Rôl cydweithio amlsectoraidd wrth gefnogi gweithredu cymunedol

Project status Ar Waith

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar (RCP) yn gweithio gyda’i gilydd ar brosiect ymchwil gyda’r nod o ddeall rôl cydweithredu amlsectoraidd yn well wrth gefnogi gweithredu cymunedol sy’n gwella llesiant.

Mae’r prosiect yn cynnwys dau gam:

1) Adolygiad o’r dystiolaeth a gyhoeddwyd ers dechrau pandemig Covid-19 ynglŷn â rôl ac effaith cydweithredu amlsectoraidd ar weithredu cymunedol sy’n dod o’r canlynol:

  • astudiaethau achos yn seiliedig ar ymarfer ledled Cymru;
  • llenyddiaeth academaidd yn y Deyrnas Unedig; a
  • llenyddiaeth lwyd (e.e. adroddiadau a blogiau sy’n seiliedig ar ymarfer)

Ynghyd â’r adolygiad o dystiolaeth hwn ceir crynodeb o’r radd flaenaf o lenyddiaeth cyn y pandemig ar gydweithio ym maes gweithredu cymunedol, sy’n cael ei gynnal gan y Ganolfan Ymchwil Hyrwyddo Iechyd ym Mhrifysgol Leeds Beckett.

2) Gweithdy i ymgysylltu â chanfyddiadau allweddol o’r adolygiad o dystiolaeth ac i archwilio’r hyn y gallent ei olygu mewn gwahanol gyd-destunau ledled Cymru.

Mae gwybodaeth helaeth am sut mae cydweithio effeithiol yn y sector cyhoeddus yn edrych ar draws yr astudiaethau achos sy’n seiliedig ar ymarfer, y llenyddiaeth academaidd a’r llenyddiaeth lwyd. Mae hyn yn cynnwys nodweddion cydweithio effeithiol rhwng y sector cyhoeddus a chymunedau (e.e. ymddiriedaeth, parch, perchnogaeth, cydfuddiant, nodau a rennir) a ffactorau sy’n cefnogi cydweithio effeithiol rhwng y sector cyhoeddus a chymunedau (e.e. cyfalaf cymdeithasol a chysylltiadau, gallu ac adnoddau, seilwaith digidol a ffisegol). Mae’r rhain yn rhoi trosolwg gwerthfawr o gyfranwyr cyffredinol a nodweddion cydweithredu effeithiol, ond maent yn amwys, yn gyffredinol a heb gyd-destun. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd penderfynu beth sy’n bwysig mewn gwahanol gyd-destunau, a sut y gellid cyflawni hyn yno. Yn enwedig mewn mannau lle gall ‘cynhwysion’ fod ar goll neu lle mae’n anodd cychwyn arni.

Drwy ein hadolygiad o dystiolaeth (cam un), rydym ni wedi nodi camau ymarferol a gymerwyd ar draws cyd-destunau amrywiol yn y DU i gefnogi cydweithio rhwng y sector cyhoeddus a chymunedau sydd o fudd i lesiant. Fe wnaethom drefnu’r camau hyn yn dri chategori (sy’n aml yn gorgyffwrdd):

  • gweithgareddau;
  • trefniadau llywodraethu; a
  • strwythurau ariannol.

Byddwn yn cynnal gweithdy ym mis Ionawr 2024 a fydd yn canolbwyntio ar yr hyn y mae canfyddiadau ein hadolygiad yn ei olygu yn ymarferol i ystod o gyrff a sefydliadau ledled Cymru. Rydym ni eisiau deall yn well sut y gallai’r gwahanol gamau a nodwyd o’r dystiolaeth fod yn addas ar gyfer gwahanol nodau cydweithredu a’r gwahanol gyd-destunau y mae’n digwydd ynddynt. Ein nod yw cynhyrchu allbynnau sy’n canolbwyntio ar ymarfer o’r gweithdai hyn, sy’n mynd y tu hwnt i restru ‘cynhwysion’ ar gyfer cydweithredu effeithiol, a chynnig ystod o gamau pendant y gellid eu cymryd mewn cyd-destunau penodol.

Lawrlwythwch y dogfennau y gweithdy a chysylltwch a ni ar info@wcpp.org.uk  am fwy o wybodaeth am y prosoect hwn.