Gwasanaethau Cyfunol

Project status Ar Waith

Drwy gydol pandemig Covid-19, mae sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n cefnogi llesiant cymunedol wedi dibynnu ar gyfuniad o ddulliau o bell ac wyneb yn wyneb ar gyfer darparu gwasanaethau ac ymgysylltu â’r bobl maent yn eu cynorthwyo.  Er y gall y drafodaeth am hyn ganolbwyntio weithiau ar gryfderau a gwendidau darpariaeth ddigidol ‘yn erbyn’ darpariaeth wyneb yn wyneb mewn ffordd ddeuaidd, yn y drafodaeth ehangach ynghylch adfer a thrawsnewid yn sgil y pandemig ceir sylw cynyddol i ddulliau ‘hybrid’ neu ‘gyfunol’: y ffyrdd y gallai darpariaeth ddigidol ac wyneb yn wyneb ryngweithio; a goblygiadau hyn i wasanaethau sector cyhoeddus a thrydydd sector a’r bobl a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

Wrth i ni symud heibio i’r cyfnod o ymateb brys i’r pandemig, mae sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector sy’n cefnogi llesiant cymunedol yn wynebu gorfod penderfynu pa rôl y gallai ac y dylai darpariaeth ddigidol barhau i’w chwarae yn eu gwaith, a sut y dylai hyn ryngweithio gyda darpariaeth wyneb yn wyneb. Mae gan gwestiynau o’r fath oblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a chynhwysiant – oherwydd mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu y gall y ffyrdd y caiff darpariaeth ar-lein ac all-lein eu ‘cyfuno’ bennu sut mae gwasanaethau’n gweithio ac i bwy. Felly mae’n hanfodol deall yn well y gwahanol ffyrdd y mae darpariaeth ar-lein ac all-lein wedi cael eu ‘cyfuno’ mewn gwasanaethau lles cymunedol, a’r cyfleoedd, buddion a risgiau cysylltiedig.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, nod y prosiect hwn yw archwilio’r dystiolaeth amrywiol o ymarfer sydd wedi datblygu yn ystod y pandemig.  Mae ein sgyrsiau ag arbenigwyr polisi ac ymarfer sydd ag ystod o wahanol arbenigeddau a safbwyntiau wedi amlygu ehangder y dystiolaeth hon, a’r angen i’w chasglu a’i dadansoddi i ddeall yn well ‘beth sy’n gweithio’ mewn darpariaeth gwasanaeth gyfunol, i bwy, i beth, ac ym mha ffyrdd. Mae’r prosiect felly’n ceisio sefydlu arferion addawol wrth gyfuno darpariaeth ar-lein ac all-lein mewn gwasanaethau llesiant cymunedol trwy fynd i’r afael â’r cwestiynau canlynol:

  • Beth yw’r manteision a’r heriau y mae darparwyr gwasanaeth yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau “cyfunol” wyneb yn wyneb a digidol?
  • Pa ddulliau gwahanol o “gyfuno” darparu gwasanaethau digidol ac wyneb yn wyneb y gellir eu nodi ar draws ymchwil ac ymarfer?
  • Beth yw amcanion darparwyr gwasanaethau wrth “gyfuno” gwasanaethau digidol ac wyneb yn wyneb?
  • Pa ddulliau sy’n dangos addewid wrth gyflawni’r amcanion hyn?