Mae ‘democratiaeth’ yn cael ei hystyried yn system lywodraeth ddelfrydol am ei bod yn rhoi grym a dilysrwydd i weithredwyr a sefydliadau gwleidyddol, ac i’r graddau y maen nhw’n cynrychioli ‘ewyllys y bobl’ yn unig. I’r rhai sy’n ceisio llywodraethu, rhaid iddyn nhw allu dangos bod ganddyn nhw gefnogaeth y rhai sy’n mynd i fod yn cael eu llywodraethu. Ond mae sut yn union mae ‘ewyllys y bobl’ yn cael ei fesur drwy systemau trafod a dethol wedi bod yn bwnc llosg i ddemocratiaethau ledled y byd. Mae pryderon yn cael eu codi dro ar ôl tro am ‘iechyd democratiaeth’ – a yw systemau dethol (drwy brosesau etholiadol yn bennaf – ond nid drwy’r dulliau hyn yn unig) wir yn cynrychioli ewyllys poblogaidd, ac, os nad ydyn nhw, sut y gellir gwella’r prosesau hyn?
Yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r ddadl ynghylch iechyd democratiaeth wedi canolbwyntio ar y niferoedd isel sydd wedi pleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol. Mae nifer isel o bleidleiswyr yn cael ei ystyried yn ddangosydd democratiaeth sy’n wan ei hiechyd gan nad yw’r system etholiadol o reidrwydd yn adlewyrchu ewyllys y bobol, a gallai roi llai o hygrededd i lywodraethau. Ystyrir nifer isel o bleidleiswyr yn rhywbeth sydd gyfystyr â lefelau isel o ymgysylltu â gwleidyddiaeth.
Fodd bynnag, mae iechyd democratiaeth yn fater sy’n llawer ehangach na hyn. Ydy dinasyddion yn ymgysylltu â materion gwleidyddol? Oes ganddyn nhw’r ffynonellau o ran addysg a gwybodaeth i’w galluogi i greu barn ar faterion gwleidyddol pwysig sy’n effeithio ar eu bywydau? Ydy eu hawliau i drefniadaeth a mynegiant gwleidyddol yn cael eu diogelu? Ac a yw pob dinesydd yn gallu cymryd rhan mewn prosesau democrataidd mewn modd cyfartal, waeth beth yw eu cefndir?
Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) edrych ar beth fyddai’r ffyrdd gorau o ddiffinio, mesur a monitro iechyd democratiaeth Cymru. Bydd y gwaith hwn yn helpu i ganolbwyntio ymdrechion ar annog rhagor o bobl i chwarae rhan lawn mewn prosesau democrataidd cenedlaethol a lleol yng Nghymru, yn enwedig ymhlith grwpiau a dangynrychiolir.
Bydd yn canolbwyntio ar y tri chwestiwn ymchwil canlynol:
- Beth fyddai nodweddion democratiaeth iach yng Nghymru?
- Beth yw’r ffordd orau o gasglu data a’i adrodd i fesur iechyd democratiaeth yng Nghymru?
- Beth yw’r ffordd orau o fonitro iechyd democratiaeth Cymru?
Ar hyn o bryd mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd gan Gomisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, i helpu i ‘gryfhau democratiaeth Cymru’. Bu sawl prosiect ymchwil diweddar yn y maes hwn, gan gynnwys ymchwil WCPP sy’n archwilio sut mae newidiadau mewn gweinyddiaeth etholiadol yn rhyngwladol wedi effeithio ar y niferoedd sy’n pleidleisio, ac ymchwil ar brofiadau pobl ifanc sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio yng Nghymru.
Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth gynyddol hon i ddeall pa wersi y gellir eu dysgu gan wledydd eraill ynghylch diffinio, mesur, a monitro iechyd democratiaeth yng Nghymru. Bydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i fod mewn gwell sefyllfa i fesur hyder mewn democratiaeth a sefydliadau democrataidd, patrymau demograffig, a’r hyn sy’n annog pobl i ymgysylltu a chymryd rhan.