Sesiynau briffio i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar lesiant

Project status Ar Waith

O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n rhaid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wneud asesiadau o lesiant bob pum mlynedd yn unol ag etholiadau awdurdodau lleol. Dylai’r Byrddau asesu’r sefyllfa o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ardaloedd eu hawdurdod lleol a phennu amcanion i’w gwella. Gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru helpu’r Byrddau drwy gynnal cyfres o sesiynau briffio sy’n rhoi sylw i’r pynciau a’r tueddiadau craidd ledled Cymru, a all gael eu defnyddio i ategu’r broses asesu llesiant.

Gofynnwyd i ni baratoi tair sesiwn friffio sy’n rhoi sylw i’r pynciau canlynol:

  1. Cydraddoldeb: Yn ymdrin â’r effaith wahaniaethol ar bobl sy’n perthyn i grwpiau penodol, gan gynnwys y rhai yr ystyrir eu bod yn agored i niwed neu dan anfantais, y rhai y mae un neu fwy o’u nodweddion wedi’u gwarchod, plant dan 18 oed, pobl ifanc sy’n derbyn gofal, pobl y mae angen gofal arnynt a phobl sy’n ofalwyr
  2. Llesiant diwylliannol: Meta-adolygiad o’r dystiolaeth yn y maes hwn sy’n rhoi diffiniad clir o lesiant diwylliannol, yn meithrin dealltwriaeth o’r hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddweud am effaith gweithgareddau gwahanol ar lesiant cymunedol (a ph’un a oes canlyniadau gwahaniaethol ar gyfer grwpiau gwahanol) ac yn ystyried pa gamau penodol a allai gefnogi’r maes hwn
  3. Effaith COVID-19 a Brexit ar lesiant: Yn ymdrin ag effeithiau hysbys y digwyddiadau hyn ar y pedwar math o lesiant (gan gynnwys effaith y siociau economaidd) a sut mae’r effaith yn amrywio yn ôl grŵp, sector economaidd a daearyddiaeth, yn ogystal ag ystyried sut y gallai polisïau sy’n ymwneud â’r cyfnod pontio o’r UE ac adfer ar ôl y pandemig wella llesiant

Bydd y sesiynau briffio’n helpu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i asesu llesiant a phennu amcanion i’w wella.