Canllawiau i ysgolion i gefnogi pobl ifanc drawsryweddol

Statws prosiect Ar Waith

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu LHDTC+ ym mis Chwefror 2023, gan ddarparu fframwaith ar gyfer datblygu polisi ar draws Llywodraeth Cymru a phartneriaid i gefnogi unigolion LHDTC+ yng Nghymru. Fel rhan o’r Cynllun Gweithredu LHDTC+, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddarparu canllawiau cenedlaethol priodol i ysgolion ac awdurdodau lleol i gefnogi plant a phobl ifanc drawsryweddol mewn lleoliadau addysg.

Gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru helpu i ddatblygu’r canllawiau hyn drwy archwilio’r sylfaen dystiolaeth bresennol. Rydym wedi comisiynu’r Rapid Research Evaluation and Appraisal Lab (RREAL) yng Ngholeg Prifysgol Llundain i gynnal adolygiad cyflym o dystiolaeth.

Bydd yr adolygiad cyflym o dystiolaeth yn defnyddio dull chwilio ac asesu ansawdd sefydledig, strwythuredig, a thrwyadl i nodi, arfarnu a chyfosod tystiolaeth gyhoeddedig bresennol ar ganlyniadau lles ac addysgol gwahanol ddulliau o gefnogi plant a phobl ifanc drawsryweddol mewn lleoliadau addysg, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth gyhoeddedig sydd ar gael ar ganlyniadau i gyfoedion plant a phobl ifanc drawsryweddolryweddol. Bydd yr ymchwil yn cael ei adolygu gan gymheiriaid sy’n arbenigwyr pwnc a methodolegol.

Bydd canfyddiadau’r adolygiad cyflym o dystiolaeth yn cael eu defnyddio i helpu i ddatblygu canllawiau drafft Llywodraeth Cymru i gefnogi plant a phobl ifanc drawsryweddol mewn lleoliadau addysg cyn ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Bydd yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn hydref 2024.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â info@wcpp.org.uk