Tuag at economi werdd: datblygu sylfaen ddeddfwriaethol Cymru

Mae llawer o sôn am raddfa a chyflymder y newid sydd ei angen i symud tuag at sero net yng Nghymru. Fel y trafodwyd yn ein papur tystiolaeth ar gyfer Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, mae’r newidiadau hyn yr un mor bwysig ar gyfer creu economi ffyniannus ag y maent ar gyfer creu economi werdd. Mae angen cyflawni hanfodion pwysig i sbarduno ffyniant economaidd, a dylid gosod y rhain o fewn gweledigaeth o economi werdd sy’n bosibl drwy bontio teg a chyfiawn.

Er mwyn gwireddu cyfleoedd economaidd o ddatgarboneiddio mae angen datrysiadau i lawer o’r un heriau sy’n codi wrth gynyddu cynhyrchiant ac wrth leihau anghydraddoldeb. Mae hanfodion ffyniant economaidd yn cynnwys: sefydliadau economaidd, rhwydweithiau a sefydliadau ariannol sefydlog sy’n gweithio’n dda; seilwaith cefnogol; ac yn hollbwysig, arweinyddiaeth a chronfa o weithwyr medrus. Pan fydd y nodweddion hyn ar waith, mae’r buddsoddiad a’r arloesi sydd eu hangen i ddatblygu’r economi werdd yn cael ei hwyluso.

Er bod rhai ysgogiadau polisi allweddol yn cael eu cadw i lywodraeth y DU, a’r ffaith nad oes gan sefydliadau rhanbarthol y DU bwerau digonol i wneud penderfyniadau, na galluoedd cyllidebol na sefydliadol i wneud ymyriadau polisi trawsnewidiol, mae pethau mawr y gellir eu gwneud yng Nghymru o hyd. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau sylweddol ym meysydd polisi addysg a sgiliau. Mae’r rhain yn ffactorau pwysig sy’n sbarduno cynhyrchiant ac a fydd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o dyfu’r economi werdd, gan y bydd angen addasu setiau sgiliau mewn nifer o swyddi, ac nid y rhai sy’n cael eu hystyried yn swyddi technegol o fewn sectorau gwyrdd yn unig. Fel rhan o hyn, bydd newidiadau i’r system addysg a sgiliau, ynghyd â chefnogaeth hirdymor, yn hanfodol i sicrhau bod dysgu yn digwydd gydol oes.

Yn ogystal â’r ysgogiad i gydlynu buddsoddiad mewn sgiliau, mae gan Lywodraeth Cymru hefyd ysgogiadau polisi ar gyfer trafnidiaeth, ymchwil a datblygu, mannau gweithio, a datblygu clystyrau gyda chadwyni cyflenwi cefnogol; mae’r rhain i gyd yn elfennau hanfodol ar gyfer pontio tuag at sero net yn llwyddiannus. Dylai’r rhain fod yn seiliedig ar weledigaeth o ddatblygu economaidd i Gymru er mwyn meithrin hyder buddsoddwyr. Bydd deall sut gall gwahanol sectorau gefnogi ei gilydd, gan ystyried meysydd o fantais gymharol a chyfleoedd ar gyfer cydweithredu ac arloesi rhanbarthol, yn cryfhau hyn ymhellach.

Mae Cymru wedi sefydlu sylfaen ddeddfwriaethol dda i gefnogi pontio teg a chyfiawn, gan gynnwys: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ddarparu’r fframwaith cyffredinol; y Bartneriaeth Gymdeithasol i ddod â phartneriaid ynghyd; Cyd-bwyllgorau Corfforedig i alluogi cydweithio rhanbarthol; a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i hwyluso ymateb y sector addysg drydyddol i’r galw mawr am ailsgilio. Yr her barhaus sy’n wynebu pob un o’r rhain yw datblygu’r gallu i weithredu.

Mae gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau rhanbarthol y potensial i annog buddsoddiad mewn rhannau gwledig neu ddad-ddiwydiannol o Gymru, drwy ddarparu amgylchedd polisi sy’n sefydlog yn y tymor hir a sicrhau bod y gweithlu medrus yn cael ei gefnogi gan gysylltiadau trafnidiaeth dibynadwy. Mae polisïau o’r fath yn rhoi cyfleoedd i ddiwydiannau a gwasanaethau newydd ac ategol ddod i’r amlwg.

Mae’r gwersi a ddysgwyd o brosesau pontio diwydiannol mewn gwledydd eraill yn dangos sut gall dulliau cydweithredol helpu i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer delio â’r addasiadau angenrheidiol sydd angen eu cyflawni ar gyfer pontio tuag at sero net. Yn benodol, mae partneriaethau rhwng llywodraethau cenedlaethol, awdurdodau lleol, gwasanaethau cyhoeddus, undebau llafur, cymunedau a busnesau yn allweddol i sicrhau bod polisïau’n cael eu targedu’n dda ac yn cyflawni eu nodau.

Mae angen buddsoddi ac ariannu’n gyson er mwyn cyflawni hyn. Oherwydd capasiti cyfyngedig Llywodraeth Cymru i fenthyca ar gyfer buddsoddi, bydd dod o hyd i ffynonellau cyllid newydd ac arloesol yn gwbl hanfodol. Mae hyn yr un mor wir i awdurdodau lleol sydd angen symud tuag at sero net ag ydyw i’r sector preifat allu tyfu a ffynnu mewn economi werdd.

Yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, rydym yn datblygu cam newydd o’n maes blaenoriaeth Amgylchedd a Sero Net i ddarparu tystiolaeth ategol i helpu Llywodraeth Cymru a llunwyr polisïau gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn.