Mae’n ddigon posibl mai ‘Pan fydd hyn ar ben’ yw un o’r ymadroddion a ddefnyddir fwyaf yn ystod y pandemig Coronafeirws. Ond a ddaw i ben mewn gwirionedd? Efallai mai sioc sydyn ond byrhoedlog fydd hyn. Ond mae’n llawer yn fwy tebygol y caiff Coronafeirws effaith tymor hir parhaus fydd yn newid ein heconomi a’n cymdeithas mor sylfaenol fel na wnawn ni fyth ddychwelyd at y ‘normal’ cyn y pandemig.
Wrth gwrs mae nifer o bethau nad ydym ni’n eu gwybod. Dydyn ni ddim yn deall digon am y clefyd eto. Mae graddfa a hirhoedledd ei effaith ar yr economi’n aneglur. Dydyn ni ddim yn gwybod sut y caiff blaenoriaethau cyhoeddus ac ymddygiad unigol eu hailffurfio. Ond gallwn edrych ar sut mae economïau wedi ymateb i sioc yn y gorffennol. Gallwn fod yn eithaf sicr mai’r mwyaf bregus fydd ymhlith y rhai a gaiff eu taro galetaf. A gallwn ddisgwyl dod ar draws heriau polisi cyhoeddus sylweddol wrth i ni geisio ymadfer ar ôl y pandemig.
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn darparu tystiolaeth a dadansoddiad annibynnol i helpu i lywio’r penderfyniadau a wneir gan arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, gweinidogion Llywodraeth Cymru a llunwyr polisïau. Dros y mis nesaf byddwn yn cyhoeddi cyfres o flogiau sy’n edrych ar wahanol weddau o’r pandemig Coronafeirws a rhai o’r agweddau y gallai llunwyr polisïau eu mabwysiadu i gynorthwyo adferiad economaidd a chymdeithasol sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol.
Mae’r dystiolaeth i gyd yn cyfeirio at bwysigrwydd creu economi ddynamig, arloesol a chynhwysol i gynhyrchu gwaith da a bod yn sylfaen i fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus a chymorth lles. Fe wyddom y bydd angen i bolisïau fydd yn ysgogi adferiad economaidd adlewyrchu gwahaniaethau rhanbarthol sylweddol o fewn Cymru. Mae’r diwydiannau twristiaeth, lletygarwch, hamdden, awyrofod a modurol yn gyflogwyr mawr mewn sawl rhan o’r wlad a gallai’r rhain fod yn araf i adfer yn dilyn y pandemig. Bydd hyn yn ergyd drom i drefi arfordirol a rhai cymunedau gwledig. Mae gan Gymru hefyd nifer fawr o ficrofusnesau a BBaChau a allai fod yn llai abl i oroesi’r cwymp economaidd na chwmnïau mwy o faint. Bydd pobl ifanc a phobl â sgiliau isel hefyd yn arbennig o agored i ddiweithdra a thangyflogaeth, ac mae llawer y gall llunwyr polisïau ei wneud yng Nghymru i hwyluso dilyniant cyflogaeth allan o swyddi ansicr a chyflog isel.
Egwyddor arweiniol ‘adeiladu yn ôl yn well’ yw bod rhaid i unrhyw adferiad fod yn seiliedig ar dwf gwyrdd er mwyn i ni ymdrin â’r heriau brys y mae’r argyfwng newid yn yr hinsawdd yn eu cyflwyno. Tanwydd ffosil sydd wedi pweru adferiadau diweddar. Gallai’r cwymp mewn prisiau olew ein temtio i lawr yr un llwybr y tro hwn. Gan adeiladu ar ein gwaith ar drawsnewidiadau cyfiawn, bydd y gyfres hon o flogiau’n edrych ar ffyrdd y gall y llywodraeth osgoi hyn a chefnogi adferiad economaidd sy’n ein helpu i gyflawni Cymru ddi-garbon.
Gweithwyr Iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi bod ar y llinell flaen yn brwydro’r pandemig. Bydd ein cyfres yn edrych ar Coronafeirws a chostau iechyd. Byddwn hefyd yn ystyried sut y byddwn yn cefnogi gwasanaethau Iechyd a chymdeithasol yn y dyfodol. Un o effeithiau cadarnhaol y pandemig fu’r gydnabyddiaeth gynyddol i’r rolau hanfodol y mae staff llinell flaen yn eu chwarae yn gofalu am y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. A fydd hyn yn arwain at welliannau tymor hir mewn cyflog a thelerau ac amodau gweithwyr gofal? Ac os felly sut fyddwn ni’n cwrdd â chostau cynyddol gofal? Gallai Brexit waethygu problemau recriwtio a chadw. A fydd y pandemig yn gwneud iechyd a gofal cymdeithasol yn ddewis gyrfa mwy neu lai deniadol i weithwyr y DU? Yn fwy cyfredol, pa gymorth allwn ni ei roi i staff i’w helpu i ddod i delerau gyda’r trawma o drin dioddefwyr y pandemig?
Mae gwasanaethau cyhoeddus eraill, nad ydynt yn cael sylw’n aml, wedi chwarae rhan hanfodol yn ymateb i’r pandemig. Mae’r argyfwng fel pe bai’n datgloi ffyrdd newydd o weithio a chyflymu trawsnewid gwasanaethau. Rydym ni wedi gweld symudiad cyflym i rai gwasanaethau iechyd digidol ynghyd â defnyddio capasiti cymunedol i gynorthwyo pobl fregus. Yn ystod y cyfnod clo, rhoddwyd llety brys i bobl oedd yn cysgu ar y stryd a diogelwyd pobl oedd yn rhentu rhag cael eu troi allan. Bydd ein cyfres o flogiau’n ystyried sut olwg fydd ar ddarpariaeth tymor hir i grwpiau bregus wrth i’r mesurau argyfwng hyn leddfu. Byddwn hefyd yn archwilio a ydym ni’n tystio i symudiad tymor hir mewn lefelau o ymgysylltu sifig a sut i gynnal capasiti mewn llywodraeth leol mewn cyfnod pan fydd cyllid cyhoeddus, yn anochel, dan bwysau. A byddwn ni’n ystyried rôl ‘entrepreneuriaid polisi’ yn cynhyrchu syniadau polisi newydd.
Ar y cam hwn, nid oes unrhyw atebion diffiniol. Ond wrth i ymatebion polisi i’r pandemig ymddangos, mae’n bwysig eu bod yn seiliedig ar dystiolaeth o bedwar ban byd am y ffyrdd gorau i liniaru’r risgiau uniongyrchol a thymor hir, a’u bod yn manteisio ar y cyfleoedd i ailffurfio ein heconomi a’n cymdeithas er mwyn i ni allu dod allan o’r argyfwng presennol yn addas ar gyfer y dyfodol.