Mae hwyluso pŵer caffael yn faes diddordeb sy’n tyfu. Mae sector cyhoeddus Cymru’n gwario tua £6 biliwn y flwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith, ond tybir yn eang fod lle i wasanaethau cyhoeddus gael gwerth ychwanegol o’r gwariant hwn drwy ddulliau caffael strategol. Mae arbenigwyr ar draws nifer o’n haseiniadau wedi galw ar Weinidogion Llywodraeth Cymru yn rheolaidd i edrych ar sut gellir gyrru effeithiolrwydd, effeithlonrwydd, cynwysoldeb neu gydraddoldeb. Mae symud tuag at ddulliau caffael newydd yn gofyn am ymdrech ymwybodol i aildrefnu blaenoriaethau cynhenid mewn trefniadau caffael presennol; perthynas wahanol iawn rhwng gwasanaethau cyhoeddus a thrydydd partïon; a derbyn gwahanol fath o risg.
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ceisio ennyn diddordeb uwch weithredwyr gwasanaethau cyhoeddus, byrddau ac arweinwyr gwleidyddol. Rydym yn gwneud hwn drwy roi tystiolaeth ac arbenigedd i’w cynorthwyo i wneud y defnydd gorau o werth cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd dulliau caffael ar draws y sector cyhoeddus, er mwyn rhoi’r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.
Diben ein prosiectau yw ategu (mewn modd adeiladol) gwaith diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar draws Llywodraeth Cymru a phartneriaid, megis Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Cynnal Cymru. Rydym wedi cyhoeddi papurau ar stiwardiaeth gwasanaethau cyhoeddus a chaffael cyhoeddus cynaliadwy; yn ogystal â gwaith sy’n edrych ar arloesedd mewn caffael a darpariaeth gwasanaethau nid-ar-elw. Rydym yn cynnig sylwebaethau ar ffyrdd newydd o feddwl ac yn cynnig digwyddiadau i ddod â swyddogion, gweithredwyr, arweinwyr gwleidyddol ac arbenigwyr at ei gilydd.