Interniaethau PhD

Deadline 7 Gorffennaf 2023
Location Caerdydd

Dyma drydedd flwyddyn ein Cynllun Interniaethau PhD sy’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr PhD a ariennir gan ESRC ar lwybrau’r Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) gael treulio tri mis yn y Ganolfan i gymhwyso a datblygu eu sgiliau a’u technegau ymchwil i faterion byd go iawn sy’n hynod gyfoes.

Bydd yr interniaethau hyn yn cynnig cyfle rhagorol i fyfyrwyr PhD gael profiad ymarferol o wneud ymchwil mewn sefydliad sy’n gweithio ar y rhyngwyneb rhwng ymchwil a llunio polisïau. Byddwch yn gweithio wrth ochr staff sydd â PhD ac sy’n gweithio ar hyn o bryd gyda llunwyr polisïau ac ymarferwyr i roi tystiolaeth i wella’r gwaith o lunio polisïau a chanlyniadau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Crynhoir profiad myfyrwyr PhD blaenorol yma.

Bydd yr interniaeth yn cynyddu dealltwriaeth ymgeiswyr o’r gwaith o lunio polisïau yng Nghymru yn ogystal â gwella eu sgiliau ymchwil (e.e. chwilio am/adolygu llenyddiaeth, dylunio cynllun ymchwil). Hefyd bydd cyfle i chi ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau ymarferol (e.e. ysgrifennu adroddiadau, cyfathrebu, rheoli amser, gweithio mewn tîm, datblygu strategaethau effaith) a fydd yn allweddol i’ch gyrfa yn y dyfodol. Yn ogystal, bydd yr interniaeth yn galluogi’r ymgeisydd i estyn ei rwydwaith ymysg academyddion, llunwyr polisïau ac ymarferwyr yng Nghymru a thu hwnt.

Rydym wedi amlinellu dau fath i fyfyrwyr eu hystyried:

1) Interniaeth sy’n cefnogi ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru a/neu wasanaethau cyhoeddus. Byddwch yn gweithio mewn tîm o ymchwilwyr sy’n canolbwyntio ar bwnc a ddyluniwyd ar y cyd â’n Harianwyr. Rhoddir rhai enghreifftiau o brosiectau diweddar YMA yn yr adran ‘Ffocws yr Interniaeth’.

2) Interniaeth sy’n archwilio rôl tystiolaeth wrth lunio polisïau. Gallai hyn fod mewn maes polisi penodol yn eich PhD (e.e. mae interniaid blaenorol wedi astudio polisi cydraddoldeb a ffermio) neu’n fwy cyffredinol. Rhoddir rhai cwestiynau ymchwil posibl yma.

Fel arall, gall myfyrwyr gynnig pwnc o’u dewis eu hunain, gan gymhwyso eu diddordebau PhD a’u harbenigedd i faes polisi y mae WCPP wedi gwneud gwaith ynddo. Ar gyfer pynciau a gynigir gan fyfyrwyr, bydd eu cymhwysedd yn seiliedig ar eu cyfatebiaeth â diddordebau presennol WCPP. Felly cadwch hynny mewn cof wrth ddylunio’ch cynnig. Os ydych chi’n ystyried cynnig eich pwnc eich hun, cysylltwch â’r Athro James Downe James.Downe@wcpp.org.uk ar gam cynnar i drafod cwmpas a siâp unrhyw gynnig cyn i chi ei gyflwyno.

Manyleb y myfyriwr
Ar gyfer pob interniaeth, byddem yn disgwyl i’r myfyriwr fod â’r canlynol:
• Sgiliau ymchwil a dadansoddi cryf gan gynnwys profiad o wneud adolygiadau llenyddiaeth ac o ddulliau ansoddol (e.e. cyfweliadau lled-strwythuredig).
• Profiad o waith dadansoddol ym meysydd polisi cymdeithasol neu gyhoeddus.
• Diddordeb mewn ysgrifennu dogfennau cryno, wedi’u hysgrifennu’n dda e.e. blog-bostiau, crynodebau ymchwil ac ati, wedi’u hanelu at gynulleidfaoedd nad ydynt yn arbenigwyr.

CLICIWCH YMA am mwy o wybodaeth ac i ymgeisio

Ariennir Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Mae’n cydweithio ag arbenigwyr polisi blaenllaw i roi tystiolaeth a chyngor annibynnol o ansawdd uchel i weinidogion, y gwasanaeth sifil a gwasanaethau cyhoeddus sy’n eu helpu i wella penderfyniadau a chanlyniadau polisi. Mae’r Ganolfan hefyd yn ymgymryd ag ymchwil i ddatblygu dealltwriaeth o’r rôl y gall tystiolaeth ei chwarae wrth helpu i lunio polisïau a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn well.

Tags