Tlodi cudd mewn cymunedau yng Nghymru

Mae tlodi’n cael ei bortreadu weithiau fel rhywbeth sy’n digwydd mewn ardaloedd trefol yn bennaf, ond mae pobl yn wynebu caledi ariannol ym mhob rhanbarth ac ardal ddaearyddol yng Nghymru. Mae un o bob pump (21%) o boblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol;  mae cyfran uwch na hyn yn gorfod byw heb yr hanfodion.  Mae tri o bob deg o bobl (31%) yn cael anhawster i gynhesu eu cartrefi, ac mae bron i un o bob pedwar (24%) yn bwyta prydau llai o faint neu’n mynd heb brydau bwyd yn gyfan gwbl.  Mae WCPP wedi comisiynu tri blog cysylltiedig sy’n archwilio ardaloedd daearyddol o galedi yng Nghymru nad ydynt yn cael eu cydnabod yn ddigonol.  Mae’r rhain yn disgrifio ysgogwyr penodol tlodi a sut mae  tlodi yn dod i’r golwg mewn gwahanol fathau o gymunedau – lled-drefol, gwledig a ffermio – ac felly gallai fod angen datrysiadau polisi wedi’u teilwra’n bwrpasol.

Yn ei blog gwadd ar gyfer WCPP, mae Eleri Williams o’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (BCT) yn pwysleisio y gallai profiad pobl sy’n byw mewn ardaloedd lled-drefol, ar gyrion canolfannau trefol, ddwysáu oherwydd absenoldeb cysylltiad cymdeithasol a seilwaith cymdeithasol.   Mae blog Eleri wedi’i ategu gan ymchwil diweddar gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (BCT), a ganfu bod caledi ar gyrion canolfannau trefol mawr yn cael ei ddwysáu gan ddiffyg asedau cymunedol a dinesig.  Mae’r ‘ardaloedd llai cydnerth’ hyn yn aml yn ystadau tai a adeiladwyd ar ôl yr 2il Ryfel Byd a hen gymunedau glofaol, gyda llai o ganolfannau cymunedol, tafarndai a siopau a llai o gymunedau gweithredol ac ymgysylltiedig.  Mae ymchwil BCT yn ychwanegu dimensiwn newydd i Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, gan awgrymu bod preswylwyr ardaloedd lled-drefol yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith a phrofi problemau iechyd hirdymor, o gymharu â’r rhai sy’n byw mewn tlodi mewn ardaloedd â chymunedau mwy ymgysylltiedig a gweithredol.

Yn ei flog gwadd ar gyfer WCPP, mae’r Athro Mike Woods yn dangos natur gudd tlodi gwledig. Mae data a ddefnyddiwyd i fesur amddifadedd yn aml wedi’i orliwio mewn ffordd sy’n cuddio tlodi mewn ardaloedd gwledig.  Mae teuluoedd sy’n profi amddifadedd mewn ardaloedd gwledig yn aml wedi’u gwasgaru ymhlith cymdogion mwy cyfoethog, ond mae amddifadedd yn aml yn fwy dwys mewn  lleoliadau trefol.  Gall fod yn anodd hefyd canfod y dangosydd cywir ar gyfer tlodi mewn ardaloedd gwledig. Mae bod yn berchen ar gar, er enghraifft, yn fwy o anghenraid na dewis oherwydd y cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael a’r pellter rhwng cartrefi, gweithleoedd ac amwynderau.  Mae digartrefedd hyd yn oed yn wahanol, gyda llai o bobl yn cysgu allan o gymharu ar ardaloedd trefol, ac yn hytrach maent yn cysgu yng nghartrefi perthnasoedd neu ffrindiau.  Mae adroddiad blaenorol gan WCPP wedi pwysleisio’r heriau o werthuso effaith ymyriadau a ddyluniwyd i fynd i’r afael â thlodi gwledig.

I’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, mae’r rhyng-gysylltiadau rhwng cyflogaeth, trafnidiaeth a thai yn cyflwyno heriau tai penodol.  Cyfraddau uchel o swyddi cyflog isel, tai anfforddiadwy a thrafnidiaeth gyhoeddus wael sy’n ysgogi tlodi gwledig.  Mae twristiaeth wedi darparu cyflogaeth i rai, ond mae’r nifer o ail gartrefi a llety gwyliau wedi ei gwneud yn anos dod o hyd i rywle i fyw.  Mae’r farchnad rhentu hirdymor wedi crebachu, ac mae cost eiddo yn golygu na all llawer o bobl fforddio eu prynu.  Mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r lefelau cyflogaeth yng Nghymru, yn berthynol i’r DU, gan gynrychioli  mwy na 4% o gyflogaeth yng Nghymru.  Mae gan amaethyddiaeth gysylltiadau â swyddi cysylltiedig eraill (er enghraifft, mewn marchnadoedd gwerthu anifeiliaid a lladd-dai), ond mae dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru yn ansicr.

Yn eu blog gwadd i WCPP, mae Dr. Peter Gittins a Dr. Eifiona Thomas Lane yn amlinellu’r pryderon  y disgwylir i galedi gynyddu i gymunedau ffermio. Mae incwm pobl yn isel ar y cyfan; mae gan dros hanner ffermydd Cymru incwm blynyddol o lai na £ 25,000 a gallai newidiadau i gymorthdaliadau ffermio gael effaith arwyddocaol ar gynhyrchiant ffermydd.  Mewn rhai achosion, mae cymorthdaliadau yn cynrychioli mwy na 90% o incwm blynyddol ffermwr.  Mae perygl bod yr ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn dwysáu’r heriau i aelwydydd ffermio. Fel ceidwaid medrus ein tir, gall ffermwyr gyfrannu at fioamrywiaeth a chadwraeth ein hadnoddau naturiol, ond fel y mae protestiadau diweddar dros y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru wedi dangos, gall cefnogi ffermwyr yn ddigonol i gyflawni nodau bioamrywiaeth a chadwraeth fod yn heriol.  Mae ymdrechion eraill i gyrraedd sero net wedi arwain at brynu tir fferm cynhyrchiol yn gyfan gwbl ar gyfer gwrthbwyso carbon, gan ddwysáu’r pwysau ar yr ecosystem cyflogaeth – a diwylliannol – yng nghefn gwlad Cymru.

Mae effeithiau tlodi ar iechyd corfforol a meddyliol yn drawiadol.  Mae maetheg wael, tai a gwresogi annigonol a straen yn arwain at ganlyniadau iechyd gwael.  Mae ymchwil diweddar wedi pwysleisio lefelau pryderus o broblemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol mewn cymunedau ffermio yn y DU, yn arbennig poen, anesmwythder, gorbryder ac iselder.  Ac mae’r stigma sy’n gysylltiedig â thlodi yn atal pobl rhag ceisio’r cymorth sydd ei angen arnynt.  Fel y mae Mike Woods yn ei ddisgrifio yn ei flog ar dlodi gwledig, gall cryfder y syniad o hunanddibyniaeth wledig a’r ofn o sefyll allan mewn cymuned fach atal pobl rhag ceisio cymorth.  Gall hyn yn ei dro atgyfnerthu dulliau cenedlaethol o ddarparu lles sy’n canolbwyntio ar syniadau o gyfrifoldeb personol, yn hytrach na hawl pawb i gael cymorth lles 

Mae achosion strwythurol tlodi yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol unigolion sy’n byw mewn ardaloedd lled-drefol a gwledig, ac mewn cymunedau ffermio.  Mae achosion a chanlyniadau strwythurol amrywiol yn galw am ystyriaethau polisi a dulliau gweithredu penodol.  Mae angen cymorth ar ffermwyr i gydbwyso cynlluniau amaeth-amgylcheddol gyda gwirioneddau economaidd-gymdeithasol; mae angen cymorth ar gymunedau gwledig i greu cyfleoedd cyflogaeth, trafnidiaeth a thai, ac atgyfnerthu mynediad at amwynderau; ac mae angen gwella seilwaith a chydnerthedd cymunedol ar draws  pob ardal ddaearyddol yng Nghymru.