Gweithdai cynllun llesiant ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Project status Ar Waith

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) gynhyrchu cynlluniau llesiant lleol bob pum mlynedd, ar sail asesiad o anghenion llesiant yn eu hardaloedd lleol, gan nodi amcanion llesiant a chamau arfaethedig i’w cyflawni.

Yn dilyn ein gwaith blaenorol yn 2021 yn darparu sesiynau briffio i BGCau i’w cynorthwyo gyda’u hasesiadau llesiant, yn 2022 gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru arwain cyfres o weithdai ar gyfer BGCau am ‘beth sy’n gweithio’ mewn meysydd llesiant penodol, gyda’r nod o ddefnyddio’r dystiolaeth hon wrth greu eu cynlluniau llesiant.

 

Cyflwynwyd gweithdai gennym ynglŷn â’r pynciau canlynol:

Nododd asesiadau llesiant BGC dlodi aml-ddimensiwn fel rhwystr allweddol i lesiant sy’n wynebu llawer o bobl a chymunedau yn eu hardaloedd. Roedd ein gweithdy yn ymdrin â thystiolaeth am strategaethau tlodi effeithiol, ymyriadau ar sail ardal i gefnogi pobl sydd mewn perygl o dlodi a gweithgareddau i gefnogi rhagolygon economaidd hirdymor. Yn ogystal cyflwynwyd gweithdy atodol gennym a oedd yn edrych ar sut y gall dangosfyrddau ac offer data byw helpu BGCau i nodi a chynorthwyo’r rhai sydd mewn tlodi ac mewn perygl o dlodi.

 

Amlygodd pandemig COVID-19 bwysigrwydd cymunedau ar gyfer gwella llesiant cymdeithasol, a darparodd lawer o enghreifftiau o arfer da o weithio mewn partneriaeth arloesol ar draws gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol i gynorthwyo cymunedau. Roedd ein gweithdy’n rhoi tystiolaeth o nifer o brosiectau CPCC yn ystod y pandemig am yr hyn y gall gwasanaethau cyhoeddus ei wneud i alluogi gweithredu cymunedol effeithiol a gwella llesiant cymunedol.

 

Bydd CPCC yn adeiladu ar y gwaith hwn, a gwaith blaenorol ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, trwy gynnig cymorth parhaus a gwell i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus eraill dros y pum mlynedd nesaf.