Unigrwydd yng Nghymru

Project status Ar Waith

Mae unigrwydd yn cael effaith sylweddol ar iechyd a lles y cyhoedd, ac mae wedi bod yn fater o flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ers cyn pandemig y coronafeirws. Mae mynd i’r afael ag unigrwydd wedi dibynnu ar strategaethau a mentrau er mwyn cynyddu ansawdd cysylltiadau cymdeithasol unigolion. Mae cadw pellter cymdeithasol a gwarchod i arafu lledaeniad y coronafeirws ac amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed ar yr un pryd yn cynyddu’r risg o unigrwydd ac yn cyfyngu’n sylweddol ar weithgareddau llawer o ddulliau presennol o fynd i’r afael ag ef.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio i ddod â darparwyr gwasanaethau cyhoeddus lleol, o lywodraeth leol a’r trydydd sector, at ei gilydd gydag academyddion o ledled y DU, a’r tu hwnt iddi, i rannu gwybodaeth a phrofiad, trafod materion a heriau lleol, deall yr effaith, ac ystyried sut mae lliniaru ac atal unigrwydd. Cyn y pandemig, cynhyrchom gyfres o flogiau ar unigrwydd yng Nghymru a’r hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol ar gyfer grwpiau allweddol. Mewn ymateb i’r cyd-destun newydd, a grëwyd gan gyfyngiadau ar gyswllt cymdeithasol uniongyrchol, cynhyrchom nodyn briffio ar Unigrwydd dan gyfyngiadau symud, ynghyd â blog.  Gyda’i gilydd, nod y rhain yw dechrau sgwrs am rôl technoleg wrth helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd. Hefyd, cynhyrchom ddau bodlediad (dolenni isod) ag arbenigwyr yn trafod materion allweddol yn ymwneud â thechnoleg a rôl cyfathrebu da wrth fynd i’r afael ag unigrwydd yn ystod y cyfyngiadau symud.

Gan adeiladu ar y gwaith cychwynnol hwn, rydym wedi cynhyrchu adroddiad, ‘Dylunio gwasanaethau wedi’u galluogi gan dechnoleg i fynd i’r afael ag unigrwydd‘, sy’n amlinellu egwyddorion dylunio allweddol er mwyn i wasanaethau wedi’u galluogi gan dechnoleg fynd i’r afael ag unigrwydd. Mae heriau’n gysylltiedig â defnyddio technoleg i fynd i’r afael ag unigrwydd, gan gynnwys allgáu digidol, sy’n effeithio’n anghymesur ar grwpiau sy’n agored i unigrwydd, fel pobl oedrannus, y rhai ar incwm isel, a rhai grwpiau sy’n byw â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol. Fodd bynnag, daw ein hadroddiad i’r casgliad ei bod yn bwysig, lle gellir defnyddio technoleg fel rhan o gymysgedd o ddarpariaeth gwasanaethau, ystyried yr hyn y mae’r dechnoleg honno’n galluogi i bobl ei wneud o ran darparu cyfleoedd ar gyfer cysylltiad ystyrlon a sut y mae wedi’i gynllunio gyda phobl ac ar eu cyfer mewn amgylchiadau gwahanol.

Mae agweddau eraill ar ein rhaglen waith yn y maes hwn yn cynnwys prosiect sy’n archwilio rôl cymunedau wrth fynd i’r afael ag unigrwydd. Rydym yn siarad â grwpiau cymunedol ar draws Cymru am eu profiad yn ystod pandemig y Coronafeirws er mwyn deall gweithgareddau eu grwpiau, y rôl y mae technoleg wedi’i chwarae wrth gydlynu a chefnogi eu gweithgareddau, a sut y gellir gwella a chynnal arferion da. Rydym wedi llunio adroddiad sy’n manylu ar ganfyddiadau’r ymchwil hon: Rôl cymunedau a’r defnydd o dechnoleg wrth liniaru unigrwydd yn ystod pandemig y Coronafeirws. Gellir gweld crynodeb o ganfyddiadau ac argymhellion allweddol yma. Cefnogir yr ymchwil hon gan ddadansoddiad data sydd ar y gweill o’r berthynas rhwng seilwaith cymunedol ac unigrwydd.