Brexit a gweithlu’r GIG

Project status Cwblhawyd

Fel rhan o grant Cronfa Bontio’r UE a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, comisiynodd Conffederasiwn GIG Cymru Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i ddadansoddi’r effeithiau tebygol ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, pa grwpiau staff a allai gael eu heffeithio fwyaf, a’r goblygiadau i’r strategaeth gweithlu tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cadw a recriwtio yn y dyfodol.

Mae ein gwaith – a ysgrifennwyd ar y cyd gan yr Athro Jonathan Portes, Dr Elsa Oommen a Dr Craig Johnson – yn canfod y bydd effeithiau tebygol y rheolau newydd ar GIG Cymru yn fach. Yr her fydd i’r system ddarparu cefnogaeth i weithwyr mudol newydd lywio’r heriau biwrocrataidd sydd ynghlwm. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd mwy o wendidau yn y gweithlu gofal cymdeithasol, a bydd hyn yn arwain at ganlyniadau i’r system iechyd a gofal cymdeithasol integredig os na roddir sylw iddo, gan gynnwys galw cynyddol ar wasanaethau sylfaenol, cymunedol ac acíwt y GIG.