{"id":20957,"date":"2026-04-08T13:21:39","date_gmt":"2026-04-08T13:21:39","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?post_type=job&p=20957"},"modified":"2026-04-21T13:12:53","modified_gmt":"2026-04-21T13:12:53","slug":"cynorthwyydd-ymchwil-21464br","status":"publish","type":"job","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/job\/cynorthwyydd-ymchwil-21464br\/","title":{"rendered":"Cynorthwyydd Ymchwil (12 mis)"},"content":{"rendered":"\n
Mae'r Ganolfan yn falch o wahodd ceisiadau ar gyfer ein cynllun Prentisiaethau Ymchwil poblogaidd sy'n cael ei gynnal yn flynyddol.
Mae prentisiaid blaenorol yn astudio ar gyfer PhD, yn gweithio yn Llywodraethau'r DU a Chymru, ac mae rhai wedi symud ymlaen i swyddi ymchwil yn y Ganolfan. Rydym ni'n chwilio am ymgeisydd graddedig rhagorol sy'n gallu pontio meysydd ymchwil a pholisi, a sy\u2019n ymroi i gynhyrchu gwaith ymchwil a dadansoddi o safon uchel sy'n berthnasol i bolis\u00efau.
Mae hwn yn gyfle unigryw i weithio wrth wraidd y dadleuon polisi cyfredol, ac yn enwedig yn ein tri maes blaenoriaeth sef yr amgylchedd a sero net, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, a lles cymunedol. Byddwch chi hefyd yn cynnal ymchwil ar y defnydd o dystiolaeth wrth lunio polis\u00efau ac arferion ysgogi tystiolaeth.<\/p>\n\n\n\n
Byddwch chi\u2019n gweithio gydag ymchwilwyr profiadol i archwilio ac ymgymryd ag aseiniadau ar gyfer gweinidogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael eich mentora gan aelodau uwch o staff y Ganolfan. Byddwch chi\u2019n cael cyfleoedd i ymgymryd \u00e2 dau leoliad cysgodi gwaith gyda sefydliadau llywodraethol\/polisi perthnasol megis Llywodraeth Cymru.
Mae'r Ganolfan yn annibynnol ar y llywodraeth ond mae'n gweithio'n agos gyda gweinidogion, gweision sifil, llywodraeth leol a'r gwasanaeth iechyd i gynhyrchu tystiolaeth a dadansoddiadau o ansawdd uchel sy'n llywio ac yn gwella strategaethau, polis\u00efau a rhaglenni cenedlaethol a lleol. Mae\u2019n rhan o rwydwaith What Works yn y Deyrnas Unedig ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y DU ac yn rhyngwladol i baratoi ymchwil ar sail tystiolaeth sy\u2019n mynd i'r afael \u00e2 heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol o bwys. Roedd y Ganolfan wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Dathlu Effaith fawreddog y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae\u2019r Ganolfan hefyd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei dull arloesol, seiliedig ar alw, o ddefnyddio tystiolaeth a galw ar wybodaeth.
\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0
Gofynnir i ymgeiswyr ateb y cwestiwn canlynol ar ddechrau eu datganiad ategol. Mae\u2019n rhaid i\u2019ch ateb BEIDIO \u00e2 bod yn fwy na chyfanswm o 300 gair:
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yn darparu tystiolaeth sy\u2019n galluogi Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i wneud penderfyniadau ynghylch polis\u00efau a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Dewiswch faes polisi y mae gennych chi brofiad amlwg ohono gan egluro a yw'n ymwneud \u00e2 meysydd blaenoriaeth y Ganolfan. Yna amlinellwch sut y byddech yn cywain y dystiolaeth i ateb cwestiwn heriol yn y maes polisi hwn. Yn olaf, amlygwch y ffactorau allweddol y mae angen eu hystyried yngl\u0177n \u00e2 safon y dystiolaeth hon er mwyn sicrhau ei bod yn ddigon cadarn i helpu llunwyr polis\u00efau Cymru.<\/strong>
Mae'r Ganolfan yn cynnig amgylchedd gwaith ysgogol a chefnogol o fewn t\u00eem colegol uchel ei gymhelliant. Cewch fanteisio ar nifer o gyfleoedd hyfforddi a ddarperir gan Brifysgol Caerdydd. Rydyn ni\u2019n cefnogi gweithio hybrid a threfniadau gweithio hyblyg eraill, ond yn disgwyl i staff weithio yn ein swyddfeydd yn y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol pwrpasol newydd a leolir ar Gampws Arloesi \u00a3300 miliwn Prifysgol Caerdydd o leiaf dau ddiwrnod yr wythnos.<\/p>\n\n\n\n
Mae'r swydd yn benodiad un flwyddyn amser llawn o Ebrill 2026, neu cyn gynted \u00e2 phosibl wedi hynny.<\/p>\n\n\n\n
Cyflog: \u00a333,951 i \u00a336,636 y flwyddyn (Gradd 5)<\/p>\n\n\n\n
Mae'r Ganolfan yn falch o wahodd ceisiadau ar gyfer ein cynllun Prentisiaethau Ymchwil poblogaidd sy'n cael ei gynnal yn flynyddol. Mae prentisiaid blaenorol yn astudio ar gyfer PhD, yn gweithio yn Llywodraethau'r DU a Chymru, ac mae rhai wedi symud ymlaen i swyddi ymchwil yn y Ganolfan. Rydym ni'n chwilio am ymgeisydd graddedig rhagorol sy'n […]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"template":"","class_list":["post-20957","job","type-job","status-publish","hentry"],"meta_box":{"files":[],"deadline":"1778111700","start_date":"Apr 8, 2026","salary_min":"33951","salary_max":"36636","full_part_time":"full_time","location":"Caerdydd \/ Hybrid","application_link":"https:\/\/krb-sjobs.brassring.com\/TgNewUI\/Search\/Home\/Home?partnerid=30011&siteid=5464#jobDetails=2275019_5464"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/job\/20957","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/job"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/job"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/job\/20957\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21026,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/job\/20957\/revisions\/21026"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20957"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}