Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad Ein Dyfodol Cymru ym mis Mai 2020 gyda’r amcan o nodi syniadau ac atebion ar gyfer ailadeiladu Cymru yn dilyn pandemig y Coronafeirws. Cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus fwy na 2,000 o ymatebion gan unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled y wlad a chasglodd ystod o farnau – o syniadau am fannau cyhoeddus a seilwaith digidol i fodelau economaidd y dyfodol. Cyflwynwyd ymatebion ym mis Mai-Gorffennaf 2020 a dadansoddwyd 685 gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym mis Awst-Medi 2020. Dosbarthwyd cyflwyniadau i mewn i gategorïau eang a oedd yn ffurfio strwythur yr adroddiad (Ffigur 1).
Un o’r themâu trosfwaol allweddol a ddatgelwyd ym mhob un o’r chwe chategori oedd yr angen i leihau anghydraddoldeb, gyda 222 o gyflwyniadau’n sôn am ffyrdd o fynd i’r afael â hyn. Dadleuodd y cyfranogwyr dros Gymru fwy cyfartal, lle roedd y bwlch rhwng y cefnog a’r difreintiedig yn llawer llai nag y mae ar hyn o bryd ar draws ystod o feysydd polisi gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a hyfforddiant, tlodi bwyd a thanwydd, a’r celfyddydau a diwylliant.
Awgrymodd ymatebwyr i ymgynghoriad Ein Dyfodol Cymru fod yr angen mwyaf dybryd am newid i wella anghydraddoldeb yn y maes tai (93 o gyflwyniadau). Nodwyd bod ystod eang o faterion gan gynnwys problemau ynghylch digartrefedd, cysgu allan, mynediad i loches frys, ansawdd tai, prisiau tai a pherchnogaeth ail gartrefi yn broblematig. Yn aml, mae cysylltiad annatod rhwng y materion hyn ac ystod o anghydraddoldebau cymdeithasol sy’n gymhleth ac wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Er enghraifft, nododd llawer fod darparu lloches i’r rheini a oedd yn ddigartref neu’n cysgu allan yn ystod y cyfnod clo yn ymyrraeth gadarnhaol, ond nododd un gymdeithas dai y byddai angen integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar raddfa ehangach o lawer ar gyfer datrysiad hirdymor i broblemau tai yng Nghymru er mwyn i breswylwyr gael cefnogaeth lawn yn eu llety. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem yn gyfannol, rhaid mynd i’r afael yn systematig â phroblemau amddifadedd a thlodi.
Yn wir, roedd cysylltu meysydd problematig ag anghydraddoldebau strwythurol ehangach yn llinyn cyffredin trwy gydol yr ymatebion. Er enghraifft, mynegwyd llawer o safbwyntiau (44 ymateb) ar ‘weithio gartref’ a oedd yn amrywio’n sylweddol o bobl yn teimlo’n rhydd i eraill a oedd wedi’i chael hi’n anodd, yn enwedig y rhai â chyfrifoldebau gofalu. Roeddent bellach yn gyfrifol am addysgu plant gartref yn ogystal â gofalu am ddibynyddion nad oeddent bellach yn derbyn cefnogaeth gan asiantaethau gofal a chanolfannau dydd. Dadleuodd un ymateb gan sefydliad sy’n eirioli dros hawliau plant fod hwn yn fater sy’n gysylltiedig â rhywedd, a bod y rhan fwyaf o waith gofal di-dâl yn cael ei wneud gan fenywod. Yn fwy eang, maen nhw’n dadlau fod argyfyngau iechyd o’r math hwn yn cael effaith sy’n gysylltiedig â rhywedd ar boblogaethau a ddangoswyd hefyd mewn adroddiadau cynyddol o drais yn erbyn menywod a merched, llai o fynediad at ofal iechyd rhywiol ac atgenhedlol, a materion iechyd meddwl. Byddai gweithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cynnwys mynd i’r afael â ffactorau allweddol sy’n sail i rai o’r materion hyn megis mynediad at ddarpariaeth gofal plant a gofal iechyd ar gyfer cyflyrau iechyd sy’n gysylltiedig â rhywedd mewn ardaloedd gwledig.
Yn yr un modd, mae’r pandemig wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau y mae pobl yn eu profi oherwydd eu treftadaeth ethnig neu ddiwylliannol. Daeth ymchwil a gynhaliwyd gan y grŵp cynghori arbenigol COVID-19 Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, dan gadeiryddiaeth yr Athro Ogbonna o Brifysgol Caerdydd, i’r casgliad fod y risg i ddynion du wedi bod deirgwaith yn uwch nag i ddynion gwyn a bron i ddwywaith a hanner yn uwch i ferched du o gymharu â merched gwyn. Yn yr un modd, erys gwahaniaethau o hyd ar gyfer dynion Bangladeshaidd, Pacistanaidd ac Indiaidd. Dadleuwyd bod y gwahaniaethau hyn yn gysylltiedig â diwylliant ehangach, sefydlog o anghydraddoldeb ac allgáu a oedd yn bodoli cyn COVID-19, ond hyd yn oed gan ganiatáu am ffactorau economaidd-gymdeithasol, erys dwywaith y risg i ddynion Du ac oddeutu unwaith a hanner y risg i fenywod du. Amlygodd ymatebion i’r ymgynghoriad Ein Dyfodol Cymru lawer o’r anghysondebau hyn. Er enghraifft, dadleuodd grŵp pwyso a oedd yn ymgyrchu dros gydraddoldeb hiliol, er mwyn cyflawni cymuned sy’n rhydd o hiliaeth, rhagfarn neu wahaniaethu, fod angen mynd i’r afael ag anghydraddoldebau strwythurol dwfn fel anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, hiliaeth mewn strategaethau cyflogaeth, anghydraddoldebau iechyd, a phroblemau tai. Dadleuodd ystod o sefydliadau eraill i gyd fod angen strategaeth strwythuredig wrth wraidd gwaith i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru i gynyddu amrywiaeth mewn meysydd o fywyd cyhoeddus fel gwleidyddiaeth, y celfyddydau a’r byd academaidd. Mae cymhlethdod y gwaith o fynd i’r afael â’r materion hyn er mwyn darparu mynediad a chyfle cyfartal heb ystyried treftadaeth ethnig neu ddiwylliannol yn anodd ac mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.
Nodwyd bod anghydraddoldeb digidol yn fater i’w wella yng Nghymru (31 ymateb). Er enghraifft, tynnodd rhai ymatebwyr sylw at fynediad anghyfartal i gysylltiadau band eang cyflym o ansawdd da yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Ers i fesurau cloi gael eu rhoi ar waith, mae pobl yn fwy dibynnol ar eu sgiliau digidol a chyflymder band eang i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, archebu siopa, yn ogystal â gweithio gartref. Clywsom fod yna elfen genedliadol i anghydraddoldeb digidol yng Nghymru, a allai ddieithrio poblogaethau hŷn a allai fod yn ei chael hi’n anodd cael mynediad i wasanaethau a chymunedau digidol. Yn wir, ar draws pob grŵp oedran, dangosodd ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2018 mai Cymru oedd â’r gyfran isaf o bobl â sgiliau digidol sylfaenol (66%) yn erbyn cyfartaledd y DU o 79%, a’r gyfran uchaf o bobl nad oes ganddynt unrhyw sgiliau digidol sylfaenol (19%). Mae hollbresenoldeb technoleg i alluogi bywyd bob dydd yn ystod y pandemig mewn perygl o ddieithrio aelodau o gymdeithas nad ydynt yn gallu cyfrannu yn y byd digidol a’r effaith gysylltiedig ar les meddyliol.
Mae’r ffordd y gellir mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn yn her sylweddol i Lywodraeth Cymru a’r gymdeithas ehangach. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn un ffordd y gallai Llywodraeth Cymru strwythuro ei hymateb i’r pandemig ond nid yw’r graddau y mae’r Ddeddf wedi gallu cael effaith barhaol yn glir hyd yma. Ym marn yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad, er eu bod yn cefnogi nodau’r Ddeddf, ar hyn o bryd nid yw’n cael ei gweithredu’n ddigon eang i sicrhau newid sylweddol. Yn gyffredinol, mae angen ymateb cynhwysfawr i fynd i’r afael â phroblemau anghydraddoldeb, ac mae’r dasg o greu Cymru fwy cyfartal yn un y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hi gyda gofal a sylw a thrwy weithio ar y cyd gyda’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf.