Cyflwynodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru y Cynllun Prentisiaeth Ymchwil yn 2017. Y nod oedd cynyddu capasiti ymchwilwyr i ymgysylltu gyda llunwyr polisïau a gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â heriau allweddol ar draws Cymru.
Bob blwyddyn, rydym ni’n cynnig cyfle i fyfyriwr graddedig rhagorol gael profiad ymarferol o ddarparu tystiolaeth ar gyfer llunio polisi. Mae’r cynllun yn denu dros 100 o geisiadau’n flynyddol gan ymgeiswyr rhagorol sy’n gwneud y broses o lunio rhestr fer a dethol yn anodd dros ben.
Wrth ystyried y rôl, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, rydym ni’n awgrymu y gallai’r arloesedd hon fod yn briodol i sefydliadau a chanolfannau ymchwil eraill.
Beth yw’r syniad?
Prifysgol Caerdydd sy’n cyllido’r cynllun, sy’n cynnig profiad i rywun ar ddechrau eu gyrfa ymchwil weithio ar draws yr ystod o’n gweithgareddau ni yma yn y Ganolfan. Mae prentisiaid yn cynnal adolygiadau tystiolaeth ar gyfer Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, yn cefnogi ein gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus, ac yn cynnal ymchwil academaidd ar ddefnydd o dystiolaeth a llunio polisi.
Yr ysgogiad a’r rhesymwaith y tu ôl i’r cynllun yw’r cyfleoedd cyfyngedig i raddedigion ddysgu hanfodion gwaith polisi a chynnig ‘troed ar yr ysgol’ iddyn nhw. Mae’r llwybrau safonol i mewn i’r proffesiwn yn cynnwys cynnal astudiaethau academaidd pellach (fel rhaglenni Meistr arbenigol), ymgeisio i ymuno â’r gwasanaeth sifil neu gynllun hyfforddi i raddedigion, ymgymryd ag interniaeth neu wirfoddoli.
Ond mae anfanteision yn perthyn i bob un o’r rhain. Mae Meistr mewn Polisi Cyhoeddus fel arfer yn golygu benthyciad myfyriwr arall, gan gynyddu dyled y myfyriwr (£36,000 ar gyfartaledd yn 2018), a allai fod yn ddigon i rai graddedigion beidio â mynd amdani. Mae’r gystadleuaeth ar gyfer rhaglen nodedig Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil yn ffyrnig gyda 32,450 o geisiadau ar gyfer 973 o benodiadau rai blynyddoedd yn ôl, ac mae llawer o’r swyddi hyn yn Llundain. O wynebu’r opsiynau hyn, mae rhai graddedigion yn teimlo mai’r unig opsiwn yw gwneud interniaethau anffurfiol, di-dâl neu â thâl isel er mwyn cael profiad gwaith – rhywbeth sydd y tu hwnt i allu llawer. Mae Cynllun Prentisiaeth Ymchwil y Ganolfan yn cynnig model amgen, gan dalu cyflog cystadleuol a gweithredu fel man cychwyn ar yrfa mewn polisi cyhoeddus neu’r byd academaidd.
Sut mae hyn wedi gweithio?
Mae’r cynllun wedi cynnig cyfleoedd i brentisiaid gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brosiectau. Mae rhai yn ymateb yn gymharol gyflym i anghenion tystiolaeth Gweinidogion Llywodraeth Cymru, tra bod eraill yn aseiniadau tymor hirach. Mae rheoli gwahanol fathau o brosiectau gyda therfynau amser sy’n cystadlu a newid blaenoriaethau wedi bod yn sgil allweddol mae’r holl brentisiaid wedi’i ddatblygu.
Mae’r gweithgareddau a gynhelir drwy’r flwyddyn wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg a’u teilwra i anghenion unigol y prentis. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig rhaglen bwrpasol, sy’n caniatáu datblygu organig. Bu hyn yn hanfodol i lwyddiant y cynllun er ei fod yn galw am adnoddau ac amser ychwanegol.
Mae prentisiaid wedi ysgrifennu blogiau a chyd-awduro adroddiadau ar bynciau’n cynnwys:
Yn ogystal, maen nhw wedi cyflwyno mewn cynadleddau academaidd a chyhoeddi papurau mewn cyfnodolion ansawdd uchel a adolygir gan gymheiriaid, gydag eraill ar waith.
Rydym ni’n pwysleisio datblygiad proffesiynol yn y Ganolfan ac mae ein prentisiaid yn gallu mynychu cyrsiau fel rhan o raglen Datblygu Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd – o gyrsiau gloywi sgiliau ymchwil a dysgu dulliau newydd, i gyrsiau mwy generig ar reoli amser a sgiliau ysgrifennu – ochr yn ochr â’r gyfres lawn o hyfforddiant prifysgol. Ceir mynediad hefyd at gyngor a chefnogaeth gyrfaoedd drwy’r Brifysgol.
Ceir cyfleoedd sylweddol i ddysgu’n ymarferol wrth weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr mwy profiadol yn y Ganolfan. Mae’r prentisiaid hefyd wedi ymgymryd â lleoliadau gwaith byr mewn sefydliadau polisi ymchwil eraill yn cynnwys Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad Llywodraethu.
Ydy’r cynllun wedi llwyddo?
Rydym ni wedi gweld bod y cynllun yn helpu prentisiaid i ddeall tirwedd polisi Cymru a chymhwyso’r sgiliau maen nhw’n eu dysgu (yn cynnwys cyrchu tystiolaeth a defnyddio dulliau ymchwil priodol) i amgylchedd ‘byw’, gan weithio mewn timau bach â ffocws. Dyma’r nodweddion allweddol fydd yn eu helpu yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Mae dau o’r prentisiaid bellach yn astudio am PhD ym Mhrifysgol Caerdydd ar bynciau â chyswllt agos iawn â gwaith y Ganolfan, sy’n arwydd o’r budd a gafodd y ddau drwy’r cynllun. Yn yr un modd, mae’r Ganolfan hithau wedi elwa’n sylweddol o gael prentisiaid. Maen nhw wedi sicrhau dealltwriaeth newydd mewn prosiectau sy’n bodoli, gan weithio fel aelodau brwd o’r tîm a chefnogi gweithrediad y Ganolfan mewn sawl ffordd. Mae ein prentisiaid bellach yn rhan hanfodol o staff y Ganolfan, gan ysgwyddo cyfrifodebau ychwanegol yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd tîm ac arwain ar gynllunio a chyflenwi digwyddiadau.
Mae’r prentisiaethau ymchwil wedi bywiogi’r Ganolfan, gan roi safbwyntiau ffres ac ymgymryd â gwaith cydweithredol gwerthfawr, yn ogystal â chynnig cyfleoedd sylweddol i raddedigion diweddar. Gallai sefydliadau eraill sy’n dymuno ehangu’r gronfa o weithwyr polisi proffesiynol ansawdd uchel edrych ar ein hesiampl ac ystyried sefydlu eu cynllun prentisiaethau ymchwil eu hunain.