Angen clywed lleisiau pawb sy’n brwydro yn erbyn tlodi

Rydym i gyd wedi clywed y penawdau, sy’n pwyso’n drwm arnom i gyd.

Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe yw’r cyntaf yng Nghymru. Mae bod yn rhan o’r prosiect hwn fel comisiynwyr cymunedol yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar y pŵer sy’n cael ei greu pan ddaw pobl at ei gilydd. Pobl sydd â phrofiad bywyd o’r frwydr yn erbyn tlodi a phobl sydd â mynediad at yr adnoddau sy’n gallu newid y sefyllfa.

Ar gyfer ein lansiad fe wnaethom benderfynu adrodd ein hanesion, ac o’r dechrau un roedd stigma’n thema gyffredin. Roedd rhai o’n profiadau’n fwy trawmatig nag eraill ond pob un wedi cael effaith barhaol o hunan-amheuaeth a theimlad o beidio â ffitio mewn. Ni hefyd, rhywsut, oedd i’n beio am na allem fforddio beth y cymerai bawb arall yn ganiataol. Os na allwch fforddio dŵr poeth i ymolchi neu olchi eich dillad, byddwch yn ogleuo’n wahanol i’ch cyd-ddisgyblion. Os nad oes arian gennych i wneud gweithgareddau ar ôl ysgol, nid yn unig na fyddwch yn dysgu’r sgiliau ychwanegol hynny ond byddwch hefyd yn mewnoli’r syniad nad ydyn nhw i bobl fel chi.

Roedd y thema’n parhau ar ôl tyfu’n oedolion a dod ar draws y system fudd-daliadau oedd fel petai wedi’i dylunio i godi cywilydd a gwrthod mynediad yn lle helpu a chefnogi. Roedd stigma tlodi bob amser yn rhan fawr o’n gwaith oherwydd roedd gan bawb brofiad o’r peth, naill ai drwy orfod symud nef a daear i fwydo eich plant neu ddim ond drwy fethu â bod yn rhan o’r hyn a ddisgrifir ar y cyfryngau fel ffordd normal o fyw.

Pan gawsom gyfle i fod yn rhan o’r digwyddiad ‘Sut all gwasanaethau cyhoeddus helpu i drechu stigma tlodi?’ yn Wrecsam, edrychai’n berffaith i ni. Roedd gofyn i ni gyd-gynhyrchu’r gweithdy gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) nid yn unig yn gyfle i ni ddefnyddio cryfderau’r gwaith creu perthynas a ddysgom o’n comisiwn gwirionedd tlodi, ond hefyd yn rhoi lens arall i ni edrych drwyddi.

Roedd y gweithdy wedi dod â phobl o bob cornel o Gymru, o gynghorau a’r trydydd sector a phobl ifanc o Wrecsam, o’n comisiwn yn Abertawe ac o Lywodraeth Cymru, ynghyd â lleisiau o’r ochr arall i’r ffin, at ei gilydd i gymryd rhan.

Roedd yn braf gwybod bod llawer o waith eisoes yn cael ei wneud ar y pwnc. Daethom i wybod am grwpiau fel APLE Collective a fu’n ‘herio stigma tlodi’ fel un o’u hamcanion craidd. Roedd yn dda gwybod hefyd fod Llywodraeth Cymru yn cymryd diddordeb byw yn y pwnc drwy WCPP. Fe roddodd y teimlad nad i ni yn Abertawe’n unig y mae’r ffocws hwn yn bwysig ond bod ganddo lais cryfach sy’n bwysig i bawb ar draws Cymru a thu hwnt.

Rydym yn falch o adrodd bod y diwrnod wedi mynd yn dda a bod yno awyrgylch o bobl a oedd yn awyddus iawn i ddod i wybod mwy a dysgu gwersi y gallent eu rhoi ar waith yn eu mudiadau neu waith ymgyrch. Roedd tystiolaeth o ddeall bod gwerth cynyddol i greu cysylltiadau a pherthnasoedd a gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r frwydr yn erbyn tlodi. Ac roedd y bwyd yn dda hefyd.

Roedd rhai o’r cwestiynau mawr y siaradwyd amdanynt nid yn gymaint am faint o arian oedd gan berson ond am effaith yr agweddau di-ildio mewn cymdeithas yn gyffredinol. Ers yn ifanc, mae’r gwahaniaeth yn cael ei bwysleisio wrth i’n plant gael eu stigmateiddio dim ond drwy dicio bocsys fel ‘prydau ysgol am ddim’. Mae hyn yn aml yn gosod nenfwd ar botensial plentyn, nid o safbwynt y plentyn ond oherwydd agweddau’r oedolion o’u cwmpas.

Mewn ffordd debyg, mae iechyd meddwl gwael gan oedolion yn cael ei waethygu nid yn unig gan y profiad o frwydro yn erbyn tlodi ond gan bwysau’r agweddau negyddol tuag at y sefyllfa y maen nhw’n canfod eu hunain ynddi – er enghraifft, mae’r cywilydd o hawlio budd-daliadau’n cael ei fewnoli a’r trawma o ganlyniad yn gost lawer waeth a thrymach i bawb.

Siaradodd bobl yn frwd yn y gweithdy gyda rhai negeseuon allweddol yn dod trwodd: Mae angen cyfryngau arnom sy’n aros a meddwl cyn barnu, a system fudd-daliadau sy’n ceisio deall sut y mae rhywun wedi canfod eu hunain mewn sefyllfa o fod angen help yn lle un sy’n cyfarch pob cais newydd gyda drwgdybiaeth. Mae angen i ni achub ar bob cyfle posib i chwalu’r rhwystrau i fynediad. Ac mae angen cynnwys lleisiau a phrofiad y bobl sy’n brwydro yn erbyn tlodi yn y polisïau a’r penderfyniadau a wneir am y broblem – a gwneud hyn gyda’n gilydd.

Tagiau