Er y gall Cymru hawlio rhai llwyddiannau economaidd yn y gorffennol diweddar, nid yw manteision hyn wedi cael eu dosbarthu’n gyfartal, ac mae gan lunwyr polisi fwy o ddiddordeb mewn ffyrdd o sicrhau ‘twf cynhwysol’.
Gwnaethom ddod ag arbenigwyr ynghyd i drafod sut y gallai Cymru fwrw ymlaen â model mwy cynhwysol. Mae cynllun Llywodraeth Cymru ar weithredu ar yr economi, a gyhoeddwyd yn 2017, yn sicrhau bod twf cynhwysol wrth wraidd ei gweledigaeth, ac aethpwyd i’r afael â sawl maes gweithredu allweddol y tynnwyd sylw atynt yn ystod y digwyddiad hwn fel mater o flaenoriaeth.