Rhagor o ddata a phwyslais cynharach yn allweddol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn addysg a hyfforddiant ôl-16 oed

Mae creu Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn cynrychioli newid sylfaenol yn nhrefniadaeth addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru. Mae’r blog hwn yn trafod rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu llunwyr polisi addysg a hyfforddiant ôl-16 oed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys lefelau cymharol isel y cyfranogiad mewn addysg uwch, lefelau cyfranogi is mewn addysg academaidd yn achos bechgyn ac anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol mawr. Mae hefyd yn ystyried sut y gallai polisi ymateb yn y ffyrdd gorau. I wneud hynny, mae’n cyfeirio at ystod o dystiolaeth newydd ar addysg a hyfforddiant ôl-16 oed yn y DU. Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth eang ac adolygiadau polisi a gynhyrchwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC), dadansoddiad arloesol o addysg a hyfforddiant ôl-16 oed a gynhyrchwyd gan CPCC/ADR Cymru a gwaith ar y cyd rhyngof i a chydweithwyr EPI/SKOPE ar addysg a hyfforddiant ôl-16 oed ledled y DU.

Lefelau cyfranogi isel mewn dosbarthiadau chwech ac addysg uwch yng Nghymru

Un o nodweddion diffiniol allweddol addysg ôl-16 oed yng Nghymru, o’i gymharu â gweddill y DU, yw’r gyfradd gyfranogi is mewn dosbarthiadau chwech mewn ysgolion ac addysg uwch. Yn ein hadroddiad EPI/SKOPE diweddar, rydym yn dangos mai dim ond 35% o rai 16-17 oed yng Nghymru sy’n mynychu dosbarthiadau chwech ysgolion. Mae hyn yn cymharu â 45% yn Lloegr, dros 60% yn Gogledd Iwerddon a 63% yn yr Alban (hyd at 79% os ydych yn cyfrif cofrestriadau deuol yn yr Alban). Mae cyfran llawer uwch o bobl ifanc mewn colegau yng Nghymru (dros 50%).

Mae’n debygol iawn bod y gwahaniaethau hyn yn y math o ddarpariaeth yn adlewyrchu argaeledd cymharol dosbarthiadau chwech mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru. Mewn ardaloedd gwledig yn benodol, nid yw disgyblion yn debygol o gael llawer iawn o ddewis rhwng dosbarthiadau chwech mewn ysgolion a cholegau, ac mae’n bosibl y byddant yn dal i deithio cryn bellter i fynychu lleoliad ôl-16 oed.

Mae hyn yn bwysig gan y bydd yn debygol o effeithio ar y math o gymwysterau addysgol y bydd pobl ifanc yn eu cael. Mae colegau’n fwy tebygol o gynnig cyrsiau galwedigaethol, gyda dosbarthiadau chwech mewn ysgolion yn fwy tebygol o gynnig cyrsiau academaidd, fel Lefelau A. Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc mewn dosbarthiadau chwech ysgolion yn dilyn cyrsiau lefel A, gyda lefelau A yn cyfrif am ddim ond tua 28% o’r cyrsiau a ddilynir gan bobl ifanc mewn colegau yng Nghymru. Yn rhannol o ganlyniad i hyn, mae adroddiad CPCC/ADR Cymru yn dangos bod dros 50% o bobl ifanc yng Nghymru’n dilyn cyrsiau galwedigaethol, gyda 32% wedi cofrestru ar gyfer Lefelau A. Yn Lloegr, ar y llaw arall, roedd 47% o bobl ifanc yn astudio Lefel A yn 2022.

O gofio’r gwahaniaethau hyn, efallai nad yw’n syndod ein bod hefyd yn gweld lefelau cyfranogi is mewn addysg uwch yng Nghymru. Fel yr ydym yn ei ddangos yn ein hadroddiad EPI/SKOPE, roedd tua 37-38% o rai 18 oed yn Lloegr yn cymryd rhan mewn addysg uwch yn 2023. Mae’r ffigurau ar gyfer yr Alban yn cael eu cyfrifo mewn ffordd ychydig yn wahanol, ond nid ydynt yn debygol o fod yn llawer is na’r rhai a welir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yng Nghymru, ar y llaw arall, dim ond tua 30% o rai 18 oed oedd mewn addysg uwch yn 2023. Mae llawer o resymau am y lefel is hon o gyfranogiad mewn addysg uwch, ond un o’r prif resymau yw’r pwyslais ar gyrsiau a cholegau galwedigaethol. Mae prifysgolion yn fwy tebygol o fod â gofynion mynediad sydd wedi’u seilio ar gymwysterau academaidd fel Lefelau A.

Hanfodol i ddeall y canlyniadau

Ni ddylai’r ffaith bod mwy o ddisgyblion yn mynd i golegau yng Nghymru ac yn dilyn cyrsiau galwedigaethol fod yn anfanteisiol. Yn wir, mi all cael mwy o ddisgyblion ar gyrsiau technegol o safon uchel lle maent yn dysgu sgiliau gwerthfawr fod yn gryfder. Mae rhinweddau’r dull Cymreig felly’n dibynnu ar ganlyniadau’r gwahanol lwybrau addysg i fyfyrwyr a phobl ifanc.

Er nad yw’r data cyfredol yn dangos inni ble mae dysgwyr ar lwybrau galwedigaethol yng Nghymru’n diweddu, rydym yn gweld canlyniadau i rai pobl ifanc yng Nghymru sy’n achos pryder. Rydym eisoes wedi gweld eu bod yn llai tebygol o fynychu addysg uwch. Maent hefyd yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET). Roedd bron i 11% o rai 16-18 oed yng Nghymru’n cael eu cyfrif fel NEET yn 2022-23, o’i gymharu ag 8% yn Lloegr, 9% yn yr Alban a 5% yng Ngogledd Iwerddon. Hefyd, mae’r canlyniadau economaidd i bobl ifanc yng Nghymru o gefndiroedd dosbarth gweithio’n eithaf gwael. Maent yn llai tebygol o fod â chymwysterau cymwysterau sy’n cyfateb i Lefel 3 neu Lefel A (56% yng Nghymru, o’i gymharu â 60-65% yng ngweddill y DU). Maent hefyd yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth (71% yng Nghymru, o’i gymharu â 74-78% yng ngweddill y DU).

I gael dealltwriaeth fwy manwl fyth o ddeilliannau a chanlyniadau llwybrau addysg yng Nghymru byddai angen mwy o ddata na sydd gennym ar hyn o bryd. Yn benodol, mae angen cysylltu data gweinyddol addysg â data enillion, cyflogaeth a budd-daliadau gan CThEF a DWP. Mae’r data hyn ar gael eisoes yn Lloegr ar ffurf y set ddata Deilliannau Hydredol Addysg ac maent eisoes yn datgelu gwybodaeth am yr hyn sy’n achosi anghydraddoldebau addysgol ac enillion. Dylid rhoi blaenoriaeth ar unwaith i sicrhau bod data o’r fath ar gael yng Nghymru hefyd.

Lefelau anghydraddoldebau sy’n achosi pryder

Mae pryderon tymor hir a chyson wedi’u mynegi ynghylch anghydraddoldebau addysg a hyfforddiant ôl-16 oed yng Nghymru a’r DU. Mae hyn yn amlwg yn yr holl ddadansoddiadau ar y pwnc. Mae adroddiad CPCC/ADR Cymru yn dangos mai dim ond 15% o’r plant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim sydd mewn dosbarthiadau chwech mewn ysgolion yng Nghymru ac mai dim ond 9% sy’n gwneud Lefelau A. Hefyd, yn un o nodweddion mwyaf gwerthfawr yr adroddiad arloesol hwn, maent yn dangos bod yr anghydraddoldebau hyn yn ymestyn i wahaniaethau mawr yn ôl galwedigaeth y rhieni, addysg y rhieni ac elfennau eraill o amddifadedd. Er bod hyn yn amlwg yn achos pryder, bydd yn bwysig bod y Medr newydd yn parhau â’r dadansoddiad ac yn cyhoeddi’r gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol o ran mynediad at wahanol fathau o addysg a hyfforddiant ôl-16 oed, a hynny’n rheolaidd. Bydd hyn yn annog dadl gyhoeddus, ac yn y diwedd yn arwain at newid polisi.

Rydym hefyd yn gweld gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol amlwg o ran mynediad at addysg uwch. Mae ein hadroddiad EPI/SKOPE yn dangos mai dim ond tua 15-16% o bobl ifanc o ardaloedd o amddifadedd yng Nghymru a’r Alban sy’n mynychu addysg uwch. Yn Lloegr, mae’r ffigur hwn yn uwch, sef tua 20%, ond mae’n is yng Ngogledd Iwerddon, sef 13%. Yn amlwg, mae problemau ledled y DU o ran galluogi’r disgyblion sy’n profi’r amddifadedd mwyaf i fynd i addysg uwch.

Un o’r anghydraddoldebau amlwg eraill sydd i’w gweld mewn addysg a hyfforddiant ôl-16 oed yw gwahaniaethau’n ôl rhywedd. Mae merched yn llawer mwy tebygol o fynychu dosbarthiadau chwech mewn ysgolion (37%) na bechgyn (30%) yng Nghymru. Mae bechgyn yn fwy tebygol na merched o ddilyn cyrsiau galwedigaethol. Yn ein hadroddiad EPI/SKOPE, mi welwn hefyd fod bechgyn yng Nghymru’n llawer llai tebygol o fynd i addysg uwch (24%) na merched (36%), ac na welwyd y nesaf peth i ddim newid yng nghyfran y bechgyn sy’n mynd i addysg uwch yng Nghymru yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.

Mae’r gwahaniaethau hyn mewn cyfranogiad mewn addysg i’w gweld yn glir ledled y DU, ac yn wir yn y rhan fwyaf o’r gwledydd â’r economïau mwyaf datblygedig. Fodd bynnag, gan mai Cymru sydd â’r gyfradd isaf ar y cyfan o ran cyfranogiad mewn addysg uwch, bechgyn Cymru sydd â’r lefelau cyfranogi isaf mewn addysg uwch ledled y DU. Unwaith eto, mae hyn bod yn sicr o fod yn gysylltiedig â’r ffaith bod mwy o fechgyn Cymreig yn dilyn cyrsiau galwedigaethol ar ôl 16 oed.

Mae’r ymatebion polisi gorau’n debygol o ganolbwyntio ar yr hyn sy’n dod cyn 16 oed

Yn eu hadolygiad trylwyr o’r dystiolaeth, mae CPCC yn dangos bod diffyg tystiolaeth o effeithiolrwydd llawer o’r cynlluniau sydd â’r nod o ehangu cyfranogiad mewn addysgu bellach ac uwch ymhlith pobl ifanc. Yn anffodus, nid yw hyn yn gymaint o syndod â hynny. Mae’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos mai’r hyn sy’n digwydd cyn 16 oed sy’n dylanwadu fwyaf pan ddaw’n fater o wneud dewisiadau addysg yn ddiweddarach. Pan fyddwch yn ystyried cyrhaeddiad blaenorol hyd at 16 oed, mae gwahaniaethai economaidd-gymdeithasol mewn cyfranogiad mewn addysg uwch a deilliannau’n lleihau neu’n diflannu’n gyfan gwbl. Mae hyn yn awgrymu mai’r ffordd orau o gynyddu cyfranogiad mewn addysg bellach ac uwch yw lleihau anghydraddoldebau yn y system ysgolion.

Yn anffodus, mae tystiolaeth glir o anghydraddoldebau uchel cyson yn y system ysgolion yng Nghymru, a lefelau sy’n uwch nag yng ngweddill y DU. Roedd y canlyniadau PISA diweddar yn rhoi darlun pryderus iawn o lefelau sgiliau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yng Nghymru, a hynny o’i gymharu â gweddill y DU a gweddill y byd. Mae dadansoddiad EPI o ganlyniadau TGAU wedi dangos bod disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yng Nghymru tua 22-23 o fisoedd ar ôl o ran eu cynnydd addysgol o’i gymharu â’u cymheiriaid mwy breintiedig, sy’n cymharu â bwlch anfantais llai mewn canlyniadau TGAU o tua 18 mis yn Lloegr. Ni fu fawr ddim newid yn y bwlch anfantais hwn yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf.

Mae fy adroddiad IFS diweddar yn dadlau hefyd bod anghydraddoldebau uwch yn y system ysgolion yng Nghymru’n annhebygol o adlewyrchu tlodi uwch yng Nghymru, cymysgedd ethnig gwahanol o ddisgyblion, tueddiadau ystadegol neu wahaniaethau mewn adnoddau. Yn hytrach, maent yn fwy tebygol o adlewyrchu gwahaniaethau mewn polisi a dulliau. Hefyd, nid oes fawr ddim tystiolaeth i awgrymu y gallai newidiadau i’r cwricwlwm, asesiadau neu’r flwyddyn ysgol sy’n digwydd neu sydd yn yr arfaeth wella pethau na lleihau anghydraddoldebau. Yn wir, mae risg wirioneddol y gallai newidiadau o’r fath waethygu anghydraddoldebau. Heb ymdrechion newydd, newid mewn cyfeiriad polisi ac adnoddau ychwanegol i fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad, mewn ysgolion, mi fydd gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol mewn addysg bellach ac uwch yn parhau’n fawr.

Mae’n debyg bod gwahaniaethau rhwng y rhywiau o ran cyfranogiad mewn addysg a mathau o gyrsiau’n anos fyth i’w newid. Er bod merched yn perfformio’n well na bechgyn yn y system ysgolion, nid yw’r gwahaniaeth hwn yn agos at fod yn ddigon i egluro pam mae merched gymaint yn fwy tebygol o ddilyn cyrsiau academaidd neu fynd ymlaen i addysg uwch. Mae gwahaniaethau o’r fath yn fwy tebygol o adlewyrchu normau ac agweddau sefydledig rhwng y rhywiau.

Casgliadau polisi  

I gloi, mae’n ymddangos fod cyfoeth y hwn o dystiolaeth newydd yn amlygu nifer o ganfyddiadau a goblygiadau allweddol cyson. Yn gyntaf, dylai’r Medr newydd fod yn olrhain anghydraddoldebau mewn cyfranogiad a dewis o gyrsiau mewn ffordd reolaidd a systematig. Gallai dadansoddiad o’r fath wneud defnydd o ddata gweinyddol a chyfrifiad cysylltiol newydd, dylai gynnwys cymaint o agweddau ar anghydraddoldeb â phosibl, a dylai alluogi cymariaethau â gweddill y DU a gwledydd eraill. Bydd hyn yn llywio dadl gyhoeddus ac yn creu’r pwysau i leihau’r anghydraddoldebau hyn. Yn ail, mae angen inni ddatblygu dealltwriaeth well o ganlyniadau gwahanol gyfranogiad a dewis o gyrsiau, a’r anghydraddoldebau yn y dewisiadau hynny. Ni fydd hyn yn bosibl heb ddata gweinyddol addysg wedi’u cysylltu â data CThEM a DWP ar enillion, cyflogaeth a budd-daliadau. Mae data o’r fath ar gael eisoes yn Lloegr ar ffurf y set ddata Canlyniadau Addysg Hydredol. Dylai creu’r un data i Gymru fod yn flaenoriaeth ar unwaith. Yn drydydd, dylem fod yn realistig o ran effeithiau polisïau cyfranogi sy’n canolbwyntio ar rai dros 16 oed ac oedolion ifanc. Mi all polisïau o’r fath newid cyfranogiad pobl ifanc, eu pynciau a’u dewis o gyrsiau rhyw gymaint ar y cyrion. Fodd bynnag, yr hyn sy’n dod cyn eu bod yn 16 oed yw’r hyn sy’n cael fwyaf o effaith ar benderfyniadau addysg a hyfforddiant ôl-16 oed. Byddai mynd i’r afael ar y lefelau enfawr a digyfnewid o anghydraddoldeb mewn cyrhaeddiad addysg lefel ysgol yng Nghymru’n cael llawer mwy o effaith ar ddewisiadau addysg a hyfforddiant ôl-16 oed. Dylai Llywodraeth Cymru a’r Medr newydd weithio ag ysgolion i leihau anghydraddoldebau mewn cyrhaeddiad cyn-16 oed fel man cychwyn holl bwysig.