Mae ymrwymiadau i gymdeithas garbon net-sero yn codi cwestiynau ynghylch pwy allai ysgwyddo cost hyn, a phwy allai fod ar eu hennill. Yn y blog hwn rydym ni’n edrych ar alwadau am ‘drawsnewid cyfiawn’ sy’n gweld datgarboneiddio fel cyfle i ymdrin ag anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.
2019 fu’r flwyddyn lle daeth yr ymadrodd ‘argyfwng yr hinsawdd’ i’r amlwg. Gan ymateb i dystiolaeth gynyddol a phwysau o du’r cyhoedd, Llywodraeth Cymru oedd un o’r cenhedloedd cyntaf i ddatgan Argyfwng yr Hinsawdd. 2019 hefyd yw’r flwyddyn yr ymrwymodd Llywodraeth Cymru i sicrhau gostyngiad o 95% o leiaf mewn allyriadau carbon erbyn 2050, gyda chyhoeddi dogfennau polisi allweddol yn ategu hyn; yn fwyaf nodedig Cymru Carbon Isel a Cymru sy’n effro i’r hinsawdd. Ochr yn ochr ag argymhellion Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, mae hyn yn arwydd o ymrwymiad i ddatgarboneiddio economi Cymru o fewn y 30 mlynedd nesaf.
Ond er bod cytundeb gwleidyddol eang ynghylch yr angen i ddatgarboneiddio, yng Nghymru ac yn ehangach, nid yw goblygiadau trawsnewid o economi garbon-ddwys bob amser yn glir. Mae trosi dyhead net-sero yn realiti yn galw am gynigion polisi manwl a gofalus, yn ogystal â dewisiadau gwleidyddol am yr hyn y dylid ei flaenoriaethu yn ystod y cyfnod o drawsnewid i economi carbon isel. Cymhlethdod arall yw y bydd ein penderfyniadau polisi heddiw’n pennu pa ddewisiadau sydd ar agor i ni yn ddiweddarach, fel y mae tirwedd economaidd bresennol Cymru’n cael ei ffurfio gan ei gorffennol.
Mae gan weithredoedd economaidd ganlyniadau economaidd. Bydd datgarboneiddio’n galw am ailffurfio’r system economaidd yn sylfaenol, ac yn yr un modd bydd yn cael effaith pellgyrhaeddol. Un dewis gwleidyddol fydd a yw’r canfyddiad o ddatgarboneiddio’n rhywbeth ynysig, ynteu a yw’n gysylltiedig â dyheadau polisi eraill. Datblygwyd y syniad o ‘drawsnewid cyfiawn’, fel mae Darryn Snell wedi dadlau, gan y mudiad llafur rhyngwladol i ‘atgoffa llywodraethau, amgylcheddwyr ac eraill am oblygiadau cymdeithasol diogelu amgylcheddol’. Mae’n cynnig fframwaith ar gyfer sefydlu agenda datgarboneiddio sy’n diogelu hawliau a chyfleoedd y rheini sy’n agored i niwed dan y drefn economaidd bresennol, neu a allai fod yn agored i niwed fel rhan o’r trawsnewid. Mae’r cysyniad wedi denu cefnogaeth sylweddol yn y DU. Roedd adroddiad y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd yn galw am drawsnewid cyfiawn fel rhan o’r broses o gyflawni net sero yn y DU, tra bod Llywodraeth yr Alban wedi sefydlu Comisiwn Trawsnewid Cyfiawn i’w helpu gyda datgarboneiddio.
Ond pam fod trawsnewid cyfiawn yn gysyniad defnyddiol ar gyfer gweithio yn yr agenda datgarboneiddio? Un rheswm yw er mwyn ystyried canlyniadau ‘trawsnewid anghyfiawn’ lle nad yw’r symudiadau yn sail economaidd ardal wedi cynnwys diogelu gweithwyr yr effeithiwyd arnynt. Mae cau meysydd glo de Cymru yn y 1980au’n enghraifft amlwg o’r costau cymdeithasol a all ddilyn. Mae adroddiad diweddar yn gosod y bai am hyn ar ymagwedd laissez-faire at ddatblygu economaidd a methiant busnesau a llywodraeth i flaenoriaethu adeiladu ‘economi ranbarthol fwy cynaliadwy a llwyddiannus i’r Cymoedd’. Arweiniodd hyn at wendidau economaidd strwythurol yn cynnwys cyflogaeth ansawdd isel a chyflogau is. Mae perygl y caiff y profiad hwn ei ailadrodd oni bai bod datgarboneiddio’n cael ei roi ar waith gydag ystyriaeth ddyladwy i’w effeithiau ar lefydd a phobl – yn enwedig yng Nghymru lle mae diwydiant yn cyfrif am bron un rhan o dair o allyriadau.
Y tu hwnt i liniaru niwed, gallai trawsnewid cyfiawn hefyd helpu i ymdrin ag anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes, fel dwysedd tlodi neu ddiffyg mynediad at gyfleoedd economaidd. Gallai hyn olygu symud i ffwrdd o fframwaith yn seiliedig ar y sector, sy’n ystyried datgarboneiddio yn nhermau rhannau o’r economi (fel cynhyrchu ynni), at fodel mwy cyfannol ac o bosibl yn seiliedig ar le. Byddai deall trawsnewid cyfiawn yn y modd hwn yn gweld datgarboneiddio fel cyfle i gael economi fwy cytbwys, yn hytrach na fel bygythiad i weithluoedd sy’n bodoli. Gallai cynhyrchu llai canolog, gan gynnwys cynhyrchu ynni, adfywio economïau lleol, er enghraifft. A gallai pwysleisio modelau cynhwysol o berchnogaeth a chyd-gynhyrchu roi mwy o lais i grwpiau sydd wedi’u hymylu yn y ffordd mae eu cymunedau’n datblygu. Byddai hyn yn ehangu’r trawsnewid i gyflawni blaenoriaethau polisi eraill, yn enwedig y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Gyda hyn yn ein meddwl, rydym ni’n gweithio i ystyried pa ymagweddau llywodraethu allai helpu i sicrhau bod y broses ddatgarboneiddio’n gyfiawn yn gymdeithasol ac yn ofodol yng Nghymru. Mewn blogiadau dilynol, byddwn yn trafod sut y gallai trawsnewid cyfiawn edrych, a sut y gallai fframwaith trawsnewid cyfiawn effeithio ar ein dealltwriaeth o lywodraethu.