Sut y gall ymyriadau polisi cymunedol cysylltiedig helpu i leddfu arwahanrwydd cymdeithasol yng Nghymru?
Mae lles cymdeithasol pobl a chymunedau Cymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Cyflwynodd pandemig COVID-19 heriau sylweddol o ran cynhwysiant cymdeithasol, gan waethygu anghydraddoldebau mewn iechyd meddwl gwael, unigrwydd, ac ynysu cymdeithasol diangen. Fodd bynnag, dangosodd hefyd ystwythder ac arloesedd cymunedau i fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol a gwella lles. Yr her i lywodraethau a gwasanaethau cyhoeddus ar bob lefel wrth symud ymlaen yw sut y gellir cynnal a gwella gweithgaredd cymunedol er budd pawb. Mae’r rhaglen Cymunedau Cysylltiedig yn ceisio cyflwyno tystiolaeth ar wahaniaethau cymdeithasol ac anghydraddoldebau yn y profiad o unigrwydd, yn ogystal â’r hyn sy’n gweithio i wella lles cymdeithasol trwy weithredu cymunedol cydweithredol a rhoi seilwaith ac adnoddau ffisegol a digidol ar waith.