2019r arbenigedd i allu ymgymryd \u00e2 phrosiectau ymchwil eraill mewn ymateb i anghenion tystiolaeth llunwyr polis\u00efau.

Gofynnir i ymgeiswyr ateb y cwestiwn canlynol ar ddechrau eu datganiad ategol. Mae\u2019n rhaid i\u2019ch ateb BEIDIO \u00e2 bod yn fwy na chyfanswm o 300 gair.<\/p>\n\n\n\n
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yn darparu tystiolaeth sy\u2019n galluogi Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i wneud penderfyniadau ynghylch polis\u00efau a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Dewiswch faes polisi y mae gennych chi brofiad amlwg ohono gan egluro a yw'n ymwneud \u00e2 meysydd blaenoriaeth y Ganolfan. Yna amlinellwch sut y byddech yn cywain y dystiolaeth i ateb cwestiwn heriol yn y maes polisi hwn. Yn olaf, amlygwch y ffactorau allweddol y mae angen eu hystyried yngl\u0177n \u00e2 safon y dystiolaeth hon er mwyn sicrhau ei bod yn ddigon cadarn i helpu llunwyr polis\u00efau Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y r\u00f4l, cysylltwch \u00e2 Helen Tilley, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer (Llywodraeth Cymru) \u2013 helen.tilley@wcpp.org.uk<\/p>\n\n\n\n
Mae hon yn swydd amser llawn (35 awr) sydd ar gael ar unwaith tan 31 Mawrth 2028.<\/p>\n\n\n\n
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn fenter unigryw gwerth \u00a39 miliwn sy\u2019n cael ei hariannu ar y cyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd. Rydym yn pontio\u2019r bwlch rhwng ymchwil a gwneud penderfyniadau drwy wneud tystiolaeth drylwyr ac arbenigedd yn hygyrch, yn berthnasol, ac yn ymarferol i lunwyr polis\u00efau, ymarferwyr ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.<\/p>\n\n\n\n
Ein gweledigaeth yw Cymru lle mae polis\u00efau ac ymarfer cyhoeddus yn cael eu llunio\u2019n gyson gan y dystiolaeth a\u2019r wybodaeth orau sydd ar gael, gan arwain at wasanaethau cyhoeddus sy\u2019n fwy effeithiol, cyfiawn ac ymatebol.<\/p>\n\n\n\n
Ein cenhadaeth yw:<\/p>\n\n\n\n
DATBLYGU. Rydyn ni\u2019n ehangu gwybodaeth ym maes polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy rannu\u2019r hyn rydyn ni\u2019n ei ddysgu, gwerthuso effaith, a chyfrannu at gronfa wybodaeth gynyddol o'r hyn sy'n gweithio'n ymarferol.
NODI. Rydyn ni\u2019n gweithio ar y cyd \u00e2\u2019r rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i\u2019w helpu i adnabod eu heriau polisi mwyaf difrifol a llunio cyfleoedd ystyrlon er mwyn creu atebion sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth.
YMGYNNULL. Rydyn ni\u2019n dadansoddi ac yn cyfosod ymchwil o safon uchel mewn modd amserol ac rydyn ni\u2019n dwyn ynghyd arbenigwyr yn y DU ac yn fyd-eang i wella penderfyniadau polisi, a\u2019r broses o\u2019u rhoi ar waith.<\/p>\n\n\n\n
<\/p>\n\n\n\n
<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"
Rydyn ni'n chwilio am ymgeisydd graddedig rhagorol sy'n gallu pontio meysydd ymchwil a pholisi, a sy\u2019n ymroi i gynhyrchu gwaith ymchwil a dadansoddi o safon uchel sy'n berthnasol i bolis\u00efau. Mae hwn yn gyfle unigryw i weithio wrth wraidd y dadleuon polisi cyfredol, ac yn enwedig yn ein tri maes blaenoriaeth. Byddwch yn gweithio gydag […]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"template":"","class_list":["post-21040","job","type-job","status-publish","hentry"],"meta_box":{"files":[],"deadline":"1778716500","start_date":"","salary_min":"33951","salary_max":"36636","full_part_time":"full_time","location":"Caerdydd \/ Hybrid","application_link":"https:\/\/krb-sjobs.brassring.com\/TgNewUI\/Search\/Home\/Home?partnerid=30011&siteid=5461#jobDetails=2276714_5461"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/job\/21040","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/job"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/job"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/job\/21040\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21044,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/job\/21040\/revisions\/21044"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21040"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}