Nod pob Canolfan What Works yw cael effaith drwy ymgorffori tystiolaeth mewn polisïau a/neu arferion. Fodd bynnag, oherwydd bod gan bob Canolfan wahanol nodau, arferion, cynulleidfaoedd, modelau cyllido, lefelau staffio a maint, gall eu dealltwriaeth o effaith, a sut maen nhw’n mesur ac yn cyfleu eu heffaith, fod yn wahanol.
Mae ein hymchwil rhagarweiniol, sy’n seiliedig ar gyfweliadau â chanolfannau What Works a’u rhanddeiliaid, yn dangos bod dealltwriaeth amrywiol o effaith. Mae’r rhain yn cynnwys agweddau mor amrywiol â bod yn sefydliad credadwy yn y maes tystiolaeth-polisi-ymarfer, cynhyrchu a chrynhoi tystiolaeth gadarn a dibynadwy, meithrin perthnasoedd a rhwydweithiau gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a helpu pobl i weithredu’r dystiolaeth. Mae’r ystyron hyn o effaith yn fwy anffurfiol a chymhleth na dealltwriaeth achosol fel ‘fe ddywedon ni hyn ac mae llunwyr polisïau wedi’i roi ar waith’ (sy’n digwydd yn anaml iawn).
Y digwyddiad lansio
Fe wnaethom lansio’r prosiect yn yr Evidence Quarter yn Llundain ym mis Mehefin 2023 gyda 22 o gyfranogwyr o 10 Canolfan What Works. Helpodd y digwyddiad i ennyn diddordeb a momentwm mewn cysylltiad â’r prosiect, a rhoddodd gyfle i gyfranogwyr â rolau tebyg rwydweithio wyneb yn wyneb a dechrau trafod y tair prif agwedd ar effaith.
Cafodd tri math o weithgaredd eu cynnal gennym:
- Sesiwn rwydweithio lle bu’r cyfranogwyr yn trafod yr hyn yr oeddent am ei gael o’r prosiect a sut y gallent gyfrannu ato. Mae’r ffigur isod yn dangos bod cytundeb cyffredinol ynghylch prif nodau’r prosiect hwn.
- Roedd ail sesiwn yn edrych ar beth oedd ystyr effaith i wahanol gyfranogwyr, a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar hyn yn eu Canolfan What Works. Yma, roedd Canolfannau wedi dwyn â mwy nag un ystyr o effaith i’r golwg, o’r ddealltwriaeth achosol draddodiadol o effaith o ganlyniad i ddefnyddio cynhyrchion tystiolaeth, i’r broblem priodoli a’r anhawster profi effaith pan fydd sefydliad yn bodoli yn y gofod tystiolaeth-polisi-ymarfer.
Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn dangos bod paratoi’r tir ar gyfer effaith, fel datblygu tystiolaeth gadarn o ymyriadau perthnasol, yn arwyddocaol ond bod y gwaith meithrin gallu mae Canolfannau’n ei wneud wrth ddatblygu llythrennedd pwnc a thystiolaeth ymysg eu rhanddeiliaid drwy hyfforddiant yn bwysig hefyd. Cafodd yr effaith ei mesur drwy newidiadau mewn ymwybyddiaeth, ymddygiadau, systemau a pholisi, sy’n gallu helpu i ddylanwadu ar newid systemig.
Hefyd roedd Canolfannau What Works wedi pwysleisio’r nifer o heriau o ran sicrhau effaith fel y capasiti a’r sgiliau yn eu sefydliad eu hunain, yn ogystal â rhai eu rhanddeiliaid. Roedd cyfranogwyr wedi trafod manteisio ar gyfleoedd a’u gallu i ddeall y system ehangach, gan ganiatáu iddynt fod yn strategol a thargedu eu camau gweithredu.
- Roedd y drydedd sesiwn yn gyfle i Ganolfannau rannu eu profiadau o gynhyrchu effaith. Tynnodd y Ganolfan Heneiddio’n Well sylw at ei gwaith yn cyflawni ymrwymiad y llywodraeth i wella safonau hygyrchedd. Trafododd y Ganolfan Effaith Digartrefedd brosiect wedi’i gynhyrchu ar y cyd â chynghorau a oedd yn darparu fframwaith ystyrlon a mesuradwy ar gyfer lleihau digartrefedd. Esboniodd What Works Growth yr hyfforddiant y mae’n ei gynnal i lunwyr polisi lleol ar ddefnyddio tystiolaeth a modelau rhesymeg). Rhannodd What Works Crime Reduction ei fodel aeddfedrwydd lleihau troseddu sy’n asesu pa mor seiliedig ar dystiolaeth yw sefydliad.
Roedd rhannu’r straeon effaith hyn wedi arwain at drafodaethau ar gyfres o bynciau fel:
- Beth yw manteision (e.e. hygrededd a phŵer cynnull) ac anfanteision (e.e. canfyddiad o fod yn agos at y llywodraeth) o fod yn Ganolfan What Works
- Yr angen a’r awydd am Ganolfannau What Works – sydd â rhywfaint o debygrwydd o ran materion a nodau – i rannu arferion ac adnoddau ar draws y Rhwydwaith What Works, a chofnodi newid i ganiatáu i eraill ddilyn yr arfer hwnnw. Gofynnodd y cyfranogwyr a fyddai’n bosib casglu ynghyd yr holl weithgareddau sy’n ymwneud ag effaith fel damcaniaethau newid, cenhadaeth, gweledigaethau a straeon am effaith mewn un lle. Rydyn ni’n edrych ar wneud hyn nawr.
- Y cwestiwn ynghylch sut mae mesur effaith ac ar ba lefel (effaith strategol o’i chymharu ag effaith ymarferol)
- Allwn ni datblygu dealltwriaeth gyffredin o effaith?
Y camau nesaf
Rydyn ni’n cynllunio cyfres o ddigwyddiadau pellach i Ganolfannau ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy ddysgu a gweithdai rhannu ar themâu wedi’u targedu sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y digwyddiad cyntaf, a thrafodaethau dwyochrog. Mae ein digwyddiad nesaf yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar y pynciau canlynol:
- Beth mae’r llenyddiaeth yn ei ddweud am ddiffinio effaith a dulliau effaith a’i mesur?
- Sut mae Canolfannau’n cysyniadoli effaith a sut i’w chyflawni, a sut mae hynny’n cymharu â’r llenyddiaeth?
- Eitem ddewisol: Sut ydych chi’n ymgysylltu’n effeithiol â’r llywodraeth (genedlaethol a lleol) i gael yr effaith fwyaf?
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y prosiect yma. Os hoffech chi gysylltu â ni, cysylltwch ag Eleanor MacKillop (Eleanor.mackillop@wcpp.org.uk) neu James Downe (James.downe@wcpp.org.uk).