Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol a pharhaus yn y gefnogaeth gyhoeddus i ddatganoli yng Nghymru. Mwyafrif bach iawn oedd o blaid creu Cynulliad Cymreig yn refferendwm 1997. Bellach mae llai nag 1 o bob 5 o’r boblogaeth oedolion yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio i wyrdroi’r penderfyniad hwnnw, tra bod traean eisiau i’r Senedd gael mwy o bwerau. Mae 40% o bobl 16-24 oed, y genhedlaeth gyntaf i dyfu i fyny gyda datganoli, yn ffafrio annibyniaeth lawn. Ond a yw cefnogaeth y cyhoedd yn golygu y gellir datgan bod datganoli yn llwyddiant, neu a ddylem fod yn gofyn mwy ganddo?
I lawer, roedd yr achos dros y Cynulliad yn un normadol, yn canolbwyntio’n bennaf ar hunaniaeth genedlaethol a hunan-benderfyniad. Ond roedd ymgyrch ‘Ie’ 1997 hefyd yn dibynnu’n drwm ar y ddadl ‘swyddogaethol’ fod angen polisïau cynhenid ar Gymru sydd wedi’u teilwra i’w chyd-destun cymdeithasol-economaidd a gwleidyddol unigryw ei hun. Addawyd i ni y byddai hyn yn rhoi gwell llywodraethiant i ni, gwasanaethau cyhoeddus mwy ymatebol, ac economi gryfach. Ddegawd yn ddiweddarach, dyna oedd dadl Comisiwn Richard a’r Ysgrifennydd Gwladol o hyd. Dadl Peter Hain oedd mai’r prawf terfynol o ran Cynulliad cryfach oedd a fyddai o fudd i Gymru ‘yn ymarferol’, tra bod y Barwn Richard o’r farn y gallai Cynulliad â mwy o bwerau ddarparu ‘llywodraeth fwy agored, cyfranogol ac ymatebol’ a ‘chanlyniadau polisi gwell’.
Felly a gafwyd gwell llywodraethiant a gwell canlyniadau i gyfateb i lwyddiant gwleidyddol datganoli?
Yn gynnar iawn, siaradodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Rhodri Morgan, am ‘ddŵr coch clir’ rhwng Caerdydd a San Steffan. Gan ymbellhau oddi wrth fodel Blair o ddewis y defnyddiwr a chystadleuaeth rhwng gwasanaethau, roedd Gweinidogion Cymru yn arddel dull ‘dinesydd-ganolog’ a oedd yn dibynnu ar bartneriaeth gydag awdurdodau lleol a rhyngddynt. Ac roedd gwahaniaethau trawiadol o gymharu â pholisïau llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys: presgripsiynau am ddim, parcio mewn ysbytai, brecwast yn yr ysgol, a nofio i blant a phobl hŷn; mabwysiadu Comisiynydd Plant yn gynnar, peidio â gwystlo cyllidebau llywodraeth leol, a gwrthod y drefn ‘Gwerth Gorau’ o blaid hunanasesu gan gynghorau. Ddegawd yn ddiweddarach, y Cynulliad oedd y ddeddfwriaeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno tâl gorfodol am fagiau siopa untro. Erbyn 2014, roedd wedi creu fframwaith statudol unigryw ar gyfer taclo digartrefedd. Y flwyddyn ganlynol daeth â deddfwriaeth i rym oedd yn arwain y byd o ran hybu llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Ac yn fwy diweddar cawsom: agwedd benodol Llywodraeth Cymru ei hun at gyfyngiadau Covid-19; gwahardd cosb gorfforol i rieni ym mis Mawrth eleni; cyd-greu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin; a chyflwyno cwricwlwm ysgol newydd y mis yma, ynghyd â phrydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd.
Mewn gwirionedd, ni ellir dweud bod yr un o’r polisïau ‘Cymreig’ unigryw hyn wedi achosi newid sylweddol yn hynt dangosyddion economaidd a chymdeithasol allweddol. Fel gweddill y Deyrnas Unedig, mae Cymru wedi brwydro i godi lefel cynhyrchiant neu leihau tlodi. Ond mae’n amlwg yn afrealistig disgwyl hynny gan lywodraeth ddatganoledig sydd heb fawr o reolaeth dros bolisi macro-economaidd na’r system fudd-daliadau. Efallai y dylem fod yn edrych, yn lle, am ddifidend datganoli mewn meysydd fel iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, trafnidiaeth, a llywodraeth leol, y mae’r Cynulliad/Senedd wedi bod yn eu goruchwylio yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Y broblem yw bod diffyg data cadarn i olrhain perfformiad y gwasanaethau hyn yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, neu gymharu hyn â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Felly nid ydym yn gwybod a yw gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru bellach yn well, yn waeth, neu tua’r un fath ag y buasent petai pleidleiswyr wedi gwrthod creu’r Cynulliad yn ôl yn 1997.
Mae un maes arall y gellid disgwyl i ddatganoli fod wedi cael effaith amlwg ynddo – dylai fod wedi rhoi’r gallu i ni feithrin agwedd unigryw at sut caiff polisïau eu llunio a’u gweithredu.
Dylai gwlad fach sydd â chymuned bolisi glos a lefel anarferol o ddilyniant gwleidyddol allu datblygu a gweithredu polisi mewn ffyrdd nad oeddent yn bosibl cyn datganoli. Weithiau mae adrannau Llywodraeth Cymru yn dal i weithio o fewn y ‘seilos’ a etifeddwyd ganddynt o Whitehall, ond mewn theori dylent fod mewn sefyllfa dda i ddatblygu dulliau cyd-gysylltiedig o ymdrin â heriau polisi trawsbynciol. Mae’r map llywodraeth leol a gafodd ei lunio yng nghoridorau ac ystafelloedd pwyllgora San Steffan yng nghanol y 1990au yn dal yn ei le. Ac mae’r trefniadau llywodraethu is-ranbarthol a rhanbarthol cymhleth sy’n gorgyffwrdd a osodwyd arno wedi cymylu’r llinellau atebolrwydd ac arwain at ludded yn y bartneriaeth. Ond mae’r gallu i ddod â phedwar pennaeth yr heddlu, 22 arweinydd yr awdurdodau lleol, saith prif weithredwr y byrddau iechyd, a llunwyr penderfyniadau allweddol eraill ynghyd mewn un ystafell (neu ar un Zoom) yn golygu eu bod yn gallu cydlynu eu cynlluniau a’u camau gweithredu, fel y gwelsom yn ystod y pandemig. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu fframwaith trosfwaol sy’n rhoi ymdeimlad o ddiben a blaenoriaethau a rennir, ac mae cefnogaeth eang i’r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf. Bellach mae gan Gymru fynediad at ymchwil o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd, o ganlyniad i fuddsoddiadau mewn cyfryngwyr tystiolaeth fel Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Canolfan Tystiolaeth COVID-19 Cymru, a Chanolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fydd yn cael ei chreu’n fuan. Y broblem yw bod cyni wedi erydu’r ‘capasiti amsugno’, sy’n angenrheidiol i weithredu ar sail y dystiolaeth er mwyn cyflawni dyheadau’r Ddeddf Llesiant. Mae toriadau i gyllideb llywodraeth leol wedi gorfodi cynghorau i golli staff sy’n gweithio mewn rolau dadansoddol er mwyn diogelu ‘gwasanaethau rheng flaen’, ac mae Archwilio Cymru yn adrodd bod Llywodraeth Cymru bellach yn cyflogi 9% yn llai o staff cyfwerth ag amser llawn nag yn 2009/2010 wrth geisio rheoli costau. Nid yw’r pwysau ariannol hyn yn mynd i leddfu’n fuan, ond un o’r heriau allweddol ar gyfer y 25 mlynedd nesaf yw dod o hyd i ffordd o adeiladu’r capasiti a’r gallu polisi sydd eu hangen ar lywodraeth genedlaethol a lleol i’w galluogi i ddatblygu a chyflawni polisïau sydd wir yn gwella bywydau pobl Cymru, fel ein bod yn elwa’n llawn o’r bleidlais ‘Ie’ honno ym 1997.