Bum mlynedd yn ôl i heddiw, dewisodd pobl y deyrnas hon ymadael ag Undeb Ewrop, proses arweiniodd at ddechrau perthynas fasnach newydd â’r undeb o 1af Ionawr 2021.
Mae Canolfan Polisïau Cyhoeddus Cymru a’i rhagflaenydd, Sefydliad Polisïau Cyhoeddus Cymru, wedi ceisio deall goblygiadau hynny i Gymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Rydyn ni wedi chwilio ein harchifau i weld sut roedden ni wedi trafod y broses a pha mor dda rydyn ni wedi cloriannu effaith penderfyniad tyngedfennol o’r fath.
Dechrau’r broses
Ar ôl y refferendwm yn 2016, holon ni Beth fydd y goblygiadau i Gymru? Nodon ni gymorthdaliadau amaethyddol, ymfudo a masnach, buddsoddi ac ariannu strwythurol yn feysydd a fyddai’n effeithio’n fawr ar Gymru yn sgîl gadael yr undeb. Roedd ein rhaglen waith dros y blynyddoedd canlynol wedi’i seilio ar y tri maes.
Ffermydd a physgodfeydd
Un o ganlyniadau gadael yr undeb yw mai San Steffan sy’n pennu cymorthdaliadau amaethyddol a chwotâu pysgota bellach. Felly, mae lle i adlunio’r trefnau cymorth cyfredol a chreu ffyrdd newydd o helpu’r diwydiannau hynny yn ogystal â cheisio cyflawni nodau polisïau cyhoeddus eraill.
Yn 2018, ystyron ni sut y gallai’r ymadawiad effeithio ar amaeth a defnyddio tir yng Nghymru. Dadleuodd ein hadroddiad ei bod yn debygol y byddai gwerth cyffredinol cymorthdaliadau amaethyddol yn llai a chan y byddai’n anos dod o hyd i farchnadoedd hefyd, byddai sawl fferm a chwmni’n llai hyfyw (yn arbennig ffermydd defaid).
Ynghylch pysgodfeydd, gwelon ni y byddai rhaid newid proses dyrannu’r cwotâu a rheoli hynny’n well er lles fflyd fechan ac arbenigol Cymru o achos natur y sector yn y wlad hon. Mae cyfleoedd i gynnal a chadw pysgodfeydd ar gyfer y dyfodol hefyd, fodd bynnag.
Ymfudo
Roedd ymfudo’n bwnc llosg yn ystod y refferendwm, ac mae effeithiau trefn ymfudo newydd wedi bod yn bryder i Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf.
Yn 2017, cyfrannon ni at waith Llywodraeth Cymru ynghylch Hawl i symud ar ôl gadael Undeb Ewrop, gan dynnu sylw at berygl y gallai Cymru fod ar ei cholled o ganlyniad i reolau newydd er bod rhannau eraill o’r deyrnas yn derbyn mwy o ymfudwyr na ni.
Yn 2020, cyhoeddon ni adroddiad a argymhellodd addasu polisïau ymfudo fesul rhanbarth a sector i alluogi Cymru i ddenu ymfudwyr er twf economaidd; ac un arall a ddatganodd y byddai’n anos i’n gwasanaethau gofal cymdeithasol ddenu gweithwyr o Ewrop o ganlyniad i newid rheoliadau ymfudo.
Masnach, buddsoddi ac ariannu strwythurol
Yn 2018, edrychon ni ar dystiolaeth ynghylch rôl cyrff llywodraeth is-wladol mewn trafodaethau rhyngwladol am fasnach i weld y ffordd orau o hybu buddiannau Cymru yn y trafodaethau dros gytundeb masnach y Deyrnas Gyfunol ac Undeb Ewrop, gan argymell y dylai Cymru bennu a dilyn blaenoriaethau a cheisio dylanwadu ar y cynnwys.
Wedyn, ceisiodd Cymru hybu ei buddiannau yn ystod y trafodaethau hynny a thrafodaethau ar gytundebau â gwledydd eraill ynghylch masnach. Soniodd ein hadroddiad 2020 ar oblygiadau trawsffurfio Ewrop i sectorau economaidd pwysig Cymru am sut y byddai rhwystrau newydd rhag masnachu a llai o arian strwythurol yn effeithio ar brif sectorau economi’r wlad. Ein barn oedd y gallai ansicrwydd a diffyg paratoi gryfhau effaith niweidiol rhwystrau newydd.
Undeb Ewrop a datganoli
Agwedd olaf ein gwaith fu deall effaith canlyniad y refferendwm ar ddatganoli ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Mae rhai wedi pryderu y gallai’r pwerau a ddaw yn ôl o Frwsel fynd i Lundain ac mai Llywodraeth San Steffan fydd yn eu gweinyddu. Mae’r anghydfod dros Ddeddf y Farchnad Fewnol yn awgrymu y gallai anghytuno ar sut y bydd pwerau’n cael eu defnyddio (a chan bwy) barhau, yn enwedig os na all San Steffan a Bae Caerdydd gytuno ar faterion strategol.
Tynnodd yr ymadawiad sylw at y ffordd y gall negeseuon llywodraethau fod yn groes i bryderon etholwyr hefyd, a pham y gallai fod angen i hynny newid.
Pa mor llwyddiannus oedden ni?
Mae’n gwaith wedi adlewyrchu’r ansicrwydd sydd ar led megis y diffiniadau cyntaf o ymadawiadau ‘caled’ a ‘meddal’ a disgrifiadau aneglur o’r modd y byddai’r rheolau newydd yn cael eu gweinyddu. Mae’n gwaith wedi ystyried amryw ddeilliannau a allai fod wedi digwydd yn ôl y dystiolaeth orau a oedd ar gael yr adeg honno.
Mae anawsterau rhoi protocol Gogledd Iwerddon ar waith yn ddiweddar yn dangos nad yw holl oblygiadau’r ymadael nac anawsterau’r gweithredu newydd wedi’u deall eto. Ar ôl didoli effeithiau ymadael ag Undeb Ewrop a rhai’r pandemig parhaus maes o law, bydd modd pwyso a mesur pa mor gywir oedd ein sylwadau.
Yn y cyfamser, mae’n gwaith wedi helpu llunwyr polisïau Llywodraeth Cymru a’r tu hwnt i fynd i’r afael â chymhlethdod ymadael ag Undeb Ewrop a deall yr anawsterau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgîl ein perthynas fasnachu newydd.