Bydd yr Athro Steve Martin yn rhoi’r gorau i fod yn Gyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ddiwedd mis Tachwedd ar ôl dros ddegawd wrth y llyw, gyda’r Cyfarwyddwr Dros Dro presennol, yr Athro James Downe, yn parhau yn y rôl honno nes y penodir olynydd i Steve. Bydd Steve yn parhau i gefnogi’r Ganolfan mewn rôl ymgynghorol ac yn cyfrannu at ei hymchwil ar ddefnyddio tystiolaeth.
Mae’r Athro Downe wedi bod yn Gyfarwyddwr Dros Dro WCPP ers diwedd 2023 tra bu Steve ar absenoldeb ymchwil yn astudio dulliau effeithiol o gefnogi llunio polisïau yn seiliedig ar dystiolaeth. Bydd James yn cael ei gefnogi gan yr Athro Dan Bristow a fydd yn parhau i arwain gwaith WCPP gyda Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ac Uwch-gymrodyr Ymchwil Amanda Hill-Dixon, Dr Hannah Durrant a Dr Helen Tilley sy’n arwain gwaith y Ganolfan ar Fynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau, Lles Cymunedol, a’r Amgylchedd a Sero Net.
Dywedodd Steve “Rwy’n hynod ddiolchgar fy mod i wedi cael y fraint o sefydlu ac yna arwain y Ganolfan. Mae’n fenter wirioneddol arloesol, ac rydw i eisiau diolch i’n cyllidwyr, ein cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus a’r byd academaidd, ein grŵp cynghori a’r tîm gwych yn y Ganolfan am ei gwneud yn llwyddiant ysgubol.
“Rwy’n falch iawn o fod yn gadael y Ganolfan mewn sefyllfa mor dda ac mewn dwylo mor ddiogel, ac edrychaf ymlaen at gael amser i archwilio heriau a chyfleoedd newydd yn ogystal â pharhau i rannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu dros y degawd diwethaf”.
Ychwanegodd James Downe “Mae Steve wedi darparu arweinyddiaeth ragorol i’r Ganolfan dros flynyddoedd lawer. Mae’r hyn a ddechreuodd fel tîm bach o dri wedi tyfu’n grŵp deinamig o dros ugain o gydweithwyr, pob un yn ymroddedig i ddiwallu anghenion tystiolaeth Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar y sylfaen gref hon yn y blynyddoedd i ddod”.
Sefydlwyd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2013 ar gais y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ac fe’i hariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Mae’n cefnogi gweinidogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gael gafael ar dystiolaeth ac arbenigedd annibynnol awdurdodol sy’n helpu i fynd i’r afael â heriau polisi mawr.
Yn ei degawd cyntaf, ymgymerodd WCPP â thros 200 o brosiectau, gan lywio nifer o bolisïau cenedlaethol a lleol yng Nghymru mewn amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys tai, addysg a hyfforddiant, amaethyddiaeth a physgota, twf economaidd lleol, iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â chynhyrchu ymchwil arloesol ar ddefnyddio tystiolaeth ac effaith ymchwil. Mae’r dull arloesol o ymgysylltu ag ymchwil-polisi sy’n cael ei arwain gan y galw, y mae’r ganolfan wedi’i harloesi, wedi denu diddordeb gan lywodraethau ac ymchwilwyr ledled byd ac mae hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y rhwydwaith What Works. Mae wedi bod yn allweddol mewn amrywiaeth o fentrau eraill gan gynnwys yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO) a chreu Cydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd newydd gwerth £5 miliwn yn Rhondda Cynon Taf.