Mae’r argyfwng costau byw yn gwneud mynediad at wasanaethau lles yn y gymuned yn bwysicach fyth i nifer cynyddol o bobl. Mae’r gwasanaethau hyn – o gyngor, eiriolaeth a gwasanaethau cymorth i sefydliadau hamdden a diwylliannol – yn hollbwysig i gefnogi ein llesiant uniongyrchol a hirdymor. Fel yr amlygwyd yn ystod y pandemig, maen nhw’n achub bywydau mewn cyfnodau o argyfwng. Ers y pandemig, mae llawer o wasanaethau yn y gymuned wedi sefydlu ffyrdd ‘cyfunol’ o weithio, gan gyfuno darpariaeth ar-lein ac all-lein, sydd â goblygiadau sylweddol ac amrywiol o ran mynediad a chydraddoldeb; sut mae gwasanaethau’n gweithio ac i bwy. Caiff effeithiau gwahaniaethol digideiddio eu trafod yn eang: i rai (e.e. y rhai â symudedd corfforol cyfyngedig) gall hygyrchedd gwasanaethau gynyddu, ond i eraill (e.e. y rhai â mynediad cyfyngedig at ddata) gall hygyrchedd ostwng. Er bod y ddau yn ystyriaethau allweddol, mae’r darlun yn ddieithriad yn fwy cymhleth. Yn hytrach na bod yn ‘ddigidol’ neu beidio, mae gwasanaethau’n tueddu i fod yn ‘gyfunol’ – cyfuniad cymhleth o ddarpariaeth ar-lein ac all-lein, lle mae cwestiynau am fynediad yn ehangach o lawer na phwy all gerdded drwy’r drws – ffisegol neu rithwir.
Beth mae’r llenyddiaeth yn ei ddweud?
Dywed ymchwil wrthym fod mynediad at wasanaeth, grŵp, neu weithgaredd yn golygu nid yn unig gallu cerdded drwy’r drws, ond sut deimlad yw cerdded drwyddo, a sut mae’n teimlo unwaith rydyn ni i mewn. Mae rhoi sylw i’r dimensiynau mynediad ansoddol hyn, yn ogystal â rhai meintiol, yn hanfodol i ddeall a dileu’r rhwystrau at gyrchu gwasanaethau a wynebir gan wahanol unigolion a grwpiau mewn gwahanol gyd-destunau. Ceir llai o ymchwil i’r ffordd y mae’r ‘cyfuniad’ cynyddol o ddarpariaeth ar-lein ac all-lein yn dylanwadu ar y dimensiwn ansoddol hwn o ran mynediad: y profiad o wasanaeth, ydyn ni’n teimlo croeso neu’n ofnus, wedi’n grymuso neu’n ddi-rym, ein bod yn cael ein clywed neu ein hanwybyddu. Mae cael gwell dealltwriaeth o wahanol ddulliau o ‘gyfuno’ darpariaeth ar-lein ac all-lein, i bwy maen nhw’n gweithio neu i beth, a sut, yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer gwella mynediad at wasanaethau hanfodol wrth i’r argyfwng costau byw ddatblygu.
Mae ymchwil presennol ar ddylanwad digideiddio mewn gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol yn tueddu i ganolbwyntio ar effeithlonrwydd y gwasanaeth yn hytrach nag effeithiolrwydd neu brofiad, ac ar ddimensiynau meintiol mynediad (pwy, a faint, sy’n gallu cerdded drwy’r drws). Ond mae ymchwil sy’n dod i’r amlwg yn edrych ar sut mae darpariaeth ddigidol ac ar-lein, a’r ffyrdd maen nhw’n gweithio gydag a thrwy ddarpariaeth ffisegol ac all-lein, boed yn fwriadol neu’n ddamweiniol, yn dylanwadu nid yn unig ar effeithlonrwydd ond hefyd ar y profiad o wasanaethau gwahanol.
Mae cyfuniadau gofalus o gymorth digidol ac wyneb yn wyneb wedi bod yn bwerus wrth helpu pobl i ymgysylltu â gwasanaethau yn y byd ffisegol yn ogystal â’r byd digidol, lle’r oedd y naill neu’r llall wedi teimlo’n anhygyrch yn flaenorol. Mewn gwaith ieuenctid, mae ymgysylltu ar-lein wedi’i amlygu fel cam pwysig tuag at ryngweithio a ‘grymuso’ yn y byd all-lein. Mewn gwasanaethau ac ymyriadau iechyd meddwl, mae ‘cyfuno’ darpariaeth ar-lein ac all-lein wedi cynnig cyfleoedd ar gyfer gofal penodol i unigolion, neu ganfod problemau rhyng-gysylltiol (e.e. iechyd meddwl a dyled) a chydgysylltu llwybrau atgyfeirio neu gymorth priodol. Mae ymchwil mewn addysg yn dangos manteision amrywiol ‘cyfuno’, fel harneisio technoleg ddigidol i gynyddu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio wyneb yn wyneb; galluogi creu darpariaeth unigol i gyd-fynd ag anghenion neu amgylchiadau penodol; neu wella dealltwriaeth neu brofiad trwy ychwanegu at y byd ffisegol gyda gwybodaeth, delweddau neu ryngweithio digidol.
Beth mae ein hymchwil ni wedi’i ddarganfod?
Canfu ymchwil WCPP ar y defnydd o dechnoleg i ymdrin ag unigrwydd yn ystod y pandemig fod y ffordd y mae bydoedd digidol a ffisegol yn rhyngweithio yn sylfaenol ar gyfer mynediad a chynhwysiant mewn mannau digidol a ffisegol. I’r rhai sy’n ‘sownd’ all-lein, roedd gallu ymgysylltu â gwasanaethau mewn ffordd nad oedd ar wahân yn llwyr oddi wrth y byd ar-lein, er ei fod yn parhau i fod all-lein, (e.e. cynnwys gwefan wedi’i argraffu mewn taflen) yn allweddol i wella teimladau o gynhwysiant. Hefyd roedd yn chwalu rwystrau (anariannol) at fynediad drwy wneud i’r byd ar-lein deimlo’n fwy croesawgar a chyfarwydd. Yn yr un modd, i’r rhai oedd yn sownd ar-lein (y rhai nad oedd yn teimlo bod croeso iddynt yn y byd ffisegol), roedd sicrhau nad oedd y gwasanaeth digidol yn ddatgysylltiedig neu’n ‘symudol’, ond yn darparu cysylltiadau â phobl a lleoedd cyfarwydd, neu a allai ddod yn gyfarwydd mewn bywyd ‘go iawn’, yn hanfodol – defnyddio ymgysylltu digidol i gefnogi ymgysylltu corfforol.
Er bod ymdrin â dimensiynau ymarferol mynediad yn parhau’n bwysig (dyfeisiau, data, seilwaith, ac ati), mae mynediad hefyd yn ymwneud â natur ansoddol darpariaeth gwasanaeth – yn benodol, y ffordd y mae ymgysylltu â gwasanaeth yn teimlo. Mae cymryd golwg ehangach ar fynediad nid yn unig yn helpu darparwyr gwasanaethau i ddeall yr amrywiaeth o rwystrau at gyrchu gwasanaethau (y tu hwnt i allu cerdded drwy’r drws), mae hefyd yn amlygu ffyrdd newydd a gwahanol o wella mynediad. Er enghraifft, trwy ddatblygu cyfuniadau o ddarpariaeth ar-lein ac all-lein sy’n gwella cynwysoldeb gwasanaeth neu weithgaredd trwy roi sylw nid yn unig i p’un a all pobl ymgysylltu, ond hefyd i sut maen nhw’n teimlo pan fyddan nhw’n gwneud hynny.
Nod ein gwaith gyda rhanddeiliaid ar draws gwasanaethau yn y gymuned yw dangos y ffyrdd amrywiol ac arloesol y mae darpariaeth ddigidol a ffisegol yn cael eu ‘cyfuno’ a sut y gellir dylanwadu ar effeithiolrwydd a phrofiad gwasanaeth (yn ogystal ag effeithlonrwydd) o ganlyniad. Ein gobaith yw cynnig cyfle i fyfyrio ar y maes ymarfer hwn sy’n datblygu’n gyflym, a nodi’r gwersi allweddol sy’n ymwneud â’r hyn sy’n gweithio, i beth ac i bwy, o ystyried y goblygiadau pwysig ar gyfer hygyrchedd, cydraddoldeb a chynhwysiant yn y gwasanaethau a ddarperir.