Sero Net 2035

Project status Ar Waith

Y dyddiad targed presennol ar gyfer bodloni sero net yw 2050. Ymrwymodd Cytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i ‘gomisiynu cyngor annibynnol i archwilio llwybrau posibl i sero net erbyn 2035’. Mewn ymateb i hyn mae Grŵp Her Sero Net Cymru 2035 wedi’i ffurfio, dan gadeiryddiaeth y cyn-weinidog Jane Davidson. Mae gwaith y Grŵp i fod i redeg tan haf 2024. Bydd y grŵp yn edrych ar yr effaith ar gymdeithas a’r economi, gan ystyried dosbarthiad y costau a’r buddion a sut y gellid lliniaru unrhyw effeithiau andwyol.
Mae WCPP wedi cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwaith y Grŵp drwy ddarparu tystiolaeth ar draws ei bum maes her:

  1. Sut gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035?
  2. Sut y gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 a chael gwared ar danwydd ffosil yn raddol?
  3. Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi a gweithleoedd erbyn 2035?
  4. Sut y gellid cysylltu pobl a lleoedd ledled Cymru erbyn 2035?
  5. Sut gallai addysg, swyddi a gwaith edrych ledled Cymru erbyn 2035?