Mae bwriad i sefydlu Comisiwn Addysg ac Ymchwil Drydyddol Cymru a rhoi Bil Addysg ac Ymchwil Drydyddol gerbron y Senedd yn rhan o’r ffordd newydd o lywodraethu a threfnu addysg uwch ac addysg bellach yn y wlad hon.
I’r perwyl hwnnw, gofynnwyd inni adolygu materion dysgu gydol oes i helpu’r comisiwn newydd i gyflawni ei orchwyl yn y maes hwnnw. Byddwn ni’n adolygu arferion gorau dysgu gydol oes, cadw’r ddysgl yn wastad rhwng addysg gynhwysfawr a chyffredinol a chymorth i’r rhai mwyaf anghenus a rôl y llywodraeth a’r comisiwn ynghylch trin a thrafod y drefn newydd. Yn benodol, rydyn ni am ateb y cwestiynau canlynol:
- Sut y dylid deall a diffinio ‘dysgu gydol oes’, a beth yw’r hawliau priodol?
- Pa garfanau fyddai’n elwa fwyaf ar ddarpariaeth dysgu gydol oes a beth sy’n ein rhwystro rhag eu cyrraedd? Sut mae cadw’r ddysgl yn wastad rhwng hawl neu gynnig cyffredinol a chymorth penodol i garfanau a fyddai’n elwa fwyaf?
- Sut y gall trefn dysgu gydol oes gydbwyso amcanion economaidd a chymdeithasol gwahanol orau?
- Beth yw rôl y llywodraeth o ran pennu agenda a hyrwyddo arferion da? Sut mae helpu sefydliadau a budd-ddalwyr orau i ehangu’r ddarpariaeth?
- Sut mae cynnig Cymru yn cydblethu â rhannau eraill o’r deyrnas, gan gynnwys y rhaglen ddiwygio barhaus yn Lloegr?
Yn ogystal ag adolygu tystiolaeth, cynhalion ni seminar ar y we i holi arbenigwyr am y gwaith hwn a rôl y llywodraeth ynghylch hyrwyddo trefn dysgu gydol oes.
Rydyn ni’n canolbwyntio ar faterion strategol gan gynnwys sut y gallai dysgu gydol oes helpu i gyflawni amcanion polisïau eraill megis y rhai ar gyfer medrau a llesiant. Bydd ein gwaith o ddiddordeb i lunwyr polisïau sy’n ymwneud â sefydlu’r comisiwn a’r rhai sy’n ceisio deall sut mae hybu a chynnal dysgu gydol oes.