Stigma tlodi

Project status Ar Waith

Dangosodd ein gwaith ymchwil blaenorol i brofiad byw pobl o dlodi ac allgau cymdeithasol yng Nghymru ba mor bwysig yw datrys stigma tlodi – oherwydd bod stigma tlodi’n gwneud niwed i iechyd meddwl pobl mewn tlodi a hefyd oherwydd ei bod yn anoddach iddynt gael y cymorth sydd ei angen arnynt i gymryd rhan yn eu cymunedau.

Mewn ymateb ac fel rhan o’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO), rydym yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a gwneuthurwyr polisi yng Nghymru i ddeall stigma tlodi a’i effaith ar eu cymunedau. Amcan ein gwaith yw gweld beth all cyrff cyhoeddus ei wneud i sicrhau bod eu gwasanaethau’n lleihau’n hytrach na chadarnhau stigma tlodi. Gweithiwn gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr, academyddion, ymchwilwyr ac arbenigwyr drwy brofiad, i roi’r ystod lawn o arbenigedd ar waith i geisio ateb yr her hon.

Yn Nhachwedd 2023 cynhaliwyd gweithdy wyneb yn wyneb yn Tŷ Pawb Wrecsam gan ddod â chymysgedd eang o wneuthurwyr polisi llywodraeth leol a chenedlaethol, ymarferwyr, pobl ifanc, academyddion ac arbenigwyr profiad byw at ei gilydd o bob rhan o Gymru a rhannau eraill o’r DU. Yn dilyn y gweithdy wyneb yn wyneb, cynhaliwyd ail weithdy ar-lein ar ddechrau Rhagfyr 2023, gyda chymysgedd o’r rhai a ddaeth i’r gweithdy cyntaf yn Wrecsam a rhai na allodd fynychu mewn person. Prif nod y gweithdai oedd gweld beth allai’r WCPP neu eraill ei wneud nesaf i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ddefnyddio’r dystiolaeth orau ar gael i geisio datrys stigma tlodi’n fwy effeithiol. Yn dilyn y gweithdai hyn, aethom ati i adolygu’r syniadau a ddaeth ohonynt, mewn cydweithrediad â Chomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe a’r APLE Collective.

Rydyn ni wedi cyhoeddi cyfres o flogiau gan rhai o gyfranogwyr y gweithdy ac rydyn ni’n aros am ganlyniadau arolwg YouGov sy wedi cael ei chomisiynu ynglŷn â’r Bevan Foundation.

Gan adeiladu ar y syniadau a ddaeth allan o’r gweithdai, byddwn yn symud ymlaen ar ddwy ffrwd waith yn ail gam y prosiect hwn. Y gyntaf yw prosiect ar sail lle i ddatblygu atebion drwy dystiolaeth leol o ddatrys stigma tlodi, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe. Bydd hyn yn golygu dod â gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr gwasanaethau cyhoeddus, a’r trydydd sector, at ei gilydd ag academyddion, grwpiau cymunedol a phobl gyda phrofiad byw o dlodi.

Rydym hefyd wedi sefydlu Rhwydwaith Tystiolaeth a Deall Stigma Tlodi er mwyn parhau i ddod â phobl at ei gilydd o bob rhan o Gymru a rhannau eraill o’r DU sydd â diddordeb ac arbenigedd mewn defnyddio tystiolaeth a dealltwriaeth i fynd i’r afael â stigma tlodi.

I ddysgu mwy am ein gwaith presennol yn cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â stigma tlodi, neu os ydych yn wneuthurwr polisi neu’n ymarferydd gyda darn neilltuol o waith mewn golwg a fyddai’n ddefnyddiol, cysylltwch â charlotte.morgan@wcpp.org.uk

Darllenwch erthygl Amanda Hill-Dixon ar y mater hwn yn The MJ: Cutting Through The Stigma