Digartrefedd Ieuenctid: Symud tuag at ei Atal

Cyhoeddwyd adroddiadau WCPP ar Atal Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc yn 2018. Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i roi gwybod am ein canfyddiadau allweddol ac i helpu i symud tuag at system ataliol yng Nghymru.

Ar y cyd â Rhoi Terfyn Ar Ddigartrefedd Ieuenctid Cymru/End Youth Homelessness Cymru (EYHC), galwon ni gyfarfod ynghyd ar 9 Mawrth i gynnig lle i ni ystyried y cynnydd yng Nghymru tuag at roi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid ac i glywed gan y rhai sy’n cyflwyno atebion arloesol mewn mannau eraill yn y byd.

Clywon ni gan amrywiaeth ardderchog o siaradwyr, gan gynnwys prif areithiau gan Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a gan Melanie Redman a Stephen Gaetz, arbenigwyr o Ganada a gyfrannodd i’n hadroddiad.

Mae’r negeseuon a glywon ni wedi dod yn rhai mwy brys o ystyried argyfwng Covid-19 sy’n datblygu. Er y gall y mesurau a wnaed yn ystod y cyfyngiadau symud guddio’r broblem dros dro, gallai effaith economaidd yr achosion olygu cynnydd mewn digartrefedd ieuenctid. Gallai’r gwersi isod grynhoi sut gallem sicrhau bod gan bob person ifanc gartref.

 

Mae angen ymateb gwahanol ar Bobl Ifanc

Nid ‘digartrefedd i rai iau’ yn unig yw digartrefedd ieuenctid. Mae gan bobl ifanc resymau gwahanol i oedolion dros fynd yn ddigartref ac anghenion gwahanol pan fyddant yn gwneud hynny, felly dylem ymateb yn unol â hynny.

Ystyr hyn yn rhannol yw ystyried y ffaith y bydd plant a phobl ifanc yn cael mynediad at wasanaethau ac yn cael profiad ohonynt mewn ffordd wahanol i oedolion: er enghraifft, gallent droi at staff ysgol am gymorth yn hytrach na gwasanaethau’r llywodraeth. A bydd teulu, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, fel arfer yn chwarae rôl i bobl ifanc mewn ffordd na fydden nhw, o bosibl, i oedolion (gwelodd adroddiad EYHC i brofiadau pobl ifanc LGBTQ+ o ddigartrefedd mai cael eu gwrthod gan eu teulu oedd achos eu hargyfwng yn aml).

Mae’r heriau hynny, a’r gwahaniaethau datblygiadol rhwng pobl ifanc ac oedolion, yn golygu y dylai fod gan Gymru strategaeth a dull penodol ar gyfer digartrefedd ieuenctid.

 

Mae data’n bwysig… ond hefyd yr hyn y byddwn yn ei wneud â nhw

Mae rhan o’r symud i atal digartrefedd ieuenctid yn ymwneud â’i adnabod yn gynnar. Ystyr hyn yw ceisio dod o hyd i’r bobl ifanc hynny a all fod mewn perygl o fynd yn ddigartref fel bod modd rhoi ymyriadau yn eu lle cyn iddyn nhw golli eu cartref.

Yng Nghymru, mae llawer o awdurdodau lleol wedi addasu’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid sy’n bodoli’n barod i brofi am berygl digartrefedd. Yn wreiddiol, bwriad y Fframwaith oedd dod o hyd i unigolion a oedd mewn perygl o fod yn NEET, ond mae ymarferwyr wrthi yn gweithio i newid eu dull er mwyn defnyddio’r dull hwn hefyd i adnabod y rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Yn ein digwyddiad clywsom am ddulliau adnabod cynnar sy’n cael eu targedu’n fwy. Mae Upstream Project, er enghraifft, yn defnyddio holiaduron wedi’u teilwra mewn ysgolion i sgrinio pob disgybl i asesu faint o berygl sydd iddo/iddi fod yn ddigartref. Mae’r model hwn, sy’n seiliedig ar brosiect arloesol yn Awstralia, yn gofyn am ragor o adnoddau, er bod canfyddiadau cynnar yn UDA ac Awstralia yn nodi ei fod yn llwyddo i adnabod pobl ifanc na fyddai dulliau eraill wedi’u codi fel arall. Bydd y rhaglenni peilot sydd yn yr arfaeth yng Nghymru yn ein helpu i weld a oes modd trosi hyn i’r system yng Nghymru.

Roedd pawb yn yr ystafell yn cytuno bod y data rydym yn eu casglu’n bwysig, ond mai’r peth pwysig yw sut rydym yn eu defnyddio. Mae modelau mewn ysgolion, fel Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, cystal â’r perthnasoedd sy’n codi rhwng addysgwyr ac ymarferwyr. Ac, ar ôl adnabod yn gynnar, dylid addasu’r ymyriadau nesaf yn ofalus i bobl ifanc. Gallai adnodd YAP fod yn un ffordd o asesu angen ar ôl y cam hwn, ond byddai angen ei addasu i’r cyd-destun Cymreig.

 

Mae angen Camau Gweithredu ar y Cyd i gael Newid

Roedd llawer yn yr ystafell yn teimlo bod angen i ni newid rhai agweddau ar y systemau cyfredol. Ond roedd pobl yn cydnabod y byddai newidiadau’n cymryd amser i’w gweithredu’n iawn, ac y byddai angen cydweithredu ac adnoddau ychwanegol i’w gwneud yn iawn.

Mae sefydlu perthnasoedd rhwng gwahanol gymunedau ymarfer, megis rhwng gweithwyr ieuenctid, swyddogion digartrefedd, ac addysgwyr, yn gofyn am amser i ddatblygu ymddiriedaeth rhwng y naill a’r llall; ond mae arwyddion gobeithiol (nid lleiaf o’r ymgysylltu yn y digwyddiad hwn!) fod hyn yn digwydd yng Nghymru.

Dylid gwerthuso projectau newydd yn iawn fel y gallwn weld a ydynt yn gweithio — a dylem gydnabod y bydd rhai dulliau’n fwy effeithiol nag eraill. Nododd Frances Beecher, Cadeirydd EYHC, fod angen treialu arferion newydd a’u ‘methu’n gyflym’ lle nad oeddent yn gweithio. Mae sefyllfa Cymru yn dda er mwyn arloesi, diolch i ymdrechion presennol i ymateb yn gydgysylltiedig, a’r Ddyletswydd i Gynorthwyo, sy’n gwneud i awdurdodau lleol fod yn gyfrifol am helpu’r rhai sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Er mwyn symud tuag at y cam nesaf bydd rhaid gwerthuso’n gyflym ganlyniadau’r detholiad o ddulliau arloesol sydd ar y gweill ac i’r cydweithredu sydd wedi’i ddatblygu hyd yma barhau.

 

Mae Diwygio Tai yn Allweddol

O’r amrywiaeth o syniadau a rannwyd yn y digwyddiad, roedd llawer yn canolbwyntio ar dai, er bod pobl yn derbyn mai rhan yn unig o’r ateb yw tai. Yn yr argyfwng tai presennol, bellach rhaid ystyried anghenion tai penodol pobl ifanc ar incwm isel a’r rhai sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd.

Yn y digwyddiad, rhannwyd dau ddull sy’n cael eu datblygu yng Nghymru, yn seiliedig ar arferion da rhyngwladol. Mae’r cyntaf, sy’n cael ei arwain gan Gymdeithas Tai Unedig Cymru, wedi’i ysbrydoli gan NAL, Cymdeithas Tai Ieuenctid y Ffindir, sy’n cynnig tai gwirioneddol fforddiadwy wedi’u dylunio gan ystyried anghenion pobl ifanc. Fforddiadwyedd yw’r her fwyaf yma.

Y dull tai allweddol arall a drafodwyd oedd Tai i Ieuenctid yn Gyntaf (HF4Y), amrywiad sy’n canolbwyntio ar ieuenctid o ddull Tai yn Gyntaf sy’n cynnig tai heb unrhyw ragamodau. Mae chwe pheilot HF4Y ar y gweill yng Nghymru ar hyn o bryd.

Gallai dysgu o’r ddau fodel hyn a’u hehangu’n briodol wneud gwahaniaeth enfawr i roi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru yn y pen draw.

 

Mae Newid y System wrth Wraidd Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd Ieuenctid

Clywodd cynrychiolwyr yn y digwyddiad yn uniongyrchol gan Angharad, Chloe a Charlie, tri pherson ifanc sydd wedi bod yn ddigartref yn y blynyddoedd diweddar, pob un ohonynt wedi byw yn y system gofal. Mae pobl ifanc yn aml yn mynd yn ddigartref, hyd yn oed os nad yw hyn yn digwydd yn syth, ar ôl gadael y system gofal, sy’n golygu y bydd gwrando ar leisiau’r rhai sydd wedi cael profiad o ofal yn sylfaenol er mwyn osgoi ‘methiannau system’ sy’n arwain at ddigartrefedd ieuenctid.

Bydd ymchwil sydd i ddod gan EYHC, sy’n ymwneud â lleisiau pobl ifanc o bob rhan o Gymru, yn ymdrin â’r mater hwn yn benodol. Bydd hyn, ynghyd â gwaith WCPP ar bobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal, yn cyfrannu i sylfaen dystiolaeth ar y system gofal yng Nghymru. Nid yw’r methiannau system hyn yn unigryw i Gymru, ond maent yn cynrychioli her y bydd rhaid ei goresgyn er mwyn i ni roi terfyn ar ddigartrefedd ieuenctid.